Dim Esgusodion

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Molly-Jean Longden, Swyddog Llesiant 

Helo gyfeillion annwyl <3

Ddoe, lansiwyd ein hymgyrch newydd: Dim Esgusodion! Credwn fod gan ein holl fyfyrwyr a staff yr hawl i fyw, gweithio ac astudio mewn amgylchedd sy'n rhydd o ofnau ynglyn â bwlio, aflonyddu a thrais. Rydym yn ymuno â'r brifysgol a darparwyr lleol i ddweud na i Fwlio, Aflonyddu, Trais ac unrhyw ymddygiad amhriodol arall, ac yn annog ein myfyrwyr a'n staff ar y campws i herio a dwyn sylw at ymddygiad o’r fath er mwyn rhoi terfyn arno. Does Dim Eithriadau, a dyna ddiwedd ar y mater.

Mae pethau fel bwlio, aflonyddu a thrais yn aml yn dechrau gyda chred ynglyn â hunaniaeth unigolyn, sy’n gallu ffurfio rhagfarnau yn erbyn grwpiau o bobl. Mae Dim Esgusodion yn ymgyrch sy'n tynnu sylw at ymddygiad a rhagfarnau o’r fath - hyd yn oed cyn iddynt gael eu ffurfio - drwy addewidion, gweithredu, gorymdeithiau, celf a dysgu i ddeall ein gilydd.

Mae'r ymgyrch hon yn deillio o flynyddoedd lawer o bolisi yn dod drwy'r undeb ar Ddim Goddefgarwch a diogelu cred a hunaniaeth, ac fel undeb, penderfynom fod angen gwneud rhywbeth mwy i greu newid!

Felly, ein haddewid i chi yw y byddwn ni'n gweithio i greu newid diwylliannol ar y campws, gan addysgu myfyrwyr a staff ynglyn ag ymddygiad annerbyniol. Byddwn yn lansio system adrodd ar-lein newydd mewn partneriaeth â'r brifysgol, yn tynnu sylw at y gwahanol ffynonellau cymorth sydd ar gael, ac yn olaf (ar hyn o bryd) yn gweithio gyda busnesau lleol a lleoliadau yn y dref i greu mannau diogel i ddioddefwyr.

Y cyfan a ofynnwn gennych chi yw eich bod yn llofnodi ein haddewid ac os ydych chi am fynd ati o ddifrif i gymryd rhan yn yr ymgyrch hon, beth am fod yn Eiriolwr dros Newid a'n helpu ni i weithio ar wneud ein campws yn lle mwy diogel a chyfeillgar!

Os ydych chi am wybod mwy am yr ymgyrch, canfod pa wasanaethau sydd o'n cwmpas, dod i wybod mwy am y system adrodd neu dim ond darganfod beth yw'r sefyllfa, ewch yma.

Rydw i'n teimlo'n gyffrous iawn i fod yn lansio'r ymgyrch anhygoel hon, a hoffwn gymryd munud i ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino i wireddu'r ymgyrch hon, yn enwedig ein tîm staff am wneud i hyn ddigwydd. A diolch i'r rheini yn y brifysgol ac aelodau’r grwp newid y diwylliant am sbarduno’r fenter, gyda'ch angerdd a'ch cefnogaeth.

Llawer o gariad atoch chi i gyd, a chofiwch - does Dim Esgusodion. Dyna ddiwedd ar y mater.

#DimEsgusodion

Comments