Yn ddiweddar, anfonodd Cymdeithas y Gyfraith bedwar aelod i gystadlu yng Nghystadleuaeth ‘Dadleuwr y Flwyddyn Ysgolion y Gyfraith BPP. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Birmingham, gyda 32 o brifysgolion ledled y DU yn cymryd rhan. Am drosolwg llawn o’r diwrnod, gweler erthygl Cymdeithas y Gyfraith: https://www.aberlawsoc.com/posts/aoty-rhr
Ar y cyfan, cafwyd diwrnod llwyddiannus dros ben, gyda phob un o’r dadleuwyr yn mwynhau’r cyfle’n fawr iawn. Llongyfarchiadau i Natasha Jacobs am fod yn un o’r un-ar-bymtheg o ddadleuwyr i gyrraedd y Rownd Derfynol, ynghyd â Vighnesh Gunasegaran a ddewiswyd fel eilydd. Cynhelir y Rownd Derfynol yn yr Old Bailey (Llundain) ym mis Mawrth 2020. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw!