Dewch i fy nabod: Materion Academaidd 2023

officerblogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cyflwyniad byr: Helo! Anna yw fy enw i (ei/hi), ac dwi newydd raddio gyda BC mewn Llenyddiaeth Saesneg. Gan fy mod i’n dod o Ganolbarth Lloegr, oedd byw ger traeth yn angenrheidiol. Mae’r tair blynedd ddiwethaf yn Aber wedi bod yn arbennig felly dwi’n edrych ymlaen at dreulio blwyddyn arall yma fel y Swyddog Materion Academaidd!

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: Pan yn wyth mlwydd oed, fe drïais i fynd ar Britain’s Got Talent

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau: Caredig, Hawdd ei Chyffro, Myfyrgar.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?: 

  • I ddechrau: dewisiad o fwyd y môr
  • Y prif bryf: Stêc Tomahawk gyda thatws stwmp ac India-corn cyfan.
  • Pwdin: cacen caws Biscoff a hufen iâ caramel hallt.
  • Diod: Soda Grawnwin.
  • Yr enwogion gaiff eu gwahodd: Ian McKellen, Keanu Reeves, Viggo Mortensen

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?: Trwy fod yn rhan o garfan 2020-2023 bu rhaid i ni wynebu heriau a phandemig. Daliodd y byd i gyd yn sownd, ond roedd arbennig o lym ar fyfyrwyr. Dwi bellach yn llawn ysgogiad i ddod â’r profiad myfyrwyr yn ôl i normalrwydd gyda fy angerdd a fy mhrofiadau fy hun fel y galla i adael Aberystwyth gyda theimlad o gymuned a heddwch.

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?: Dwi’n edrych ymlaen yn arw at rwydweithio gyda myfyrwyr hen a newydd; mae’r byd i’w weld yn newid mor sydyn gyda Deallusrwydd Artiffisial, diwylliant y we, helyntion ôl-cofid... heb anghofio llawer mwy. Felly bydd digon o sgyrsiau diddorol a hwyliog i’w cael!

Pa achosion sydd o bwys i chi?: Gwella amgylcheddau y Brifysgol (a gwneud dysgu yn hygyrch ac yn heddychlon i bawb)

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: Traeth y Gogledd... mae disgwyl am y machlud gyda choelcerth gyda ffrindiau yn un angenrheidiol.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?: Coala, maen nhw’n dod ar draws yn heddychlon eu byd.

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: 9-5 gan Dolly Parton 

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: Canada i dy fy nain. Llawn atgofion fy mhlentyndod.

Comments