Etholiadau Swyddogion Undeb Aber 2025: Cyfarfod a’r tîm newydd!

bannerwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae'r pleidleisiau i mewn (pleidleisiodd 34% o fyfyrwyr yn yr etholiad eleni), ac rydym wrth ein bodd i gyhoeddi canlyniadau Etholiadau Gwanwyn Undeb Aber 2025! Ar ôl cyfnod ymgyrchu cyffrous, rydym yn barod i gyflwyno'r Swyddogion Llawn Amser a’r Swyddogion Gwirfoddol sydd newydd eu hethol a fydd yn eich cynrychioli ac yn siapio bywyd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Diolch i bawb a bleidleisiodd, ymgyrchodd, a chymerodd ran i wneud y broses ddemocrataidd hon yn un llwyddiannus!

Llongyfarchiadau i’r holl ymgeiswyr.

#EtholiadauAber

 

Swyddogion Llawn Amser
Byddant yn gweithio'n ddiflino i eirioli dros eich anghenion, cysylltu â'r brifysgol, ac arwain ymgyrchoedd effeithiol.

Dyma’r tîm swyddogion 2025-2026:

  • Llywydd:  Millie Hackett
  • Swyddog Llesiant: Tanaka Chikomo
  • Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr:  Ffion Johns
  • Swyddogion Materion Academaidd: Esperanza Bizama Monnier
  • Swyddog Diwylliant Cymreig & Llywydd UMCA: Nanw Maelor

 

Swyddogion Gwirfoddol
Mae ein Swyddogion Gwirfoddol yn rolau rhan-amser wedi'u llenwi gan fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli eu hamser ochr yn ochr a’u hastudiaethau.

Dyma eich Swyddogion Gwirfoddol newydd:

  • Ymddiriedolwyr Ôl-raddedig: Tristan Wood
  • Cadeirydd yr Undeb: Francesco Lanzi
  • Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd: Blue Bell 
  • Swyddog yr Iaith Gymraeg: Elliw Mair
  • Swyddog y Myfyrwyr Hyn: Mesh Tamilchelven
  • Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol: Christopher Arimma
  • Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+: Fresno Rhys Thomas
  • Swyddog y Menywod: Natasha Goodwin
  • Swyddog y Myfyrwyr Anabl: Billy Smith and Harley Harrison
  • Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol: Mason Gee
  • Swyddog Myfyrwyr Annibynnol: Kathleen Pritchard
  • Swyddog y Gyfadran Gwyddorau: Spencer Tinklin
  • Swyddog y Cyfadran Dyniaethau: Mariam Elsergany

 

Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd ein Swyddogion Llawn Amser yn dechrau yn eu swydd ar y 1af o Orffennaf 2025, yn dilyn cyfnod trosglwyddo gyda'r tîm presennol. Bydd Swyddogion Gwirfoddol yn dechrau eu rolau ochr yn ochr â'u hastudiaethau ar ddechrau'r tymor academaidd nesaf.