Gwirfoddoli Crynodeb o’r Tymor Cyntaf

welsh

Fel myfyriwr yn Aberystwyth mae gwirfoddoli yn cwmpasu cymaint o wahanol bethau, felly mae'n wych gweld ystod mor amrywiol o weithgareddau a rolau!

Hyd yma’r tymor hwn mae dros 3,200 awr o wirfoddoli wedi cael eu cofnodi, a hynny gan ddim ond 113 o unigolion! Mae hynny’n anhygoel!!! Fodd bynnag, mae gennym dros 400 o wirfoddolwyr cofrestredig, felly dychmygwch faint o oriau a gweithgareddau heb eu cofnodi sydd ar hyn o bryd!

Mae gweithgareddau’r tymor hwn wedi amrywio o…

  • Cynrychiolwyr Academaidd yn mynychu PYSM ac yn casglu adborth myfyrwyr.
  • Tîm-A yn croesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd, ynghyd â helpu i gadw myfyrwyr yn ddiogel wedi nos.
  • Aelodau o Bwyllgorau Chwaraeon / Cymdeithasau yn trefnu cyfarfodydd, cynnal sesiynau hyfforddi, codi arian ac yn trefnu teithiau neu ddigwyddiadau cymdeithasol.
  • Cyfarfodydd Arweinwyr Cyfoedion gyda myfyrwyr ar eu blwyddyn gyntaf drwy gydol y tymor i ateb pob cwestiwn pwysig a darparu cefnogaeth.
  • Gwirfoddolwyr cymunedol yn helpu gydag ystod eang o weithgareddau, o dasgau sgwrsio i arolygon dolffiniaid, o weithio gyda sgowtiaid a geidiaid i helpu mewn siopau elusennol ac o ymweliadau â’r ysbyty i gynnal patrol cymorth cyntaf.

Roedd llwyddiant Harriers Aberystwyth wrth gynnal ras 5k Tref Aber ymysg y rolau a gweithgareddau gwirfoddoli newydd eleni; hefyd myfyrwyr yn mynychu hyfforddiant ffrindiau dementia a gwirfoddolwyr yn ymgymryd â rôl ein masgot Tîm Aber newydd, DragonyMcDragonFace!

Pa bynnag fath o wirfoddoli mae myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddo’r tro hwn, mae’n deg dweud y byddan nhw wedi gwneud gwahaniaeth!

Os ydych chi wedi gwirfoddoli’r tymor hwn, gallwch weithio tuag at Wobr Aber o hyd a chael cydnabyddiaeth am eich gwirfoddoli!

  1. Ewch i www.umaber.co.uk/gwirfoddoli.
  2. Cofrestrwch fel gwirfoddolwr.
  3. Cofnodwch eich oriau, sgiliau a gweithgareddau yn yr hyb gwirfoddoli.

Os ydych chi’n cofnodi eich oriau o’r tymor hwn, peidiwch â chrynhoi eich oriau gyda’i gilydd! Yn hytrach cofnodwch yr hyn rydych chi wedi’i wneud yn wythnosol. Byddwn yn gwirio’r holl oriau a bydd angen i ni fod â dealltwriaeth dda o’r hyn rydych chi wedi’i wneud i’ch gwobrwyo!

Os nad ydych chi’n gwirfoddoli ar hyn o bryd, ond rydych chi am gymryd rhan, ewch i’n tudalen cyfleoedd cyfredol. https://www.umaber.co.uk/timaber/gwirfoddoli/cyfleoeddcyfredol/

Gyda’r tymor hwn yn dirwyn i ben, rydym am ddweud diolch a da iawn chi i bawb! Edrychwn ymlaen at weld pa wirfoddoli fyddwch chi’n ei wneud y tymor nesaf!

Comments