Dyw hyn ddim yn iawn?

welsh

Ydych chi'n cael LLWYTH o negeseuon gan y person rydych chi'n ei weld? Efallai bod rhywun wedi bygwth rhannu lluniau y gwnaethoch chi eu hanfon yn breifat? Ydy eich cariad yn gwneud ichi deimlo'n euog drwy'r amser am eich bod chi eisiau gweld eich ffrindiau am unwaith yn lle ei weld ef/ei gweld hi? 

 Mae'r rhain i gyd yn arwyddion o reolaeth drwy orfodaeth. Does gan neb yr hawl i'ch rheoli, gwneud ichi deimlo'n anghyfforddus na gwneud ichi deimlo ar fai.

Dyw hyn ddim yn digwydd mewn perthynas iach. Mae perthynas iach yn seiliedig ar ymddiriedaeth, cydraddoldeb a pharch.

Does dim rhaid ichi fod yn gwpwl swyddogol ar Facebook i gael eich rheoli mewn perthynas, a does dim ots beth yw natur eich perthynas; mae'n gallu digwydd i unrhyw un, beth bynnag eich rhywedd, mewn unrhyw fath o berthynas - swyddogol neu beidio.

"Ond dw i'n ei garu/charu... mae e/hi yn gwneud hyn am ei fod/bod yn fy ngharu..."

Os yw hyn yn swnio'n gyfarwydd, efallai ei bod yn amser ichi ddarllen hwn: llyw.cymru/dywhynddimyniawn