Etholiadau Swyddogion Undeb Aber 2026: Cyfarfod a’r tîm newydd!

bannerwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae'r bleidlais ar gau a’r pleidleisiau wedi cyfri (pleidleisiodd 35% o fyfyrwyr yn yr etholiad eleni), ac rydym wrth ein bodd i gyhoeddi canlyniadau Etholiadau Gwanwyn Undeb Aber 2026! Ar ôl cyfnod ymgyrchu cyffrous a heulog, rydym yn barod i gyflwyno'r Swyddogion Llawn Amser a’r Swyddogion Gwirfoddol sydd newydd eu hethol a fydd yn eich cynrychioli ac yn siapio bywyd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Dyma fydd y criw cyntaf i ymgymryd a’r rolau swyddogion llawn amser newydd sbon.

Diolch i bawb a bleidleisiodd, ymgyrchodd, a chymerodd ran i wneud y broses ddemocrataidd hon yn un llwyddiannus!

 

Llongyfarchiadau i’r holl ymgeiswyr.

#EtholiadauAber

 

Swyddogion Llawn Amser
Byddant yn gweithio'n ddiflino i eirioli dros eich anghenion, cysylltu â'r brifysgol, ac arwain ymgyrchoedd effeithiol.

Dyma’r tîm swyddogion 2025-2026:

  • Llywydd Academaidd Laura Young
  • Llywydd Cyfleoedd Francesco Lanzi
  • Llywydd UMCA Gwenno Roberts
  • Llywydd Lles a Rhyddid Alice Leroy

 

Swyddogion Gwirfoddol
Mae ein Swyddogion Gwirfoddol yn rolau rhan-amser wedi'u llenwi gan fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli eu hamser ochr yn ochr a’u hastudiaethau.


Dyma eich Swyddogion Gwirfoddol newydd:

  • Cadeirydd yr Undeb Tomos Akash Padel
  • Swyddog yr Iaith Gymraeg Elliw Mair
  • Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd Kyra Ellis
  • Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+ Bryn Talbot
  • Swyddog y Menywod Natasha Goodwin and Ava Conlon
  • Swyddog y Myfyrwyr Anabl Nick Green
  • Swyddog y Myfyrwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Anisa Mudassar
  • Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol Ebenezer Smith Baidoo
  • Swyddog Myfyrwyr Annibynnol Jack Squire
  • Swyddog Y Myfyrwyr Hyn Mesh Tamilchelven
  • Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol Rowan Peill
  • Cyfadran y Dyniaethau Swyddogion Megan Taki Owen
  • Cyfadran y Gwyddorau Swyddogion Tia Narayana

 

Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd ein Swyddogion Llawn Amser yn dechrau yn eu swydd ar y 1af o Orffennaf 2026, yn dilyn cyfnod trosglwyddo gyda'r tîm presennol. Bydd Swyddogion Gwirfoddol yn dechrau eu rolau ochr yn ochr â'u hastudiaethau ar ddechrau'r tymor academaidd nesaf.