Crynodeb gan Swyddog 20-21': Nate

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Helo bawb!

Felly dyma ni'n, dwi’n ffarwelio ac yn diolch i chi i gyd. Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd llwyr i fod yn Llywydd yr UM 2020-2021 ac rwyf am achub ar y cyfle olaf i ddiolch i chi i gyd am roi'r cyfle hwn i mi. Mae wedi bod yn un o'r blynyddoedd mwyaf gwallgof, ysbrydoledig a gwerth chweil a gefais erioed, ac mae’r diolch am hynny i gyd i chi. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi gwneud cyfiawnder â’r rôl; mae hi wedi bod y flwyddyn hynod o heriol i gael fy ethol yn Llywydd yr UM ac yn sicr bu rhaid i mi wneud rhai penderfyniadau anodd ar hyd y ffordd, ond mae myfyrwyr wedi bod wrth galon pob penderfyniad a wnes i.

Cefais fy ethol i'r rôl cyn i Covid ddod yn rhan mor fawr o'n bywydau; doeddwn i ddim yn barod am yr hyn oedd o fy mlaen i. Fodd bynnag, fe aeth ein tîm ati o’r cychwyn cyntaf; gan i ni ddechrau ein rolau ym mis Gorffennaf, roedden ni am wneud cymaint ag y gallem o fewn cyfyngiadau’r gyfraith. Roeddwn yn arbennig o falch o'n pecynnau ynysu a llesiant y cefais arian ar eu cyfer i sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn derbyn gofal yn ystod eu cyfnodau cwarantîn, gan anfon y rhain yn bersonol gyda Connor. Dydw i ddim yn gallu cofio faint o gwisiau, nosweithiau ffilm a digwyddiadau cymdeithasol ar-lein a gynhaliais yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf hynny - ond yn sicr roedd yn werth chweil, ac roedd yn galonogol gweld pa mor wirioneddol ddiolchgar oedd myfyrwyr. Rydw i hefyd am ddwyn i gof fy fideo pellhau cymdeithasol 2 fetr! Am brofiad oedd hynny; dydw i erioed wedi cael cymaint o bobl leol yn tynnu lluniau ohonof - sylweddolais hefyd nad yw'r mwyafrif o strydoedd yn Aber hyd yn oed 2 fetr o led! Go dda chi bawb fu’n ymwneud â'r fideo hwnnw; roedd yn anhygoel bod yn rhan ohono.

Wrth i’r cyfnod clo lacio, bu cyfle i ganolbwyntio llawer o amser ac egni ar ein diwrnod codi arian ar gyfer yr Hen Goleg, a oedd yn cynnwys dros 15 o glybiau a chymdeithasu yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn digwyddiadau codi arian rhithwir ac wyneb-yn-wyneb o fewn cyfnod o 24 awr. Un o’r uchafbwyntiau oedd llunio cytundeb gyda Chloe a Moc i bob un roi gwerth £10 o bleidleisiau ar Woj, er mwyn sicrhau nad oeddem yn mynd i gael ein taflu i bwll o gynj.

Wrth i’r Nadolig agosáu, buom yn canolbwyntio ar sefydlu polisïau Dim Anfantais a Rhwyd Ddiogelwch i fyfyrwyr, gan fynychu cyfarfod ar ôl cyfarfod i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn gofal yn academaidd - a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r gwleidyddion lleol Ben Lake ac Elin Jones. Uchafbwynt y flwyddyn i mi oedd dosbarthu anrhegion Nadolig i dros 220 o'n myfyrwyr a orfodwyd i dreulio'r Nadolig ar eu pennau eu hunain yn Aberystwyth. Roeddwn i’n gwisgo siwt Siôn Corn, gyda'n Prif Weithredwr, Trish a'i mab, Ralph, wedi’u gwisgo fel corachod - bydd hwn hefyd yn atgof melys o’r cyfnod. Roedd y Nadolig hefyd yn golygu llawer mwy o gwisiau a digwyddiadau cymdeithasol, dosbarthu danteithion melys ar y campws a cheisio helpu myfyrwyr a oedd yn ei chael hi'n anodd yn gymdeithasol.

Daeth y flwyddyn newydd â buddugoliaeth sylweddol i mi’n bersonol - llwyddais i sicrhau grant o £2,500 ar gyfer hyfforddi aelod o Staff yr UM ar gwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl achrededig, fydd yn ei galluogi i drosglwyddo’r hyfforddiant hwn i aelodau eraill o staff, ac aelodau pwyllgor yn y dyfodol agos gobeithio. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, roedd iechyd meddwl yn ffocws arbennig i mi eleni, ac yn anochel newidiodd Covid hynny gan y bu rhaid i mi ddelio â materion mwy dybryd. Felly roedd sicrhau'r arian yma, a gwybod fy mod wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd meddwl ein myfyrwyr, wir yn golygu llawer i mi.

Prosiect llesiant arall sydd wedi cymryd llawer o amser, ac rwy'n arbennig o falch ohono, yw Aber Mams. Prosiect paru i helpu myfyrwyr sy’n unig neu’n hiraethus.  Mae llawer o waith cefndir wedi'i wneud ar gyfer y prosiect hwn, ac rwy'n falch iawn y bydd Sabina yn gallu lansio'r prosiect yn y flwyddyn newydd - dwi’n methu aros i glywed am ei lwyddiant. Yn wreiddiol roeddwn i wedi bwriadu sefyll am ail flwyddyn fel Llywydd; fodd bynnag, rwy'n teimlo bod y bennod hon o fy mywyd yn dirwyn i ben, ac rwyf am wthio fy hun allan o'm parth cysur i ymgymryd â mentrau newydd. Mae gen i bob hyder yng ngallu Sabina, ac mae’n gysur i mi eich gadael yn ei dwylo diogel.

Diolch i bob un ohonoch am wneud blwyddyn mor anodd gyda chymaint o heriau yn un o flynyddoedd gorau fy mywyd, a dod â fy mhrofiad Aber i ben ar nodyn mor uchel. Rydych chi i gyd yn anhygoel ac yn mynd i gyflawni pethau gwych.

 

Cadwch mewn cysylltiad.

Cariad, Nate x

(Ymddiheuriadau i unrhyw un oedd yn ymwneud ag unrhyw brosiectau nad wyf wedi sôn amdanynt - doeddwn i ddim eisiau ysgrifennu traethawd mawr, felly dydw i ddim wedi ymdrin â phopeth rydw i wedi'i wneud, dim ond fy uchafbwyntiau personol).

(Hefyd, ewch i siarad â Staff yr UM y tro nesaf y byddwch chi yn yr UM; maen nhw i gyd yn gymeriadau anhygoel, a gallaf eich sicrhau y byddan nhw'n rhoi gwên ar eich wyneb).

(Hefyd ewch draw am sgwrs gyda'r staff yn y bar a’r siop; dyma rai o'r bobl orau i mi gwrdd â nhw eleni. Rwy'n credu fy mod i wedi mabwysiadu mamau am oes yn y siop).

Comments