Dyma ni’n Ffarwelio â Rheolwr Cyfleoedd UMAber, Gav Allen

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ar ôl bron i 14 mlynedd, mae Gav yn gadael yr UM i ymgymryd â rôl newydd a chyffrous fel Pennaeth Ieuenctid gyda Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

Dechreuodd Gavin Allen ar ei waith yn UMAber yn 2006 fel Gweinyddwr yr Undeb Athletau, yn dilyn gyrfa bêl-droed lewyrchus. Penodwyd Gav i rôl y Rheolwr Cyfleoedd yn 2016, ac mae wedi gweld gweithgaredd Chwaraeon a Chymdeithasau yn Aber yn mynd o nerth i nerth, gyda 42% o fyfyrwyr bellach yn aelodau o Dîm Aber.

Pan ofynnwyd iddo am uchafbwyntiau, dywedodd Gav: “Mae'n wych gweld sut mae ein digwyddiadau wedi datblygu. Er enghraifft, ar y dechrau dim ond 8 tîm dynion ac 8 tîm menywod oedd yn Superteams, ac erbyn hyn mae 28 tîm gan y dynion a’r menywod, ac maent yn gwerthu allan yn syth”

Bydd cydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd yn gweld colled fawr ar ôl Gav. Bydd llawer yn ei gofio am y gwaith y mae wedi'i wneud i ddatblygu digwyddiadau allweddol gan gynnwys Superteams y Dynion a’r Menywod, yn ogystal â Rygbi 7-bob-ochr Aber, a bydd unrhyw un sydd erioed wedi bod angen gair o gyngor neu gerydd yn ei gofio am ei 'sgyrsiau Gav' enwog.

Er ei bod yn anodd cael neb i lenwi ei rôl, bydd UMAber yn dechrau recriwtio ar gyfer swydd y Rheolwr Cyfleoedd dros y mis nesaf. Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw gyngor i'w olynydd, dywedodd Gav y dylent “groesawu bywyd Undeb y Myfyrwyr a'r diwylliant sy’n perthyn iddo. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chymaint o Swyddogion a myfyrwyr anhygoel a'u gweld yn datblygu ac ennill eu parch, ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw a'r Undeb yn y dyfodol”

Comments