Fy Mhrofiad gyda Syndrom Tourette

officerblogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Sut beth yw Syndrom Tourette?

Mae Syndrom Tourette yn gyflwr niwrolegol sy’n achosi symudiadau a synau anwirfoddol a elwir yn ‘tics’. Yn gyffredinol, mae’r cyflwr yn cael ei etifeddu ac yn gymhleth ei natur, gyda rhai yn profi cyflyrau eraill yn codi ar y cyd, gan gynnwys OCD (Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol), ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd), problemau cwsg, a gorbryder. Mae’r symptomau yn tueddu i ddod i’r amlwg pan yn ifanc ac mae’n rhaid eu bod yn bresennol am 12 mis o leiaf er mwyn cyrraedd y criteria diagnostig i gael diagnosis.  

Os gennyt ti unrhyw gyflyrau cydafiachedd eraill?

Yn ogystal â’r Tourette’s (fy mod wedi’i alw’n Skittles) mae gen i OCD, gorbryder, ADHD, awtistiaeth ac iselder.

Beth yw hanes dy ddiagnosis?

Dechreuais i ddangos symptomau cyn 10 oed (smicio’n ormodol, magu atal siarad, a chael ambell i blyciad.) Daeth y tics yn fwy amlwg ym mlwyddyn 6 a 7 (plycio amlwg, sgrechian uchel, pesychu, a tharo desg gyfrifiadur y teulu), felly aethant â fi at y meddygon. Yn ystod blwyddyn 7, es i sawl cyfarfod gyda’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (S. CAHMS) lle cefais ddiagnosis o Syndrom Tourette ac OCD yn 2012.

Yn ôl yn 2012, doedd prin gwybodaeth ynghylch Tourette’s o gymharu â’r hyn sydd ar gael nawr. Am gyfnod hir, nid oeddwn wir yn deall beth oedd yn digwydd, a gododd embaras mawr ac ofn arnaf i. Nawr, fodd bynnag, diolch i adfocadau ar y cyfryngau cymdeithasol am ledaenu ymwybyddiaeth a thrafod eu profiadau’n gyhoeddus, rwy’n deall y cyflwr yn well ac mae llai o gywilydd arnaf i ohono.

Sut brofiad gest ti mewn addysg?

Roeddwn yn ei chael hi’n anodd iawn gydag addysg ar adegau. Oherwydd y diffyg dealltwriaeth am fy nghyflwr a’r cywilydd ohono, roeddwn yn atal y tics bob dydd trwy gydol yr ysgol uwchradd oherwydd nad oeddwn eisiau bod yn wahanol. Mae hyn yn golygu roeddwn yn rhy swil i ofyn am amser ychwanegol na gofyn am fy ystafell fy hun yn ystod arholiadau TGAU a lefel-A. Roedd atal y tic mewn arholiadau (a rhai yn 3 awr o hyd) yn uffernol o anodd, ond rhyw fodd, fe lwyddais i.

Yn y diwedd, magais i’r dewrder i sôn am fy nghyflwr wrth fy ffrind gorau i yn y Chweched. Fe oedd y ffrind cyntaf i fi ddweud wrtho, a chododd bwysau enfawr a oedd yn cynyddu ers blynyddoedd oddi ar fy ysgwyddau.

Rwy wedi ei chael hi’n haws o lawer yn fy is-radd yn y Brifysgol. Fe roddais wybod i’r Brifysgol am fy nghyflwr cyn gynted ag y cyrhaeddais a rhoddwyd amser ychwanegol ac ystafell i fi fy hun ar gyfer arholiadau. Yn ystod fy amser yma, rwy wedi cwrdd â phobl anhygoel (myfyrwyr a staff) sydd wedi fy nerbyn i a’r tics ac mae hyn wedi gadael i fi fagu cymaint o hyder ac wedi lleihau’r cywilydd. 5 mlynedd yn ôl, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu dweud y gair ‘Tourette’s’, ond nawr rwy’n rhannu fy mhrofiadau i godi ymwybyddiaeth a helpu eraill gyda’r cyflwr.

Beth yw rhai o’r camsyniadau am Syndrom Tourette?

Y camsyniad mwyaf cyffredin yw bod pawb sydd gyda Tourette’s yn rhegi. Nid yw hynny’n wir. Mae rhegi, neu ddweud pethau cymdeithasol amhriodol, yn cael ei nabod fel coprolalia. Dim ond tua 15-20% sydd â’r fath dic.

Camsyniad arall yw mai synau a symudiadau yw’r tics, gallent fod yn feddyliol hefyd.

Mae yna gamsyniad fod Syndrom Tourette gan bawb sydd â thics, nid yw hynny’n wir chwaith. Mae sawl peth yn gallu achosi tics ee straen neu orbryder, cyflyrau eraill sydd â thics, ffactorau amgylcheddol, a chyflyrau eraill fel ADHD.

Ychydig o ffeithiau diddorol am Syndrom Tourette

Mae rhai pobl sydd â Syndrom Tourette yn gallu atal eu tics, gan olygu eu bod yn gallu ‘dal eu tics i mewn’. Fodd bynnag, mae hyn yn gofyn am lawer o ffocws ac egni, ac felly yn eu blino fel canlyniad. Bydd rhai yn atal eu tics mewn amgylchiadau cymdeithasol penodol (ee llyfrgell, ystafell ddarlithio, yn y sinema, neu mewn cyfarfodydd), neu oherwydd nad ydynt yn teimlo’n hyderus.

Mae rhai tics yn gymhleth iawn ac yn cynnwys brawddegau cyfan. Canodd fy ffrind pen-blwydd hapus yn ei gyfanrwydd fel tic un tro.

Cyn i dic ddigwydd, mae llawer o unigolion gyda Tourette’s yn teimlio rhywbeth a elwir yn ‘ysfa rhagflaenol’ (teimlo pwysau i orfod gwneud y tic) lle mae yna deimlad corfforol anghyfforddus sy’n cynyddu (fel arfer yn y rhan o’r corff lle bydd y tic yn digwydd) tan fod y tic yn digwydd.

Mae rhai yn disgrifio’r teimlad hwn fel rhywbeth yn cosi, llosgi, canu neu deimlad trydanol. Mae’r teimlad hwn yn aml yn mynd yn llymach wrth geisio atal tics.

Nid yw union achos Syndrom Tourette wedi’i benderfynu’n llawn eto. Mae sganiau o’r ymennydd wedi bwrw golau ar sut mae rhannau penodol o’r ymennydd sy’n rheoli symud yn gweithio’n wahanol i ymennydd heb Tourette’s. Mae rhai astudiaethau yn awgrymu efallai bod achos y cyflwr yn gysylltiedig â’r ffordd mae niwrotrawsyrrwyr (S. Neurotransmitters) yr ymennydd yn gweithio a chynhyrchiad dopamin. Ni cheir iachâd ar gyfer Syndrom Tourette!

Oes gennyt ti unrhyw gyngor i bobl sydd â Syndrom Tourette neu anhwylder tic, neu bobl sydd newydd gael ei diagnosis?

Mae dangos eich tics i rywun yn gallu bod yn anodd iawn. Mae hefyd yn gallu bod yn anodd dweud wrth bobl bod gennych chi dics rhag ofn eu hymateb. Efallai bod cywilydd, ofn, embaras neu bryder y byddwch yn sarhau rhywun neu gael eich gweld yn wahanol. Er bod atal tics yn gallu eich helpu i deimlo’n saffach, mae’n gallu blino person. Ar ôl atal y tics trwy gydol yr ysgol uwchradd, Chweched, ac ychydig o’m blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, rwy eisiau helpu eraill i deimlo eu bod yn gallu bod fel maen nhw a thicio’n hyderus. Mae ticio yn gyhoeddus yn gallu codi ofn ac embaras, ond gallwch ddechrau trwy dicio o flaen cydletywr/ffrindiau agos i fagu eich hyder.

 

Cameron Curry

Swyddog Llesiant

Comments