DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM
Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.
Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.
Sbotolau ar Eleri Wyn, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Beth yw dy rôl yn Undeb y Myfyrwyr?
Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu - Yn y bôn, rydw i'n gofalu am y wefan, cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw ffrydiau cyfathrebu eraill, yn ogystal â rheoli incwm gwerthiant cyfryngau.
Ble mae dy gartref?
Bydd fy nghartref bob amser ar y fferm gyda fy Nhad a fy chwiorydd yng nghanolbarth Cymru - ond rydw i nawr yn gwneud ein ty yng Ngheredigion yn gartref gyda fy nheulu bach.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Cinio cig oen (ond rhaid iddo fod yn gig oen o fy nghartref)
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Treulio amser gyda fy machgen bach Harri, ymweld â theulu a ffrindiau, mynd am dro, canu gyda chôr lleol a thynnu lluniau o bopeth.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Rwyf wrth fy modd gallu mynd am dro ar lan y môr ar ôl diwrnod yn y gwaith... mae'n help mawr os ydych chi weithiau’n cael diwrnod anodd i fynd am dro ac anadlu awyr iach y môr.
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Rwyf wrth fy modd yn gwneud fy mhrintiau a chardiau cyfarch fy hun fel anrhegion i ffrindiau neu ar gyfer achlysuron teuluol ... efallai y byddwn yn ddigon dewr i droi hyn yn fusnes bach.
Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?
Dwi wrth fy modd bod pob diwrnod yn wahanol... does dim dau ddiwrnod yr un fath.
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Fel myfyriwr, doeddwn i ddim yn ymwneud â llawer o weithgaredd undeb myfyrwyr, ar wahân i fod yn rhan o weithgareddau a grwpiau UMCA. Er gwaethaf hyn, mae fy mhrofiad gwaith i gyd wedi bod yn gweithio i fudiadau democrataidd, ac mae'r tebygrwydd rhwng y rhain wedi bod yn ddefnyddiol.
Mae UMAber... yn gymuned i fyfyrwyr Aber gwrdd â ffrindiau gydol oes
Nid yw UMAber… yn far
Nid yw'r Haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf?
Cynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn bennaf... ond gyda ffocws mawr ar gyfathrebiadau ar gyfer y glasfyfyrwyr (h.y. cynllunydd wal, gwefan-fach-y-glas a negeseuon croeso i fyfyrwyr newydd). Hefyd diweddaru a chynnal gwefan UMAber (sy'n cynnwys platfform cyllid ar gyfer grwpiau myfyrwyr a sicrhau bod ein staff yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i ddiweddaru'r wefan).