Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?
Dyma’r flwyddyn gyntaf i fi fod ar bwyllgor ac dwi bellach yn llywydd ar y Gymdeithas Ddaearyddiaeth.
Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?
Yr hyn a ysgogodd i fi sefyll am rôl ar bwyllgor oedd y cyfle cyffrous i fynd ymhellach gyda’r Gymdeithas yn ogystal â’r cyfle i gael parhau ar y trywydd positif mae’r gymdeithas yn mynd. Yn ogystal â hyn, dwi wrth fy modd yn rhyngweithio gyda phobl newydd a gwelais fod ymgeisio am rôl bwyllgor yn gyfle perffaith lle gallaf gwrdd â phobl newydd mewn cymdeithas, boed un allanol neu’n fewnol.
Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?
Y rhan mwyaf boddhaus o fod ar bwyllgor heb os yw gweld pawb yn mwynhau’r digwyddiadau y byddwn ni’n eu trefnu. Mae cael adborth gwych, un ai trwy ddigwyddiad, mynd am dro neu ddigwyddiad chwaraeon, yn fy llenwi â balchder pan dwi’n gwybod bod ein pwyllgor wedi plesio pawb a llwyddo i redeg digwyddiad arbennig.
Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?
Prin iawn oedd y rôl hon yn anodd. Ar lefel bersonol, y prif her sydd gennyf i yw cofio enwau pawb. Mae gennym ni dros 100 o aelodau felly mae wedi cymryd tipyn o amser i fi eu cofio, ond dwi’n bendant yn gwella!!!
Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?
Dwi’n teimlo bod y pwyllgor wedi helpu i fi ddatblygu mewn sawl ffordd tuag at fywyd y dyfodol. Mae magu eich hyder ar lefel bersonol ac o fudd mawr os ydych chi’n ei gweld hi’n anodd siarad gyda phobl newydd!! Mae meithrin sgiliau bywyd a fydd o les i chi fel unigolyn!!!
Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?
Fy nghyngor i fyddai os ydych chi’n teimlo’n nerfus am rôl, ewch amdani. Byddwch yn difaru pob eiliad os nad ydych chi’n sefyll. Yn ogystal â mwynhau pob eiliad ohoni. Bydd yn mynd yn gyflym a byddwch yn cadw’r atgofion hyn mewn cof am byth!