Llwyddiant Gwirfoddoli efo'r Heddlu

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Eleni mae Undeb y Myfyrwyr wedi helpu Heddlu Dyfed Powys i sefydlu cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli gyda’r heddlu. Mae Adele Jones (Cydlynydd Dinasyddion mewn Plismona) wedi rhoi crynodeb i ni o’r cynllun a llwyddiannau’r flwyddyn!

“Mae hon wedi bod yn dipyn o daith…

Roeddwn wedi clywed am y cynllun gwirfoddoli i fyfyrwyr sy'n cael ei redeg gan Heddlu De Cymru, lle roedden nhw'n recriwtio myfyrwyr i gynorthwyo gyda materion yn ymwneud â’r economi min-nos ar y penwythnos, diogelwch myfyrwyr a materion eraill, ac roeddwn yn awyddus iawn i ddod â'r cynllun hwn, o leiaf rywfaint ohono, i'n heddlu ni. Fy syniad cyntaf am gynllun treialu oedd Prifysgol Aberystwyth; ble well i roi cynnig ar y dull hwn o ymgysylltu â myfyrwyr a'r gymuned leol? Os oes unrhyw le yn mynd i wneud i hyn weithio, Aberystwyth yw hwnnw!

Roeddwn i'n gwybod yn syth y byddai myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn barod am yr her hon - fy ngweledigaeth oedd 'myfyrwyr yn cerdded o gwmpas gyda’r Tîm Plismona Cymunedol, gan gyflwyno negeseuon perthnasol gan yr heddlu ac asiantaethau partner i gyd-fyfyrwyr a thrigolion lleol'. Rwyf bob amser wedi cael cefnogaeth wych gan y Brifysgol, ac roeddwn yn gobeithio y byddai pethau’r un fath y tro hwn.

Diolch byth, roeddwn i'n iawn; roedd Undeb y Myfyrwyr o'r farn y gallai ein cynllun weithio ac roedden nhw gyda ni 100% o'r dechrau. Mae'n amlwg i mi na allem fod wedi cyflawni'r canlyniadau sydd gennym heb eu cefnogaeth.

Nid oedd y broses recriwtio yn ei chyfanrwydd heb ei heriau, i ni fel gwasanaeth heddlu; mae yna reolau penodol y mae'n rhaid i ni gadw atynt ac nid yw pawb yn ffitio i mewn i'r blychau gosod, felly gydag ychydig o addasu a meddwl yn greadigol ond heb blygu'n rhy bell, fe newidion ni siâp y blychau! Roeddwn i wir eisiau i'r cynllun hwn fod mor gynhwysol â phosibl, fel y gallai cynifer o fyfyrwyr ag sy’n ymarferol gymryd rhan.

Gwirfoddolwyr yn 'gerdded o amgylch'

Ar hyn o bryd mae gennym garfan o 13 o wirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr, pob un ohonynt wedi ymrwymo i'r cynllun ac yn sicrhau ei fod yn gweithio iddyn nhw ac i ni. Rwy'n credu mai dyna yw'r allwedd i gynllun gwirfoddoli sy'n gweithio, mae'n rhaid iddo fod o fudd i bawb sy'n ymwneud â’r fenter. Ers iddynt 'gerdded o amgylch' am y tro cyntaf ym mis Chwefror, maent wedi cymryd rhan mewn rhai digwyddiadau ac rwyf yn cael ar ddeall eu bod yn mwynhau'r profiad.

Gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn marcio beiciau

Rwyf wedi dysgu rhai gwersi gwerthfawr drwy'r broses hon; nid yw ein heddlu wedi rhedeg cynllun fel hwn o'r blaen, felly doedd gen i ddim byd ar gyfer cymhariaeth. Y tro nesaf, ac rwy'n eithaf hyderus y bydd yna dro nesaf, rwy'n gobeithio y bydd y broses yn fwy chwim, yn gyflymach ac yn haws i'w rheoli.

Rwy'n gobeithio y byddant yn ailymuno â ni’r tymor nesaf; byddai'n wych eu croesawu yn ôl i'r cynllun ochr yn ochr â rhai wynebau newydd, gobeithio.”

Os ydych chi am ganfod mwy am wirfoddoli gyda’r Heddlu neu unrhyw gyfle arall i wirfoddoli gydag Undeb y Myfyrwyr, e-bostiwch Amy Goodwin.

 

Comments