Eiconau Cymreig Pride trwy gydol hanes

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Boneddigesau Llangollen

Roedd "Boneddigesau Llangollen", Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn ddwy fenyw Wyddelig o'r dosbarth uchaf y gymdeithas, wnaeth eu perthynas tramgwyddus wedi gwarth swyno eu cyfoedion. Cyfarfu’r ddau yn 1968 a symudon nhw i Langollen, Gogledd Cymru, ar ôl gadael eu bywydau breintiedig yn Iwerddon tu ôl i ddianc rhag pwysau cymdeithasol priodasau confensiynol.

Yn gyntaf buon nhw'n rhentu ty yn y pentref, yn 1780 symudon nhw i mewn i fwthyn y tu allan i’r pentref a elwid yn “Plas Newydd.” Daeth eu ty yn hafan i ymwelwyr oedd yn teithio rhwng Dulyn a Llundain, gan gynnwys ysgrifenwyr megis Anna Seward, Robert Southey a William Wordsworth a ysgrifennodd soned amdanynt. Ymwelodd Anne Lister o Swydd Efrog â’r cwpl ac mae’n bosib cafodd hi ei hysbrydoli gan eu perthynas i briodi cariad ei hun yn anffurfiol.

Mae dyddiadur Eleanor Butler yn cynnwys mewnwelediadau gwerthfawr i'w bywydau bob dydd, mae'n ysgrifennu ddydd Iau 22 Medi 1785:

'I fyny am Saith. Bore Tywyll, yr holl Fynyddoedd wedi eu gorchuddio mewn niwl. Glaw Trwchus. Tân yn y Llyfrgell, hyfryd o gysurus, Brecwast am hanner awr wedi Wyth. O naw hyd un yn ysgrifennu. Fy Anwylyd Arlun Castell Penfro – o un i dri yn darllen iddi – ar ôl swper Mynd ar frys o gwmpas y gerddi. Roedd hi'n bwrw glaw yn ddi-dor drwy'r dydd – o bedwar tan Ddeg yn darllen i fy Sally – Mae hi'n tynnu llun – o ddeg tan Un ar ddeg Sat dros y Tân Yn Sgwrsio â Fy Anwylyd. Diwrnod Tawel, hapus.'

Roedd y boneddigesau yn adnabyddus ledled Prydain ond dywedir arweinion nhw "bywyd braidd yn annifyr". Roedd y Frenhines Charlotte am weld eu bwthyn a pherswadiodd y Brenin Siôr III i roi pensiwn iddynt. Yn y diwedd, daeth teuluoedd y boneddigion i'w goddef.

Defnyddiwyd Elin-Salt y Boneddigesau Llangollen fel ysbrydoliaeth ar gyfer ei drama Celebrated Virgins, gobeithiwyd y bydd yn gwneud cynulleidfaoedd yn “Cyffrous am Hanes Queer”. Gallwch ddarganfod mwy am Foneddigesau Llangollen yn llyfr Elizabeth Mavor - "The Ladies of Llangollen: A Study in Romantic Friendship".

Mae Plas Newydd bellach yn amgueddfa sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych.

Henry Cyril Paget

Henry Cyril Paget, a elwid yn “Toppy”, oedd 5ed Ardalydd Môn ac Ystrad Plas Newydd yng Nghymru.

Yn ysgrifennu ym 1970, rhoddodd H. Montgomery Hyde bortread ohono fel “yr uchelwr hoyw mwyaf adnabyddus yn y cyfnod hwnnw”

Etifeddodd Henry Blas Newydd, ystrad y teulu, ym 1898. Yna trodd y capel teuluol yn theatr addurnedig â 150 o seddi a fe’i alwyd y Gaiety arni. Roedd yn perfformio yno yn rheolaidd gyda’i gwmni theatr a gwahoddodd y bobl leol o Fôn i ddod i’r perfformiadau am ddim. Teithiodd hefyd ar draws Ewrop gyda’i gwmni a pherfformiodd ddramâu gan Oscar Wilde – a oedd wedi cael ei garcharu am ‘anweddustra’.

Mae’r ffotograffau sydd wedi goroesi yn dangos Henry mewn gwisgoedd, weithiau yn croeswisgo, gyda golwg hyderus arno yn wynebu’r camera. Enillodd ei lysenw ‘y Marcwis a ddawnsiai’ am ei ddawns droellog yn ystod ei berfformiadau. Roedd yn ymbleseru mewn dillad a gemwaith, a chasglodd ddetholiad syfrdanol o ddillad a gwisgoedd haute couture, er i hyn ei roi ef a’i ystrad mewn dyled sylweddol.

Priododd ef ond cafodd y briodas ei dirymu oherwydd na chafodd ei chyflawni.

Fel unig blentyn heb ei blant ei hun, ar ôl ei farwolaeth aeth ei deitl i’w gefnder, Charles Henry Alexander Paget. Erbyn Awst yr un flwyddyn honno, cafodd ei annwyl theatr ei dymchwel ac yn ei lle bu capel unwaith eto ym Mhlas Newydd. Mewn gwirionedd, bu bron i Paget ddiflannu heb adael awgrym y buodd yn ardalydd, rhoddwyd ei lythyrau, ei ddyddiaduron a’i bapurau ar dân a’u dinistrio gan y teulu. Ailenwyd yr ystrad teuluol yn Blas Newydd unwaith eto.

Fodd bynnag, mae ei hanes wedi goroesi treigl amser ac wedi ysbrydoli llawer o bobl greadigol hyd heddiw. Yn 2017 ysgrifennodd yr actor a’r cyfansoddwr Seiriol Davies sioe gerdd a chwarae rôl ynddi o’r enw How To Win Against History, a oedd yn seiliedig ar fywyd Paget. Mae’r dylunydd ffasiwn Prydeinig-Americanaidd, Harris Reed wedi sôn fod Paget yn ysbrydoliaeth ar gyfer ei gasgliad 2020 Thriving In Our Outrage.

“Nid hanes am ddyn a wariodd bob ceiniog yn unig yw e – mae hefyd am ddyn a gafodd ei ddileu o hanes,” medd Davies.

Gwendolen Mary John

Roedd Gwen John yn artist a gafodd ei geni yn Hwlffordd, Sir Benfro. Roedd ei lluniau am y rhan fwyaf, yn cynnwys portreadau o fodelau benywaidd di-enw a baentiwyd mewn ystod o donau cysylltiedig tebyg. Roedd gan ei brawd, Augustus enw am baentio celfwaith mwy llachar, fodd bynnag ers  ei marwolaeth mae ei gwaith wedi dod yn fwyfwy enwog ac mae wedi ennill mwy o gydnabyddiaeth. Wnaeth Augustus ragweld ei chwaer yn bwrw ei waith i’r cysgod gan ddweud “ymhen 50 mlynedd, bydda’ i’n cael fy nabod fel brawd Gwen John.”

Astudiodd Gwen yn Ysgol Gelf Slade o 1895 tan 1898 – yr ysgol gelf gyntaf yn y DU i dderbyn myfyrwyr benywaidd. Ym 1904 teithiodd Gwen a’i ffrind Doreila McNeill i Baris, lle y cawsant waith fel modelau i artistiaid, dyma pan ddaeth yn fodel i’r cerflunydd Auguste Rodin.

Magodd Gwen deimladau obsesiynol tuag at Rodin fel y cofnodwyd yn y miloedd o lythyrau iddo fe. Er y tybir mai Rodin yw ei chariad pennaf, cafodd sawl perthynas o’r un rhyw.

O 1910 tan ei farwolaeth ym 1924 prynodd John Quinn y rhan fwyaf o waith Gwen – wnaeth hyn adael iddi roi’r gorau i weithio fel model ac ymroddi ei hamser llawn i’w gwaith celf. Heddiw cedwir gwaith celf Gwen mewn sawl casgliad cyhoeddus gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a’r Tate Britain yn Llundain.

Mae ei henw hefyd yn goroesi trwy’r ddrama “Still lives by the Canidida Cave”, a’r nofel “the Gwen John Sculpture” gan John Malcom a’r rhaglen ddogfennol gan S4C am ei bywyd a gyflwynwyd gan Ffion Hague. Ffocws nofel Margaret Foster, “Keeping the world away” oedd ar baentiad “a corner of the Artist’s room in Paris”. Mae’r stori hon yn seiliedig ar Gwen a’r menywod a oedd yn byw yno ar ei hôl hi.

Yn ei bywyd hwyr, trodd Gwen yn ôl at gatholigiaeth, ni phriododd hi erioed nag “ymgartrefu â neb”. ‘Efallai bod gwir ddirgelwch bywyd Gwen John y ymwneud yn llai â’i natur astrus ei hun nag yw hi i’w gwneud â’r problem o pam rydyn ni’n ei gweld hi mor anodd i ddychmygu bywyd a meddwl artist benywaidd yn byw ar ei phen ei hun.’ – Sue Roe

Sarah Jane Rees

Roedd Sarah Jane Rees yn athro, bardd, golygydd, capten o fri ac ymgyrchydd dros ddirwest o Langrannog, Ceredigion. Ei henw barddol oedd Cranogwen.

Fel merch i John Rees, a oedd yn gapten ei hun, mynnodd fod rhaid iddi ddod â’i thad ar y môr yn hytrach na’r holl wnïo a choginio adref a oedd yn gas ganddi.

Astudiodd yn yr ysgol bentref fel plentyn ifanc a dysgodd ei phrifathro Hugh Davies Ladin ac seryddiaeth iddi. Yna mynychodd hi’r ysgol yng Nghei Newydd ac Aberteifi cyn astudio morwriaeth yn Llundain, yn ennill ei thystysgrif feistr a dod yn gapten ei hunan. Ym 1858, sefydlodd Sarah ei hysgol forwriaeth ei hunan yn Llangrannog.

Fel bardd enillodd ei phrif wobr Eisteddfod gyntaf ym 1865 yn Aberystwyth mewn canu am “y Fodrwy Briodasol”, ac yn sgil hynny cyhoeddodd gyfrol o gerddi “Caniadau Cranogwen” ym 1870.

Daeth Sarah hefyd yn olygydd ar ‘Y Frythones’ (1878-1889), cylchgrawn Cymraeg i fenywod a oedd yn “llwyfan i ysgolheigesau a’r swffrajetiaid cyntaf Cymru”.

Roedd hi’n un o aelodau sefydliadol yr Undeb Dirwest Menywod De Cymru (UDMD) ym 1901. Sefydlwyd Llety Cranogwen ym 1922 ac roedd yn lloches i fenywod a merched digartref gan yr UDMD. Enwyd y lloches ar ôl enw barddol Sarah er mwyn gwneud coffa am ei gwaith dros wella bywydau menywod Cymru.

Roedd yn hysbys y cafodd Sarah 2 berthynas hirdymor gyda menywod. Fanny Rees oedd ei chariad cyntaf, ond yn drasig iawn, bu farw gan dwbercwlosis ym mreichiau Sarah. Aeth ei galar yn drech arni gymaint ar ôl marwolaeth Fanny, nad oedd yn gallu rhoi blodau ar ei bedd am 12 mlynedd. Ysgrifennodd gerdd er cof Fanny o’r enw “Fy Ffrynd”. Roedd ei hail berthynas gyda Janes Thomas, parhaodd y berthynas hon am rhan fwyaf ei hoes. Mae ei pherthnasoedd wedi’u disgrifio fel “cyfeillgarwch rhamantus” a serch y trefniadau anghonfensiynol fe arhosodd yn Fethodsen i’r carn a theithiodd i ddarlithio ar addysg, dirwestaeth a phynciau eraill. Rhwng 1869-1870, teithiodd ar draws America, yn ymweld am y rhan fwyaf, â’r cymunedau Cymraeg eu hiaith a fudodd yno.

Yn 2019, cafodd Sarah ei rhoi ar y rhestr fer i’w gwaith celf gael ei gosod yng Nghaerdydd. Yn Rhagfyr 2021, cafodd Sebastian Boyesen ei gomisiynu i greu cerflun o Cragowen yn Llangrannog.

Comments