Enw: Sabina (Llywydd Undeb)
Cyflwyniad byr…
Hiya, Sabina ydw i. Astudiais Ddrama ac Ysgrifennu Creadigol yma yn Aber. Sefais ar gyfer rôl Llywydd yr UM oherwydd fy mod i wedi bod yn ymwneud â gweithgareddau’r UM ers diwedd fy mlwyddyn gyntaf. Rwyf wedi bod ar y pwyllgor ar gyfer Cadwraeth Gwenyn am y ddwy flynedd ddiwethaf fel ysgrifennydd cymdeithasol, yn ogystal â bod yn gynrychiolydd cymdeithas ar y Senedd. Fy mhrif ffocws ar gyfer y flwyddyn yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n gyfforddus wrth i ni (gobeithio) ddychwelyd i normal ar ôl dwy flynedd ddigon rhyfedd.
Dweda ffaith ddiddorol neu 'random' amdanat ti dy hun...
Rwy’n gallu siarad Gwyddeleg yn rhugl a bûm yn mynychu ysgol breswyl cyfrwng Gwyddeleg am bum mlynedd.
Dewisa dri gair sy'n dy ddisgrifio orau.
Allblyg, difyr ac egnïol.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen? a pha 3 pherson enwog fyddet ti'n eu gwahodd am fwyd?
Byddwn yn cael cinio Nadolig tri chwrs fy mam, ac mae'n debyg y byddwn yn gwahodd David Attenborough, Harry Styles a Rihanna
Beth yw dy hobïau neu ddiddordebau?
Yn ddiweddar, rydw i wedi dechrau padl-fyrddio ac rydw i wedi magu obsesiwn am y gweithgaredd hwn, ond rydw i hefyd wrth fy modd yn darllen a gwrando ar gerddoriaeth.
Pam wnest ti sefyll am y rôl hon?
Rwy'n berson hyderus, a does gen i ddim problem â siarad cyhoeddus; does gen i ddim ofn creu embaras i mi fy hun ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn yr UM! Rwy'n berson gonest, ac rwy'n gallu lleisio fy marn yn hawdd; ryw’n fodlon sefyll dros yr hyn sy'n bwysig a darparu llais unigol ar ran yr holl fyfyrwyr.
At beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Rwy'n edrych ymlaen at gael gweld wynebau newydd ar y campws, sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei gynrychioli, a symud yn ôl at ryw fath o normalrwydd.
Wyt ti’n gallu enwi rhai o’r achosion sy'n bwysig i ti?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn iechyd meddwl, a dyna pam rydw i'n gobeithio gwella rhai o'r polisïau iechyd meddwl cyfredol. Rwyf hefyd yn gredwr mawr mewn hygyrchedd a chydraddoldeb i bawb, felly rwyf am weithio gyda grwpiau lleiafrifol a rhyddhad i wella ar hynny.
Beth yw dy hoff le yn Aberystwyth?
Dwi wrth fy modd yn treulio amser ar y traeth, yn enwedig ar noson gynnes gyda fy ffrindiau. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cerdded i fyny Pen Dinas (mae’n lle delfrydol i fynd am dro i weld y wawr).
Oes gen ti unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Mae gen i lawer o ofergoelion rhyfedd, gan gynnwys: Rhaid i mi chwythu fy nhrwyn cyn i mi fynd i'r gwely. Rwyf bob amser yn cysgu gyda'r ffenestri ar agor, hyd yn oed os yw'n oer, a dim ond Pepsi oer sy’n gallu gwella pen mawr fore trannoeth.
Pa un peth wyt ti'n meddwl y dylai pawb ei wneud / roi cynnig arno o leiaf unwaith yn ystod eu hoes?
Yn Aber, mae'n debyg y byddwn i'n dweud codi’n gynnar a mynd i nofio wrth i’r haul godi; dyma'r ffordd orau i ddechrau’r haf.
Rwyt ti ar dy ffordd i'r gwaith ar fore Llun ... pa gân sy'n drac sain yn dy ben?
Mae gen i lwyth o ganeuon sy’n gwneud i mi deimlo'n dda, pob un o wahanol genre, ond un o'r caneuon sy'n fy ysgogi yw What You Know gan Two Door Cinema Club.
Wyt ti’n gallu enwi hoff le rwyt ti wedi ymweld ag e, a dweud pam?
Es i ar bererindod i Lourdes fel gwirfoddolwr gyda phobl sâl ac oedrannus, ac roedd yn un o brofiadau mwyaf buddiol fy mywyd.