Mae LinkedIn Learning ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn rhad ac am ddim! Y llynedd, ysgrifennom ni e-bost gyda dolenni defnyddiol i LinkedIn Learning gan obeithio y byddai o help i chi yn ystod cyfnod yr arholiadau.
Ers hyn, rydym wedi rhoi rhestr newydd o adnoddau Linkedin Learning at ei gilydd. Dyma adnoddau sydd ar gael i chi eleni ac roeddem yn meddwl y gallai gynnig cymorth er mwyn lleddfu straen yr arholiadau yn Ionawr 2023. Mae ystod o fideos, cyrsiau ac adnoddau clywedol:
Rhoddodd Sioned, Swyddog Galluoedd Digidol y Brifysgol, y blog hwn at ei gilydd y llynedd, ‘Adnoddau LinkedIn Learning i’ch helpu i baratoi at eich arholiadau’, dyma obeithio bod y blog hwn o ddefnydd i chi. ??
Rydym yn dymuno pob lwc i chi gyda’r holl asesiadau i ddod ac yn gobeithio bod rhai o’r adnoddau hwn yn eich helpu chi!
Ceir mwy o wybodaeth gyffredinol ar LinkedIn Learning isod:
Beth yw LinkedIn Learning?
Mae gan y llwyfan ddysgu ar-lein lyfrgell ddigidol helaeth gan gynnwys cyrsiau a fideos byrion dan arweiniad arbenigwyr, yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnegol. Bydd yr adnoddau hwn yn rhoi’r cyfle i chi fagu eich sgiliau proffesiynol, dysgu meddalwedd newydd, a darganfod meysydd eraill i chi gael eu defnyddio at ddatblygu’n broffesiynol, academaidd a gwella eich cyfleoedd gyrfaol.
Dechrau
Mae i’w gael 24/7 trwy eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol, ewch i LinkedIn Learning trwy fewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr Prifysgol Aberystwyth a’ch cyfrinair. Ceir cyfarwyddiadau mewngofnodi yma.
Dilynwch y fideo hon i ddysgu sut mae cychwyn arni gyda LinkedIn Learning.
Gwybodaeth bellach
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (is@aber.ac.uk).
O ran unrhyw gwestiynau cyffredinol ynglyn â LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). Gellir ymweld â gwefan Gwestiynau a Holi yn Aml Linkedin hefyd.