Cyngor cyfnod y glas gan eich swyddogion UM 2023

officerblogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

Tiffany - Ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas achos mai yno y dewch chi o hyd i’ch pobl.

Helen - Rhowch gynnig ar bopeth eich bod chi wedi bod eisiau ei wneud, boed yn chwaraeon neu’n glwb, mae ennill sgiliau newydd yn ffordd dda o ddod i nabod pobl a bydd hefyd yn cynnig gofod i chi pan fydd cyfnodau anodd yn y Brifysgol. Edrychwch ar ôl eich gilydd, fe ddaw’r ffrindiau a wnewch chi yn y Brifysgol yn rhwydwaith cefnogi i chi.

Elain - Gwnewch restr o'r holl ddigwyddiadau sydd at eich dant yn ystod wythnos y glas a chynllunio'r wythnos o'ch blaenau. Cerwch â digonedd o bunnoedd ar nosweithiau allan ar gyfer y jukebox!

Bayanda - Byswn i’n trio rhywbeth newydd; yn aml bydd Cymdeithasau a Chlybiau yn cynnig y sesiynau cyntaf yn rhad ac am ddim. Er enghraifft, mae Pêl-droed Americanaidd yn cynnal digwyddiad bach am ddim yn ystod Cyfnod y Croeso.

 

Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod cyfnod y glas?

Tiffany - Ewch i’r sesiynau Rhowch Gynnig Arni, ewch i lawer o ddigwyddiadau cymdeithasau/clybiau a pheidiwch ag ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd gan fod pawb yn yr un sefyllfa â chi.

Helen - Gwnewch ymdrech i ddod i nabod y bobl y byddwch chi’n rhannu fflat neu dy gyda nhw trwy ddiddordebau cyffredin, efallai ei bod hi’n syniad trefnu noson ffilm fel man cychwyn. Mae’n werth trio mynychu cymaint o bethau â phosib i chi gael blas ar y fath o ffrindiau dych chi eisiau eu gwneud y tu allan i’ch fflat, peth iach yw gwneud ffrindiau y tu allan i ddeinamig eich fflat.

Elain - Gwnewch y mwya' o'r holl ddigwyddiadau/gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ar eich cyfer, ac ymunwch â llu o gymdeithasau. Byddwch yn siwr o gyfarfod rhywun fel chi felly.

Bayanda - Y bobl yn eich llety fydd eich ffrindiau cyntaf yn y Brifysgol yn bendant, wedi hynny, mae ymuno â chymdeithas neu glwb yn ffordd wych arall o wneud ffrindiau a chwrdd â phobl.

 

Beth yw eich hoff atgof o Gyfnod y Glas?

Tiffany - Gwneud ffrindiau newydd a mynd allan i gymdeithasu.

Helen - Er gwaethaf roedd hi’n adeg y Covid arnom ni, fe lwyddom ni ddod i nabod ein gilydd ac roedd ein rasys cadeiriau desg/rasys mop a Pictionary ar fy mod wen yn ffordd wych o wneud hynny.

Elain - Crôl chwe dyn yn ystod Wythnos y Glas gyda myfyrwyr o'r drydedd.

Bayanda - Debyg mai cwrdd â phobl newydd a mynd allan LLAWER fyddai fy hoff atgofion o Gyfnod y Croeso.

 

A oes gennych chi gyngor i lasfyfyriwr?

Helen - Mae’n iawn os ydych chi’n dod o hyd i’r grwp iawn i chi os na fyddwch chi’n ffrindiau o hyd gyda’r holl bobl dych chi’n dod i nabod yn ystod Wythnos y Glas.

Elain - Mae amser yn hedfan, felly gwnewch y mwya' o bob cyfle.

Bayanda - Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n teimlo fel eich bod wedi darganfod eich lle o’r cychwyn cyntaf, mae yna gyfleoedd lu i ddod o hyd i’ch cymuned.

Comments