Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr yn cyflwyno sesiynau 'Galw Heibio' yn ystod Wythnos y Glas

welsh

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr wedi ymestyn eu gwasanaeth i gynnig rhai sesiynau 'Galw Heibio' 1-i-1 ar draws gwahanol leoliadau ar y campws gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr yn ystod wythnos y Glas.

Mae'r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr yn deall sut y gall y dyddiau cyntaf yn y Brifysgol ymddangos yn llethol ar brydiau. Mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn teimlo'n hiraethus iawn am gartref, yn pryderu am fywyd prifysgol a/neu'n poeni am sut i gael gafael ar opsiynau cymorth os oes angen.

Bydd ymarferydd cymwys yn gallu cynnig sgwrs fer 10 munud, bydd yn barod i wrando ar eich pryderon a'ch gofidiau, yn ogystal â'ch cynghori am y gefnogaeth fwyaf priodol i helpu ateb eich anghenion. Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau sesiynau:

 

Swyddfa’r Gwasanaeth Cynghori, Undeb y Myfyrwyr

Dydd Llun 23ain Medi 1pm - 3pm

Dydd Mawrth 24ain Medi 1pm - 3pm

Dydd Iau 26ain Medi 1pm - 3pm

Dydd Gwener 27ain Medi 1pm – 3pm

 

Llyfrgell, Ystafell Grwp 3

Dydd Llun 23ain Medi 1pm - 3pm

Dydd Mawrth 24ain Medi 1pm - 3pm

 

Llety Myfyrwyr, Y Sgubor 1

Dydd Mercher 25ain Medi 1pm – 3pm

Dydd Iau 26ain Medi 1pm - 3pm

Dydd Gwener 27ain Medi 1pm – 3pm

 

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw eistedd yn yr ardal aros y tu allan i bob ystafell nes bod ymarferydd ar gael - does dim angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw!

 

Have a good summer 2025

Tue 01 Jul 2025

Join Team Aber

Tue 01 Jul 2025