Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Amy Louise Mason (Clwb Dawnswyr Sioe Gerdd 19-20)

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Yn ystod fy 3 blynedd fel rhan o glwb Dawnswyr Sioe Gerdd bûm ar eu pwyllgor am 2 flynedd yn y rolau canlynol: Ysgrifennydd Cymdeithasol, Hyfforddwr Tap ac Ysgrifennydd.


Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Fy mhrif reswm dros sefyll am rôl ar y pwyllgor oedd fy mod i eisiau ceisio gwneud gwahaniaeth i'r clwb. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, taflais fy hun i mewn i bopeth oedd gan y clwb i'w gynnig, o gymdeithasu i Superteams, ac o Ryngolgampau Farsiti i Rygbi 7-bob-ochr. Drwy gymryd rhan ym mhopeth y gallwn, roedd gen i ddigon o syniadau ar gyfer sut roeddwn i'n meddwl y gallai pethau weithio'n well yn ogystal â syniadau newydd ar gyfer y clwb wrth symud ymlaen. Drwy sefyll am rôl ar y pwyllgor roeddwn i’n gallu rhoi yn ôl i'r clwb a wnaeth fy mlwyddyn gyntaf yn anhygoel, yn ogystal â chreu rhai traddodiadau newydd sydd wedi parhau.


Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Mae’n brofiad mor werth chweil bod ar y pwyllgor pan welwch eich bod wedi gwneud gwahaniaeth ar ran eich aelodau. Cael glasfyfyrwyr yn dod atoch i ddweud eich bod chi wedi gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw bellach yn rhan o'r teulu yw un o'r pethau gorau! Hefyd, mae bod â rheolaeth dros gyfeiriad eich clwb yn rhoi llawer o foddhad, oherwydd gallwch chi weld sut mae'r clwb yn dod yn ei flaen diolch i'r pethau rydych chi wedi'u gwneud! Mae mor galonogol gweld nifer y glasfyfyrwyr yn dod i mewn i'ch clwb a chael amser gwych, gan wybod eich bod yn rhan o wneud i hynny ddigwydd.


Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Ysgrifennydd Cymdeithasol - Yn y rôl hon, roeddwn i’n teimlo mai un o'r pethau anoddaf oedd cadw noddwyr ac aelodau'n hapus. Mae cael eich noddi gan fariau a thafarndai yn y dref yn wych, ond mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw at eich ochr chi o’r fargen. A chyda myfyrwyr yn byw ar gyllideb dynn, mae'n anodd cadw noson yn rhad i aelodau yn ogystal â chyflawni gofynion cytundebau cymdeithasol gyda chlybiau / bariau.

Ysgrifennydd - Er fy mod i'n berson trefnus iawn ar y cyfan, mae yna rai adegau yn ystod y flwyddyn pan fydd y calendr yn llawn dop, gydag amryw o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal tua’r un pryd. Weithiau gall ceisio cydbwyso gwaith prifysgol ochr yn ochr â phob un o'r digwyddiadau yn y clwb fod yn eithaf heriol, ac mae’n peri tipyn o straen wrth geisio cadw ar ben y gwaith, arwain sesiynau a dosbarthiadau yn ogystal â threfnu a chydlynu cymaint o wahanol ddigwyddiadau. 

Hyfforddwr Tap - Roedd bod yn hyfforddwr yn brofiad gwerth chweil i mi, a gallwch weld faint mae pobl yn gwella mewn cyfnod byr. Byddwn i'n dweud bod y rôl hon yn bendant yn fwy gwerth chweil na heriol; fodd bynnag, gall fod yn anodd trefnu hyfforddiant effeithiol a buddiol pan fydd yn rhaid i chi ddarparu ar gyfer gwahanol lefelau o allu, o ddechreuwr i ddawnswyr profiadol, a hynny o fewn yr un dosbarth.


Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Rwy'n bendant yn teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi fy helpu'n aruthrol i baratoi ar gyfer y dyfodol. Drwy fod ar y pwyllgor rwyf wedi ennill lefel newydd o hyder, ynghyd â phrofiad gwerthfawr wrth gymryd rheolaeth ac arwain grwpiau mawr. Drwy fod ar y pwyllgor, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phwyllgorau eraill yn ogystal â’ch gilydd, yn trefnu digwyddiadau, yn delio ag unrhyw anghydfod ac yn rheoli amserlen brysur, ynghyd â llawer o dasgau eraill. Ar y pryd mae'n ymddangos fel bywyd prifysgol bob dydd, ond dydych chi ddim yn sylweddoli faint o brofiad rydych chi'n ei ennill wrth gyflawni'r rôl; sgiliau y gallwch eu cymryd gyda chi a'u defnyddio er mantais i chi wrth geisio am swyddi ac mewn cyfweliadau. 

 
Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

I unrhyw un sy'n cychwyn mewn rôl ar y pwyllgor o’r newydd, byddwn wir yn cynghori pawb i siarad â'r aelod pwyllgor presennol sy'n dal y rôl honno er mwyn cael syniad da o bopeth y mae eich rôl yn ei gynnwys, gan y bydd hyn yn wahanol iawn ym mhob clwb. Ond ar yr un pryd, byddwn hefyd yn cynghori aelodau sy’n newydd i’r pwyllgor i wthio eu hunain o ddifrif a pheidio â bod ofn rhannu syniadau newydd na dechrau rhywbeth newydd. Gall fod yn demtasiwn mawr cadw'r clwb i redeg yn yr un ffordd flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac i raddau byddwch chi am gadw rhai traddodiadau sy’n perthyn i’r clwb yn fyw. Ond wrth edrych yn ôl ar fy amser ar y pwyllgor, rydw i'n falch iawn o'r adegau pan awgrymais i rywbeth newydd a gweithredwyd fy syniad, a bu’n llwyddiant mawr, gan greu traddodiad newydd i'r clwb! Er bod dilyn traddodiadau yn bwysig, mae hefyd yn braf edrych yn ôl ar newidiadau cadarnhaol a meddwl… “Fi wnaeth hynny!”. Felly, i holl aelodau newydd y pwyllgor, peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn ogystal â pharhau â thraddodiadau gwych y clwb. Weithiau efallai na fydd hyn yn gweithio, ond yn amlach na pheidio byddwch yn falch eich bod wedi rhoi cynnig arni! Pob lwc fel aelodau newydd o’r pwyllgor, ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am fod ar y pwyllgor, mae croeso i chi anfon neges ataf! Rwy'n gwybod mai dim ond un clwb oeddwn i’n rhan o’i bwyllgor, ond yn ystod y cyfnod hwnnw rydw i wedi gweld sut mae llawer o glybiau'n gweithredu, felly efallai fy mod i'n gallu cynnig rhywfaint o help a chyngor! x


Gallwch weld mwy am Ddawnswyr Sioe Gerdd yma. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gyfranogi yng ngweithgareddau clybiau neu fod ar y pwyllgor, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (cyfleoeddum@aber.ac.uk).

Comments