Ffair Tai UMAber 2018

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ar dydd Iau bydd Ffair Tai UMAber 2018, a roeddem ni'n meddwl ei bod hi'n amser i ni gyhoeddi pwy fydd yn mynychu'r digwyddiad eleni er mwyn i chi fedru paratoi cwestiynau (os oes ganddo chi rhai).

Mae’r Ffair Tai UMAber  yn gyfle anhygoel i chi ddechrau deialog gyda landlordiaid ac asiantau gosod yn yr ardal. Dim ond darparwyr sydd wedi cofrestru gyda Rent Smart Wales sy'n cael gwahoddiad i fynychu, ac mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael trwy gydol y dydd i roi cyngor ac arweiniad ar gytundebau tenantiaeth, biliau, diogelwch, arbed ynni a llawer iawn mwy.

Pwrpas y ffair yw rhoi yr holl wybodaeth i chi ac atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn i chi ddechrau chwilio am eich cartref newydd yn y brifysgol.

Gan ein bod ni'n nesáu at yr adeg o'r flwyddyn pan fydd llawer ohonoch yn dechrau chwilio am dy newydd, mae staff a swyddogion UMAber wedi llunio canllaw tai fydd ar gael i chi bigo fyny o'r Ffair Dai, i'ch helpu gyda'r dasg o ddod o hyd i le i fyw! Mae rhestr wirio tai defnyddiol yn y canllaw hwn hefyd.

Y peth pwysicaf i'w gofio yw ... peidiwch â rhuthro i mewn i unrhyw beth, mae digon o amser.

Os ydych chi angen cyngor, neu os ydych chi am i ni fwrw golwg dros eich cytundeb, yna cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori UMAber ar undeb.cyngor@aber.ac.uk.

Tudalen Digwyddiad Yma.

Comments