Mae hwn yn ganllaw eithaf cynhwysfawr i ba gymorth sydd ar gael yn y brifysgol, ond dim ond rhagflas o'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill.
Cyflwyniad
Fy enw i yw Kit, ac dwi’n gweithio fel Cydlynydd y Dderbynfa a Chyllid yn Undeb y Myfyrwyr. Des i Aberystwyth fel myfyriwr yn 2019 a graddio yn haf 2022. Mae gennyf i salwch cronig sy’n effeithio ar fy symudedd felly dwi’n defnyddio ffon neu gadair olwyn i fynd o gwmpas, yn ogystal â bod ar y raddfa niwroamrywiol, dwi’n eithaf cyfarwydd â’r cymorth hygyrchedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth erbyn hyn.
Mae yna ystod o wasanaethau ar gael i helpu myfyrwyr anabl yma ym Mhrifysgol Aberystwyth; mae rhai yn gyfarwydd iawn, a chydag eraill mae eisiau mwy o chwilio amdanynt. Dyma pam ein bod ni wedi rhoi’r canllaw at ei gilydd sy’n amlinellu’r cymorth sydd ar gael i ti fel myfyriwr.
Ariannol
Mae yna sawl rheswm pam fyddai angen cymorth ariannol ychwanegol ar fyfyrwyr anabl; efallai na elli di gael swydd ar ben dy astudiaethau, neu nid cymaint o oriau; efallai bod rhaid i ti wario arian ychwanegol ar bethau fel cymorth symudedd, cymorth astudio, costau meddygol nad yw’r GIG yn eu darparu.
Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) – grant oddi wrth y llywodraeth sy’n talu am gostau oherwydd anabledd, salwch hir dymor, neu gyflwr iechyd meddwl. Gall hyn gynnwys meddalwedd ddarllen ar gyfer myfyrwyr dyslecsig, cael cyfrifiadur os oes angen neu os nad oes gennyt ti un, dehonglydd iaith arwyddo, neu amrywiaeth o bethau sy’n gallu bod yn gostus ond eu bod yn hollbwysig er mwyn llwyddo yn dy gwrs. Gellir ymgeisio am LMA drwy’r Cyllid Myfyrwyr ond mae ond ar gael i fyfyrwyr o’r DU yn unig; mae mwy o wybodaeth i’w chael yma, neu elli di gysylltu â Chanolfan Access Prifysgol Aberystwyth, a leolir yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar gampws Penglais, maent yn cynnig cymorth i fyfyrwyr gyda cheisiadau LMA. Gellir ffonio’r Ganolfan Access trwy 01248 3888101 neu anfon e-bost atynt trwy canolfan_access@bangor.ac.uk. Gellir hefyd cysylltu â disability@aber.ac.uk ynglyn ag unrhyw gwestiynau neu ffonio’r Gwasanaeth Hygyrchedd trwy 01970 621761. Mae opsiynau mewnol ar gael i fyfyrwyr nad ydynt o’r DU; gellir cysylltu ag hygyrchedd@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621761 i gael mwy o wybodaeth. I ti fod yn gymwys ar gyfer LMA, mae rhaid i ti ddangos tystiolaeth feddygol a/neu addysgiadol o dy anabledd neu wahaniaeth dysgu, hynny yw, llythyr o ddiagnosis, adroddiad seicolegydd, neu Asesiad Seicolegydd Addysg (EAP S. Educational Psychologist Assessment). Os nad oes gennyt ti dystiolaeth eto, mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr (disability@aber.ac.uk) neu 01970 621761 yn gallu rhoi cyngor ar sut i’w gael.
Cronfa Anawsterau Myfyrwyr – grant a sefydlwyd gan y Brifysgol i helpu myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol sydyn neu annisgwyl. Er na chafodd ei chreu ar gyfer myfyrwyr anabl yn benodol, mewn achosion, mae’r Gronfa Anawsterau yn gallu talu costau pethau penodol er enghraifft talu am Asesiad Seicolegydd Addysg, i dalu’r costau nes bod y LMA yn cyrraedd, neu fel talu dros gostau dros dro i drwsio ac ailosod cymhorthion, nad yw dy yswiriant a/neu’r GIG yn talu ar eu cyfer mewn pryd. Gelli di ddarllen sut mae ymgeisio a beth yw’r gofynion yn fanylach yma ac yma. Mae rhaid i ti astudio 50%(60 credyd) ar gwrs gradd llawn amser yn Aberystwyth o leiaf, ac nid yw’n cael ei gynnig i fyfyrwyr sy’n dysgu o bell neu fyfyrwyr ar leoliadau YES. I gael mwy o wybodaeth ynghylch y Gronfa Anawsterau Myfyrwyr, mae modd cysylltu â Gwasanaethau Cyngor, Gwybodaeth ac Arian y Brifysgol trwy cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk, trwy ffonio 01970 621761, neu drwy ymweld â’u swyddfa yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, neu drwy drefnu apwyntiad ar-lein.
Anghenion Mynediad Corfforol
Nid yw pob anabledd yn gorfforol na yn golygu bod ganddynt anghenion mynediad arbennig, ond mae modd i’r Brifysgol wneud addasiadau ar gyfer unrhyw anghenion mynediad corfforol os bydd angen. Mae AccesAble (nid yw hwn ar gael yn Gymraeg) ar gyfer unrhyw un sydd angen defnyddio cyfleusterau y Brifysgol; canllaw ar-lein i adeiladau’r Brifysgol (gan gynnwys hybiau llety myfyrwyr, heblaw am rai oherwydd nad y Brifysgol sy’n berchen arnynt ee llety ar lan y môr) a/neu adeiladau sydd ar Gampws Penglais (fel Canolfan y Celfyddydau ac Undeb y Myfyrwyr) gyda mapiau manwl, cyfarwyddiadau ar gyfer llwybrau mynedfeydd hygyrch/gwastad i ystafelloedd, lleoliad toiledau anabl, a llawer o wybodaeth ddefnyddiol fel lled drysau a choridorau, manylion ar stepiau drws, lleoliad drysau, a lle mae drysau trwm. Mae AccessAble yn rhad ac am ddim i unrhyw un yn unrhyw le, ac nid yw ar gael i fyfyrwyr yn unig, ond hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw ymwelwyr i’r Brifysgol. Nid map byw yw AccessAble ac weithiau nid yw’n hollol gywir, ond mae’n lle da i chwilio am lwybrau hygyrch o amgylch y campws. Gan amlaf i fyfyrwyr anabl mae’n hanfodol cael Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (CPGA – S. PEEP Personal Emergency Evacuation Plan) os bydd argyfwng a/neu ymarfer gadael yn llety neu adeiladau’r Brifysgol. Mae hyn yn dechrau fel ffurflen lle rwyt ti’n nodi dy anghenion a’r cymhorthion (os yn berthnasol) rwyt ti’n eu defnyddio yn y Brifysgol; bydd y Swyddfa Hygyrchedd yn defnyddio hyn fel sail gynllun i sicrhau dy fod yn gallu gadael mewn achos argyfwng a/neu ymarfer. Os byddi di’n rhannu manylion anabledd ar dy gais gydag un ai y Brifysgol neu’r llety myfyrwyr, bydd y Swyddfa Hygyrchedd yn cysylltu â thi cyn i ti ddechrau er mwyn sicrhau bod CPGA ar waith. Os nad, gelli di ofyn am gais trwy e-bostio disability@aber.ac.uk neu ofyn am CPGA, neu drwy ffonio’r Swyddfa (01970 621761), neu drwy fynd i’w swyddfeydd yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar Gampws Penglais. Tra bod grisiau yn y rhan helaeth o lety myfyrwyr, mae modd gofyn am addasiadau llety ar dy gyfer os byddi di’n byw mewn llety myfyrwyr. Gellir darllen mwy am lety yma, neu gysyllta â’r swyddfa lety trwy e-bost (llety@aber.ac.uk), ffonio (01970 622984), neu drwy fynd i’w swyddfeydd yn y Sgubor, Fferm Penglais. Yn fyr, gall addasiadau llety gynnwys lleoliad (ee ar lan y môr yn benodol neu ar Gampws Penglais), ystafelloedd ar lefel is neu uwch ac ystafelloedd en suite; mae yna hefyd ystafelloedd hygyrch llawn, ceginau cymunedol mae modd eu haddasu, fflatiau wedi’u haddasu, a’r opsiwn o ofyn am larymau tân sy’n fflachio, clustogau sy’n dirgrynu, oergelloedd meddygol, reiliau llaw, yn ogystal â gosod silffoedd yn is. Bydd eisiau i ti roi tystiolaeth feddygol ar gyfer rhan fwyaf yr addasiadau hyn; cadarnhad ysgrifenedig gan broffesiynol meddygol sydd orau pan yn ymgeisio am bethau penodol. Pan fyddi di’n ymgeisio am lety myfyrwyr, noda’r hyn sydd ei angen, ac wedyn anfon dy dystiolaeth feddygol at disability@aber.ac.uk i sicrhau bod dy anghenion yn cael eu bodloni.
Cymorth Gwahaniaethau Dysgu
Os oes gwahaniaeth dysgu arnat ti, mae yna sawl system i’w rhoi ar waith ym Mhrifysgol Aberystwyth i dy helpu gyda dy waith academaidd.
Mae Texthelp Read & Write yn rhaglen darllen testunau y gellir ei lawrlwytho ar unrhyw gyfrifiadur Prifysgol; mae’r rhaglen i’w chael o dan y maes ‘Productivity’ yn y ddewislen. Mae gan y Tîm Gwybodaeth (TG) fwy o wybodaeth yma a sut mae defnyddio cyfrifiaduron prifysgol o bell pan fyddi di oddi ar y campws, os oes well gennyt ti weithio ar dy gyfrifiadur dy hunan, mae croeso i ti gysylltu â nhw trwy e-bost (gg@aber.ac.uk), trwy ffonio (1970 622400), eu gwasanaeth sgwrsio ar-lein, neu drwy ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen.
Mae’r rhaglen, Inspiration, ar gael trwy fynd i’r maes ‘productivity’ yn y ddewislen ar bob cyfrifiadur prifysgol. Mae Inspiration yn rhaglen mapio syniadau sy’n cysylltu ac yn trefnu gwybodaeth mewn ffordd weledol, rhywbeth a all fod yn ddefnyddiol os wyt ti’n ei gweld hi’n anodd darllen darnau di-dor o destunau, neu yn ei gweld hi’n anodd trefnu dy feddyliau mewn ffordd unllin.
Mae AberSkills yn adnodd gyda chyngor a chanllawiau ar sgiliau astudio; mae ar gael i fyfyrwyr ar-lein. Mae yna israniadau sy’n trafod arfer academaidd da, cyfeiriadau, ysgrifennu academaidd, arholiadau, cyflwyniadau, dulliau dysgu, llesiant myfyrwyr, sgiliau llyfrgell a gwybodaeth, help gyda rhifogrwydd ac ystadegau, cymorth iaith, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am wasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol. Er nad yw AberSkills wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr anabl yn unig, bydd llawer o’r wybodaeth a’r sgiliau ar y wefan yn helpu myfyrwyr anabl i fynd i’r afael ag agweddau ar eu hastudiaethau sy’n anoddach iddynt oherwydd gwahaniaethau dysgu a chyflyrau niwroamrywiol.
Mae’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cynnig Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr, mae’r gwasanaeth hwn yn ffordd o gael mynediad at gyrsiau, magu sgiliau, a sesiynau ymgynghori gyda’r nod o helpu myfyrwyr gyda’u sgiliau ysgrifennu academaidd a chyfathrebu. Gellir darllen mwy am y cyrsiau sydd ar gael ar-lein, neu anfon e-bost at y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol (student-support@aber.ac.uk) neu ffonio (01970 622545).
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig asesiadau ar gyfer dyslexia a gwahaniaethau dysgu am ddim trwy’r Swyddfa Hygyrchedd; gellir e-bostio disability@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621761 i drefnu asesiad.
Gofodau Cymorth
Mae gan y Brifysgol ystod o Ofodau Astudio Tawel yn y llyfrgell; gelli di chwilio am ystafell a’i harchebu ar-lein yma; mae hefyd yn bosib ei wneud trwy e-bost gg@aber.ac.uk neu ffonio 01970 622400 i gael rhagor o wybodaeth. Mae ystafelloedd astudio i grwpiau a charelau astudio unigol ar gael yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais. Ar ben hyn, mae gan Undeb y Myfyrwyr ystafelloedd astudio yn y Undeb ei hun ac yn Neuadd Breswyl Pantycelyn; gellir gweld mwy yma, ac er nad ydynt bob tro mor dawel ag ystafelloedd Hugh Owen, mae’n cynnig gofod arall y tu allan i’r llyfrgell lle gelli di astudio.
I gael mwy o fanylion penodol am yr ystafelloedd, gellir e-bostio undeb@aber.ac.uk, ffonio drwy 01970 621700, neu fynd i dderbynfa Undeb y Myfyrwyr. Ar ben hyn, mae gan Undeb y Myfyrwyr yr ystafell lesiant, sy’n ystafell fach a thawel i lawr grisiau Undeb y Myfyrwyr. Gelli di ddefnyddio’r ystafell hon unrhyw bryd mae’r adeilad ar agor. Mae seddi cyfforddus, gyda lle i ymlacio a gwybodaeth ar bapur yn trafod yr ystod o gymorth sydd ar gael i ti. Mae’n ofod bach tawel i ti ddianc rhag bwrlwm y campws, ac os wyt ti’n cael trafferth i ddod o hyd iddi, gelli di ofyn wrth y dderbynfa a bydd rhyw un yno i dy dywys di.
Cymorth a Mentora Cyffredinol
Mae’r Brifysgol yn gallu cynnig i bob myfyriwr cymorth therapyddion a gweithwyr llesiant proffesiynol trwy’r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr. Gellir trefnu apwyntiad gyda’r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr trwy e-bost (studentwellbeing@aber.ac.uk), trwy ffonio 01970 621761, neu drwy lenwi eu ffurflen gofrestru ar-lein. Mae’r Gwasanaethau Llesiant Myfyrwyr hefyd yn cynnig yr adnodd ymgynghori allanol ar-lein, Care First (nid yw hwn ar gael yn Gymraeg), a Togetherall, cymuned ar-lein a gefnogir gan gyfoedion gydag ystod o gymorth a chefnogaeth.
Trwy’r LMA, mae myfyrwyr yn gallu ceisio am Mentoriaid Astudio Arbennig, mentoriaid astudio sydd wedi’u hyfforddi i helpu myfyrwyr sydd gydag anghenion penodol yn y Brifysgol. Mae yna bedair math o Fentor Astudio Arbennig; mentoriaid sy’n arbenigo mewn gweithio gyda myfyrwyr ar y sbectrwm awtistig; tiwtoriaid sgiliau astudio ar gyfer myfyrwyr sy’n cael trafferth astudio oherwydd eu hanabledd; mentoriaid iechyd meddwl ar gyfer myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd meddwl yn gyffredinol; a chynorthwywyr astudio, er eu bod yn llai cyffredin, mentoriaid sy’n helpu myfyrwyr gyda’u hastudiaethau ydynt. Mae Mentoriaid Astudio Arbennig yn cael eu penodi trwy’r LMA, gan hynny, mae’n rhaid bod myfyriwr yn cael LMA i fentor gael ei benodi iddynt. Gellir cysylltu â’r Swyddfa Hygyrchedd i ddysgu mwy ynghylch Mentoriaid Astudio Arbennig trwy e-bost (hygyrchedd@aber.ac.uk), drwy ffôn (01970 621761), neu mewn person yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar Gampws Penglais.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cefnogaeth gan Fentoriaid ‘Ffordd Hyn’, sy’n fyfyrwyr yn 3edd flwyddyn eu gradd is-raddedig, neu fyfyrwyr ôl-raddedig, a all helpu myfyrwyr newydd gyda chwestiynau, materion, neu bryderon ynglyn â’r Brifysgol neu’r Dref, ac ar ben hyn, gallent helpu cyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau cywir. Gan fod mentoriaid ‘ffordd hyn’ hefyd yn fyfyrwyr, nid ydynt yn gymwys i roi cymorth neu gefnogaeth benodol, ond maent yn gyswllt cyntaf da i helpu dy roi di ar ben y ffordd i’r cymorth sydd ei angen. Gellir darllen mwy ynghylch mentoriaid ‘ffordd hyn’ a sut mae ymgeisio amdanynt yma, neu drwy e-bostio (signpost@aber.ac.uk).
Mae gan Undeb y Myfyrwyr ein Cynghorydd Myfyrwyr ein hunain. Mae’n gallu rhoi cyngor i fyfyrwyr yn ystod adegau anodd, eu cyfeirio at y gwasanaethau cymorth, neu fod yn gefn yn ystod prosesau fel prosesau cwyno, byrddau academaidd, ac ati. Mae ein cynghorydd ar gael wyneb-yn-wyneb yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ddydd Llun a ddydd Iau, neu elli di cysylltu â hi drwy e-bost (undeb.cyngor@aber.ac.uk), ei ffonio (01970621700), neu ddarllen mwy am y gwasanaethau mae’n eu cynnig yma.
Darpariaeth o Arholiadau ac Amgylchiadau Arbennig
Os wyt ti’n gweld arholiadau traddodiadol yn anodd, mae’n bosib ymgeisio am gael gwneud asesiadau amgen ar gyfer dy radd. Mae’n rhaid cofio y bydd yn dibynnu ar dy sefyllfa, ac nid yw pob adran yn cynnig asesiadau amgen. Gellir cysylltu â dy adran, dy diwtor personol, neu gydlynydd modiwl i gael rhagor o wybodaeth ynghylch anghenion penodol dy adran, neu gysylltu â’r gwasanaethau myfyrwyr (disability@aber.ac.uk neu 01970 621761) i ofyn am help gyda dy gais am asesiadau amgen.
Os na fydd yn bosib ar gael, neu nad y peth sydd angen arnat ti mohono, mae’n bosib gofyn am ddarpariaeth o arholiad unigol. Mae hyn yn gallu cynnwys amser ychwanegol mewn arholiadau, gofod tawel/preifat, yr opsiwn o sefyll a symud o gwmpas, sefyll dy arholiad ar gyfrifiadur yn lle ei ysgrifennu, rhaglen arddweud, neu ffyrdd amgen eraill a all addasu i dy anabledd benodol. Bydd unrhyw ddarpariaeth o arholiadau unigol yn gofyn am ryw fath o dystiolaeth, megis diagnosis, neu adroddiad gan Asesiad Seicolegydd Addysg. Gelli di drafod dy anghenion penodol a dangos tystiolaeth trwy e-bostio hygyrchedd@aber.ac.uk neu disability@aber.ac.uk neu ffonio’r Swyddfa Hygyrchedd drwy 01970 621761. Mae darpariaeth o arholiadau unigol ar gael i bobl sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd meddwl hir dymor, gwahaniaethau dysgu, a’r rhai sydd ag anafiad dros dro sy’n golygu bod angen newid amgylchiadau eu harholiadau, ee wedi torri asgwrn neu rywbeth tebyg.
Os na lwyddaist ti gael darpariaeth ar gyfer arholiad unigol mewn pryd, neu fod rhywbeth wedi newid ac nad yw’n ddigon bellach, gelli di ymgeisio am amser ychwanegol, estyniadau i ddyddiadau cau. Mae amgylchiadau arbennig ac estyniadau ar gyfer digwyddiadau bywyd mawr sy’n cael effaith ar dy allu i lwyddo mewn asesiad neu i orffen arholiad mewn pryd. Hynny yw, salwch neu anafiadau, neu broblemau ariannol neu lety difrifol, profedigaeth, neu seiliau eraill dros absenoldeb tosturiol. Er mwyn i amgylchiadau arbennig gael eu derbyn neu i estyniad gael ei ganiatáu, mae’n rhaid cael rhyw fath o dystiolaeth i gyfiawnhau’r amgylchiadau arbennig hyn; mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr yn gallu rhoi llythyrau fel tystiolaeth os wyt ti wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd gydag Ymgynghorydd neu Gynghorydd a all gadarnhau natur yr amgylchiadau, neu os oedd newid sydyn mewn sefyllfa i fyfyriwr gydag anabledd, ee newid mewn meddyginiaeth sy’n effeithio dy allu i lwyddo. Fel arfer, rhoddir estyniad o wythnos ond gellir cael hyd at ddwy gan ddibynnu ar reswm yr estyniad. Mae natur amgylchiadau arbennig yn amrywio; weithiau byddant yn ei ystyried pan yn rhoi marciau, ac weithiau bydd modd i ti ailsefyll yr asesiad i gael marciau llawn. Gellir darllen mwy ynghylch polisïau amgylchiadau arbennig dy adran di yma, neu gysylltu â chydlynydd dy fodiwl neu dy diwtor personol i gael mwy o wybodaeth a chyngor ynglyn â dy sefyllfa benodol.
Trawsnewid i ac o’r Brifysgol
Mae’r gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig Cynghorwyr Hygyrchedd sy’n arbenigo mewn rhoi cymorth i fyfyrwyr drwy gydol y broses o fynd i a gadael y Brifysgol. Mae Ymgynghorwyr Hygyrchedd ar gael i fyfyrwyr sy’n gofyn am gymorth ganddynt; gellir ymgeisio am ymgynghorydd trwy e-bostio hygyrchedd@aber.ac.uk neu ffonio 01970621761 neu 01970622087.
Mae rhaid hefyd i fyfyrwyr gynnal Digwyddiad Ymaddasu ar gyfer myfyrwyr ar y sbectrwm awtistig neu sy’n niwroamrywiol neu sydd â gwahaniaethau dysgu tebyg. Mae’r digwyddiad ymaddasu yn gyfle i fyfyrwyr newydd gyrraedd y campws ychydig o ddyddiau cyn pawb arall, yng nghwmni eu gofalwyr, eu gwarchodwyr, neu eu cynorthwywyr, iddynt gael dod i arfer â’r Brifysgol a phopeth o’i hamgylch cyn i’r prif garfan ymgeisio. Gellir dysgu mwy ynghylch digwyddiadau ymaddasu trwy e-bostio disability@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621761. Mae gan Swyddfa Gyrfaoedd y Brifysgol gydlynydd penodol ar gyfer anableddau yn y gweithle, maent yn gallu rhoi cyngor i fyfyrwyr anabl sy’n dechrau mynd i’r byd gweithio, gan gynnwys gyngor ar addasiadau a datgelu, ceisiadau graddedigion a chyfweliadau. E-bostio gyrfaoedd@aber.ac.uk neu ffonio 01970 622378 i gael rhagor o wybodaeth.
Adnoddau Eraill
Mae yna ddigon o gymorth ar gael ar draws y Brifysgol, mae hefyd digon i’w gael y tu allan i’r Brifysgol. Os wyt ti eisoes yn cael unrhyw fath o gymorth oddi wrth dy Wasanaethau Cymdeithasol gartref, bydd rhaid i ti gysylltu â nhw yn uniongyrchol, gan nhw fydd yn gyfrifol am dy ofal tra byddi di’n y Brifysgol, a nhw fydd yn cysylltu â gwasanaethau lleol yn Aberystwyth. Os oes gennyt ti neu fod angen gofalwr llawn amser, mae’n bosib y gall y Brifysgol ddarparu un, neu gynnig help yn chwilio am lety i dy ofalwr; anfon e-bost at disability@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621761 i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes angen cwnsela arnat ti, mae Area43 yn elusen leol sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela ar-lein am ddim i bobl ifainc 14-30 oed yng Ngheredigion, neu gwnsela wyneb-yn-wyneb yn eu canolfan yn Aberteifi i drigolion Ceredigion 16-25 oed; gellir darllen mwy ynglyn â’u gwasanaethau cwnsela a chofrestru ar-lein.
Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd darllen, un ai oherwydd nam golwg, dyslecsia, neu wahaniaeth dysgu arall, mae Llyfrgell Hugh Owen yn cynnig benthyca chwaraewyr CD a disgiau llyfrau llafar a gosodiadau braille ar gyfer cyfrifiaduron; dylai’r rhan fwyaf o lyfrau sy’n hanfodol i unrhyw gwrs fod ar gael ar ffurf sain, ac os na, gelli di fynd i'r ymgyrch ‘More Books’ i ofyn iddo gael ei archebu trwy eu ffurflen ar-lein.
Mae Llyfrgell Hugh Owen hefyd yn cynnig rhoi ‘Deaf Alerters’ ar fenthyg un diwrnod ar gyfer larymau tân argyfwng a negeseuon trwy’r radio, yn ogystal â derbynyddion dolenni clyw personol isgoch (S. Infrared) a dolenni clyw cludadwy fel opsiwn arall i systemau dolen sain ar gyfer pobl fyddar neu sydd â nam ar y clyw sy’n defnyddio cymhorthion clyw a/neu mewnblaniadau yn y cochlea. Maent hefyd yn cynnig recordwyr llais fel ffordd amgen o gymryd nodiadau, ac ystod o offer TG a fydd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr anabl; gellir gweld y rhestr llawn ar eu gwefan, neu drwy ofyn wrth y Ddesg Gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen.
Ar Lefel Bersonol
Dyma ganllaw cynhwysfawr i wahanol fathau o gymorth sydd ar gael yn y Brifysgol, ond dim ond blas ar y cymorth sydd ar gael y tu allan i’r Brifysgol, fel i gloi, dyma ychydig o gyngor personol o’m hamser fel myfyriwr:
- Gofynna gwestiynau! Os wyt ti’n meddwl y dylai rhywbeth fod ar gael, mae’n debyg nad o fudd i ti yn unig fyddai, ac felly dylet ti gysylltu â’r Swyddfa Hygyrch yn ei gylch.
- Gofynna am gymorth. Gan fwyaf, mae pobl yn garedicach na’r disgwyl; ni fuaswn innau wedi llwyddo i raddio oni bai am y darlithwyr a’r staff Prifysgol a helpodd, yn dawel, addasu cynlluniau gwersi i fy anghenion, oeddent yn amyneddgar pan oedd rhaid i fi gael saib neu gymryd mwy o’u hamser, a’r ffrindiau wnaeth gynnig cymryd rhannau o brosiectau grwp nad oeddwn yn gallu eu gwneud, oeddent yn ddeallgar pan gymerais fwy o amser, ac ni chodon nhw byth cywilydd arnaf i am y sawl estyniad oedd rhaid i fi ymgeisio amdanynt, a byddent yn aml yn annog i fi ofyn am estyniadau.
- Paid byth â theimlo’n wael am dy anghenion. Yn aml, yn enwedig yn y Brifysgol, mae yna bwysau i ti fod yn hunan-gynhaliol, ond nid felly y ganwyd pawb. Gwna’r gorau o’r cymorth sydd ar gael ac yn cael ei gynnig i ti, gofynna, mynna os bydd eisiau, am yr help sydd ei angen, a phaid byth â theimlo’n euog am gael saib. Ces i hi’n wael gyda fy iechyd meddwl yn ceisio bod yn hunan-gynhaliol a gwneud pob dim ar amserlen person abl neu niwro-typical; mae derbyn cymorth a deall y byddaf yn hwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi gadael i fi fwynhau’r Brifysgol, yn hytrach na’i goroesi.
- Cymera ofal amdanat dy hun! Mae dy iechyd yn dibynnu ar yr hyn rwyt ti’n ei fwyta, pryd, a faint, yn ogystal â chysgu, faint o ddwr rwyt ti’n yfed, faint o alcohol rwyt ti’n yfed a faint o ymarfer corff rwyt ti’n ei wneud. Does dim yr un canllaw yn gyffredin i bawb, a phe bai un, ni fuaswn i’n gymwys i esbonio beth yw e, ond chwilia am yr hyn sy’n gweithio i fi, dere i nabod dy ffiniau, a thrïa dy orau i aros o’u mewn.
Dyma ddiwedd y canllaw hwn! Dwi’n fawr gobeithio ei fod wedi bod o ddefnydd, ac os na, wnaf i roi hyn i ti: Bydda’n ddewr i chwilio a gofyn am beth rwyt ti ei angen fel dy fod yn cael y profiad Prifysgol gorau posib a dysgu i garu bywyd myfyrwyr.