Fy mhrofiadau i gyda meicro-ymosodiadau/ymddygiadau gelyniaethus bychain

officer blogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Amdanaf i

Heia, fy enw i yw Bayanda a fi yw’r Swyddog TALIE. Dwi’n astudio biocemeg a ches i fy ngeni yn Gaborone, Botswana ond ces i fy magu yng Nghasnewydd, De Cymru. Yn fy amser sbâr dwi’n mwynhau chwarae pêl-droed Americanaidd a chwarae gemau fideo.

 

Beth yw meicro-ymosodiad

Diffinnir y geiriadur bod meicro-ymosodiad yn ‘sylwad neu weithred sy’n mynegi rhagfarn mewn ffordd gynnil sydd yn aml yn anwybodol neu yn anfwriadol tuag at rywun o grwp o bobl sydd ar gyrion cymdeithas, gall yr ymddygiadau gelyniaethus bychain hwn fod yn brofiad bob dydd i rai.’

Ar gyfartaledd, Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sydd yn wynebu rhan helaeth y meicro-ymosodiadau hwn. Fodd bynnag, mae hefyd yn cael effaith ar fenywod, pobl anabl, ac unigolion LDHTC+ a phobl ddosbarth gweithiol. Yn y DU, mae etifeddiaeth a sgileffeithiau gwladychiaeth hefyd yn cyfrannu at yr agweddau ac ymddygiadau negyddol yn erbyn pobl sy’n gysylltiedig â gwledydd a gafodd eu gwladychu gan Brydain.

 

Enghreifftiau o ymddygiad gelyniaethus bach  fy mod i wedi profi

Pan roedd gennyf i ddredlocs gan amlaf, pobl yn gofyn yn ddi-baid i gael cyffwrdd â’m gwallt oedd y prif feicro-ymosodiad a brofais i. Mae hwn yn brofiad cyffredin, yn enwedig ymysg menywod duon oherwydd yr agweddau negyddol tuag atynt am wisgo eu gwallt yn naturiol. Er bod y diddordeb hwn yn dod ar draws yn ddiniwed, mae iddo gysylltiadau hiliol hanesyddol dwfn. Er enghraifft, dim ond dwy ganrif yn ôl, cipiwyd menywod duon a’i rhoi mewn amgueddfeydd neu i fynd ar daith gyda sioeau i adlonni cynulleidfaoedd gwen.

Pan fyddai pobl yn dod ataf i ofyn a allen nhw gyffwrdd â’m gwallt, fi fyddai’r unig berson du yn yr ystafell a dyma fi’n meddwl, pam nad ydych chi’n gofyn yr un cwestiwn i’ch cyfoedion gwynion?

 

Meicroymosodiad aml arall yw bod pobl yn parhau i ynganu fy enw yn anghywir. Serch tro ar ôl tro i fi gywiro y person. Prin yw’r rhai sy’n fodlon gwrando’n astud a dysgu ynganiad enw di-Saesneg. Fel arfer mae hyn yn dod ar ôl sylwadau fel ‘beth galla’ i dy alw di’n fyr?’ neu ‘dyna enw anarferol’. Cafodd hyn effaith fawr arnaf i yn fy mhlentyndod oherwydd ei fod yn gwneud i fi deimlo’n wahanol i eraill, yn bennaf pan rwyt ti’n treulio cymaint o dy fywyd yn trio ffitio i mewn gyda phawb. Roeddwn yn arfer yn dal dig wrth fy rhieni am alw ‘Bayanda’ arnaf i, pam na allent fod wedi fy ngalw i’n ‘Tom’ neu’n ‘Jack’, roedd yn peri llawer o rwystredigaeth i fi. Dros dreigl amser des i garu fy enw ond pan oeddwn yn iau, nid felly y bu. Oherwydd lliw fy nghroen a hyd yn oed pan fyddaf i gyda fy ffrindiau gwyn, mae sawl tro pan fyddai perchnogion siopau yn dal eu sylw arnaf i. Mae’r weithred hon yn ymddygiad gelyniaethus cynnil yn ôl yr ystrydeb bod pobl dduon yn fwy peryglus ac yn fwy tebyg o gyflawni trosedd. Dwi wedi cael fy hun yn trio ymddwyn mewn ffordd llai amheus mewn siopau o gymharu â’r ffaith bod fy nghyfoedion yn gallu siopa heb boeni dim am hyn.

 

Mae llawer yn cymryd fy mod i’n dod o Lundain. Dechreuodd y meicroymosodiad mewn gwirionedd pan es i’r Brifysgol. Byddai llawer yn gweld lliw fy nghroen a chymryd fy mod i’n dod o Lundain. Mae rhywbeth tebyg yn digwydd i fy nghyfoedion Asiaidd lle mae pobl yn rhagdybio eu bod o Firmingham. Mae hyn yn niweidiol oherwydd mae’n ein lleihau ni i gynrychioli grwp mwy gan wadu ein hunaniaethau fel unigolion. Mae hefyd yn fy mlino pan dwi’n dweud wrth bobl fy mod i’n dod o Gymru ac yna yn cael sylwadau fel ‘does dim golwg Cymreig arnat ti’.

 

Dyma ni’n cyrraedd y syniad o ddallineb lliw. Pan mae pobl yn gwneud sylwadau fel ‘dwi ond yn gweld un hil, y dynol ryw’ neu ‘pan wela’ i di, wela’ i ddim lliw’, dyma chi ddallineb lliw. Mae hyn yn gwadu pwysigrwydd profiad a hanes hiliol/ethnig rhywun. Mae hefyd yn gwrthod ein gweld ni fel bodau hiliol a diwylliannol.

 

Effeithiau ymddygiadau gelyniaethus bychain ar grwpiau ar y cyrion

Mae pob meicro-ymosodiad ar ei ben ei hun yn gallu ymddangos i fod yn ddibwys a bach. Yn y pendraw, mae’r effaith gynyddol yn ddinistriol ond yn anweladwy i bobl sydd ddim yn dyst i’r fath ymddygiad. Mae’r effeithiau yn cynnwys:

  • Colli hunan-werth, teimladau o flinder
  • Niweidio’r gallu i ffynnu mewn amgylchedd
  • Diffyg ymddiriedaeth mewn cyfoedion, staff a sefydliadau
  • Gadael neu gefnu ar swyddi
  • Teimlo fel dinesydd eilradd

 

Beth gallwn ni ei wneud i atal meicro-ymosodiadau?

Mae’n ei gwneud hi’n anoddach i gael gwared â’r arfer gan ei fod yn fwy gynnil o gymharu â rhagfarn amlwg. Mae gweithredoedd bychain yn gallu cyfrannu llawer at fagu cymuned gefnogol trwy arfer bwriadol.

  • Dysgwch enwau eich cyfoedion. Os nad ydych chi’n siwr, gofynnwch ‘elli di helpu i fi ynganu dy enw?’ neu ‘beth fyddai’n well i alw arnat ti’? mae hyn yn gallu golygu llawer.
  • Cyfiawnhau profiadau. Mae profiadau eraill yr un mor bwysig ni waeth a ydych chi wedi’i brofi yn bersonol. Yn lle ceisio dibrisio sefyllfa, gofynnwch iddynt sut maen nhw’n teimlo ac a allwch chi eu helpu.
  • Peidiwch â mynnu. Ymddiheurwch os ydych chi wedi achosi anghysur i rywun. Mae’n well osgoi dweud ‘do’n i ddim yn ei olygu’ neu ‘mond yn jocan dw’i’ – ymddiheurwch a cheisio dod o hyd i ffordd adeiladol i ddatrys y sefyllfa.
  • Ceisiwch osgoi cael eich camarwain gan stereoteips. Gan amlaf, pan rydych chi’n cwrdd â rhywun, rydych chi’n mynd i ragdybio pethau amdanynt ar sail eu golwg.

 

Diweddglo

Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod cefnogaeth a chroeso i bobl o grwpiau ar y cyrion fel eu bod yn gallu magu perthnasoedd da rhwng pobl eraill sydd ar y cyrion a’r rhai sydd ddim. Byddwch yn wyliadwrus am sefyllfeydd a all beryglu ein hamgylchedd groesawgar a’r perthnasoedd da hon. Meirco-ymosodiadau yw’r ffordd fwyaf cyffredin o fynegi hiliaeth bob dydd, boed ar-lein neu wyneb-yn-wyneb, felly mae herio meicro-ymosodiadau yn bwysig iawn.

Bayanda Vundamina

Swyddog Gwirfoddol TALIE

Comments