Enw a Rôl: Elain Gwynedd (hi/ei). Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
Cyflwyniad byr: S'mai! Elain 'dw i, a fi yw Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf! 'Dw i'n wreiddiol o Borthaethwy, Ynys Môn ond mi fentrais i Brifysgol Aberystwyth yn 2020 i astudio'r Gymraeg. Mae'r flwyddyn hon yn un eithriadol o gyffrous i UMCA am ein bod yn dathlu'r 50, ac felly 'dw i'n edrych ymlaen at ddechrau cynllunio'r dathliadau.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: Yn 2015, roeddwn i'n canu mewn côr ar Britain's Got Talent a mi gawsom ni 3ydd!
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau: Brwdfrydig, Gweithgar, Hapus.
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: Têc awê Chinese o Chan's Felinheli gyda Manon Steffan Ros, Mererid Hopwood a Tara Bethan.
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?: Canu ac actio. Chwaraeon (pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi, padl-fyrddio). Darllen ac ysgrifennu creadigol.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?: Yn gyntaf oll, 'dw i'n eithriadol o frwdfrydig dros y Gymraeg, a'r hawl i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly roedd ymgeisio am y rôl fel Swyddog Diwylliant Cymreig yr Undeb yn gam naturiol yn fy nhyb i. 'Dw i hefyd yn eithriadol o ddiolchgar am yr holl brofiadau 'dw i wedi eu cael drwy fod yn aelod o UMCA dros y tair blynedd diwethaf, ac felly'n gobeithio rhoi'r un profiadau gwerthfawr i aelodau UMCA eleni.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?: Y Ddawns Ryng-gol! Rydym yn croesawu Cymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Cymru am benwythnos i Aberystwyth fis Tachwedd bob blwyddyn am ddawns yn yr Undeb gyda bandiau Cymraeg byw!
Pa achosion sydd o bwys i chi?:
-
Sicrhau fod y Gymraeg yn weledol o fewn yr Undeb.
-
Datblygu'r ddarpariaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg.
-
Trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous i aelodau UMCA ar hyd y flwyddyn.
-
Denu mwy o ddysgwyr i ddigwyddiadau UMCA, megis Swn.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: Yr Hen Lew Du wrth gwrs!
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?: Pe bawn i'n anifail, mi fyswn i'n geffyl. 'Dw i wedi bod yn marchogaeth ers 'mod i oddeutu 6, a mae'r syniad o redeg yn wyllt mewn caeau yn apelio!
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd? (rhowch enghraifft personol os oes eisiau): Ateb hawdd - Ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol! Dyna yw uchafbwynt fy mlwyddyn, bob blwyddyn!
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: Pen y Byd - Bwncath
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: Pan 'dw i'n dychwelyd i'r gogledd, 'dw i wrth fy modd yn mynd i Lanberis gyda fy nheulu a'n ffrindiau, mae 'na rywbeth arbennig am y lle.