Byddwch yn wyliadwrus o Sgamiau sy'n gysylltiedig â Coronafeirws

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yn anffodus, mae yna droseddwyr sy'n ceisio camfanteisio ar bobl yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang digynsail hwn. Maent yn canolbwyntio'n benodol ar bobl hyn a mwy bregus sydd ar hyn o bryd wedi'u hynysu oddi wrth eu ffrindiau a'u teulu. Roeddem o'r farn y dylem eich gwneud chi'n ymwybodol o'r sgamiau hyn i geisio sicrhau nad ydych chi'n cael eich dal gan y twyllwyr.

Ar hyn o bryd mae yna lawer o bryder ac ansicrwydd yn ein cymdeithas ynglyn â COVOID-19 ac mae hyn yn galluogi troseddwyr i elwa drwy fanteisio’n annheg ar ofnau pobl. Mae nifer o atchwanegiadau a chitiau gwrth-feirws yn cael eu hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae rhai troseddwyr yn mynd o ddrws i ddrws yn ceisio gwerthu'r cynhyrchion hyn. Maen nhw'n gwneud honiadau ffug y bydd y cynhyrchion hyn yn gwella neu'n atal COVOID-19; twyll yw hyn.

Byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich targedu, efallai bod rhai o’ch cymdogion wedi bod yn destun sgam o’r fath. Un o'r pethau cadarnhaol sydd wedi deillio o'n hamgylchiadau presennol yw'r grwpiau gwirfoddolwyr cymunedol anhygoel sy'n darparu help yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fodd bynnag, mae angen i chi fod yn effro er mwyn canfod y twyllwyr; rydym wedi clywed am droseddwyr yn targedu preswylwyr, yn aml bobl hyn neu bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hir-dymor, ac yn cynnig mynd i siopa ar eu rhan, cymryd eu harian ac wedyn diflannu. Cofiwch y dylech chi ofyn am ryw fath o brawf adnabyddiaeth gan unrhyw un sy'n honni ei fod yn cynrychioli elusen.

Mae’r adran Safonau Masnach Cenedlaethol wedi llunio rhestr o sgamiau COVOID-19 sydd wedi dod i’r golwg hyd yma; mae'r rhain yn cynnwys:
Trosedd ar garreg y drws

  • Troseddwyr sy'n targedu pobl hyn ar garreg eu drws ac yn cynnig mynd i siopa ar eu rhan. Mae’r lladron yn cymryd yr arian, a dydyn nhw ddim yn dychwelyd.
  • Gwasanaethau sy’n cynnig glanhau o amgylch y drws a llwybr yr ardd i ladd bacteria a helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Sgamiau ar-lein

  • Sgamiau e-bost sy'n twyllo pobl i agor atodiadau maleisus, sy'n rhoi pobl mewn perygl o gael eu manylion adnabyddiaeth wedi’i dwyn, gan roi eu gwybodaeth bersonol, cyfrineiriau, cysylltiadau a manylion banc mewn peryg. Mae rhai o'r negeseuon e-bost hyn wedi denu pobl i glicio ar atodiadau drwy gynnig gwybodaeth am bobl yn yr ardal leol sydd wedi’u heffeithio gan coronafeirws.
  • Adnoddau ar-lein ffug - fel Mapiau Coronavirus ffug - sy'n darparu meddalwedd maleisus fel AZORult Trojan, rhaglen dwyn gwybodaeth a all ymdreiddio i amrywiaeth o ddata sensitif. Enghraifft amlwg sydd wedi defnyddio meddalwedd maleisus yw 'corona-firus-map [dot] com’.

Sgamiau ad-daliad

  • Cwmnïau sy'n cynnig ad-daliadau gwyliau ffug i unigolion sydd wedi'u gorfodi i ganslo eu teithiau. Dylai pobl sy'n ceisio ad-daliadau hefyd fod yn wyliadwrus o wefannau ffug a sefydlwyd i hawlio ad-daliadau gwyliau.

Nwyddau ffug

  • Glanweithyddion, masgiau wyneb a chitiau swabio Covid19 ffug sy’n cael eu gwerthu ar-lein ac o ddrws i ddrws. Yn aml gall y cynhyrchion hyn fod yn beryglus ac yn anniogel. Mae adroddiadau bod rhai mathau o lanweithydd dwylo ar gael a allai fod yn niweidiol am ei fod yn cynnwys glutaral (neu glutaraldehyde), a waharddwyd ar gyfer ei ddefnyddio gan bobl yn 2014.

Sgamiau ffôn

  • Wrth i fwy o bobl hunan-ynysu gartref, mae risg gynyddol y bydd sgamiau ffôn hefyd yn cynyddu, gan gynnwys troseddwyr sy'n honni eu bod nhw'n galw ar ran eich banc, benthyciwr morgais neu gwmni cyfleustodau.

Sgamiau rhoddi

  • Cafwyd adroddiadau bod lladron yn twyllo defnyddwyr allan o arian drwy honni eu bod yn casglu rhoddion ar gyfer 'brechlyn’ i atal COVID-19.

Benthycwyr Barus - Siarcod

  • Disgwylir i fenthycwyr arian anghyfreithlon fanteisio ar galedi ariannol pobl, gan fenthyca arian, ac yna codi cyfraddau llog a ffioedd eithafol drwy fygythiadau a thrais

Mae yna grwp o'r enw Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau, sy'n darparu hyfforddiant ar-lein am ddim i rymuso pobl i wneud safiad yn erbyn sgamiau. I gwblhau'r modiwlau ar-lein, ewch i www.friendsagainstscams.org.uk.

Rydym yn annog pawb i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â ffrindiau a theulu drwy'r holl lwyfannau sydd ar gael i ni, boed yn alwad ffôn, e-bost neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn sicr eich bod yn rhoi gwybod iddyn nhw am sgamiau o’r fath a'r peryglon posibl yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Os yw rhywun wedi cael ei dargedu gan sgam, gellir gwneud adroddiad amdano i Action Fraud ar-lein yn www.actionfraud.police.uk/ neu drwy ffonio 0300 123 2040. I gael cyngor a gwybodaeth ar sut i wirio a allai rhywbeth fod yn sgam, ewch i: www.citizensadvice.org.uk/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/.

Peidiwch ag anghofio bod y Brifysgol yn parhau i ddiweddaru'r Dudalen Cwestiynau Cyffredin sy'n cynnwys adrannau ar ofalu am eich iechyd, gweithio gartref, hunan-ynysu, gofalu am ddibynyddion a phryderon ariannol. Gallwch anfon e-bost os oes gennych chi gwestiwn neu bryder ynghylch coronavirus@aber.ac.uk neu ffoniwch linell gymorth y Brifysgol 01970 622483 gyda'ch cwestiynau a'ch pryderon am ystod eang o faterion yn ymwneud â'r Coronafeirws a'r hyn y gallai ei olygu i chi.

Bydd holl staff yr UM yn gweithio ond yn parhau â'u gweithgareddau o gartref, gan weithio o bell o ddydd Llun i ddydd Gwener tan o leiaf dydd Llun 13eg Ebrill. Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un ohonom ynghylch unrhyw fater yn ymwneud â’r UM, gan ein bod yn awyddus i ddal ati a bod mor gefnogol a chymwynasgar ag y gallwn. Gellir gweld y manylion cysylltu ar gyfer staff i gyd yma: https://www.umaber.co.uk/ynglynagaber/staffumaber/

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch undeb@aber.ac.uk

Byddwch yn ddiogel ac yn iach!

Comments