Blog Molly - Diweddariad ar y Polisi Mentora gan Gyfoedion

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yn gynharach y tymor hwn, siaradais yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr UMAber am bwysigrwydd Mentora gan Gyfoedion yn Aberystwyth, ac fel diweddariad ar ein Polisi 'Mentora Cyfoedion i Bawb' a basiwyd yn 2016, isod mae detholiad o fy araith.

“Unwaith eto mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel ar gyfer mentora, ac mae datblygiadau mor anhygoel wedi'u gwneud ers ei lansio ar draws y Brifysgol yn 2015-2016. O’r rheiny a fabwysiadodd y fenter yn gynnar megis Seicoleg ac Addysg, i gynlluniau sydd bellach yn eu lle ar draws yr holl Adrannau, gyda thua 200 o fyfyrwyr wirfoddolwyr yn barod i gefnogi myfyrwyr newydd a’r rheiny sydd wedi sefydlu yn ystod eu cyfnod yn Aberystwyth.

Ym mis Mai 2018, cafodd tua 170 o fentoriaid cyfoedion hyfforddiant i’w sefydlu, ac ehangwyd y nifer hwn ym mis Medi 2018, gan annog mwy a mwy o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg i gymryd rhan a chefnogi eu cyd-fyfyrwyr yn eu hiaith gyntaf.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig y mae Cymorth i Fyfyrwyr ac adrannau wedi llwyddo i recriwtio tua 200 o fyfyrwyr, ond mae Cymorth i Fyfyrwyr wedi llwyddo i gynhyrchu a datblygu llawlyfrau ar gyfer mentoriaid cyfoedion y gellir eu hadolygu o fewn adrannau i ychwanegu eu hyfforddiant penodol eu hunain. Maent wedi datblygu adnodd SharePoint ar gyfer Cydlynwyr Mentora Adrannol, tudalen Bwrdd-Du ar gyfer mentoriaid, ac wedi gweithio yn agos gydag Undeb y Myfyrwyr i greu Cynhadledd Mentora Cyfoedion i adolygu'r broses ar gyfer ein myfyrwyr ac i helpu i wneud yr adnoddau hynny'n briodol ac yn hawdd eu defnyddio.”

Ac felly, gyda llawer o waith wedi’i wneud eisoes, mae cydweithwyr yn parhau i adolygu a datblygu hyfforddiant, cynorthwyo ag adnoddau a chydnabyddiaeth, yn ogystal ag edrych ar y ffordd orau o gefnogi mentora cyfoedion yn Aberystwyth yn y dyfodol.

Mae'r Swyddog Llesiant yn parhau i gymryd rhan yn y trafodaethau hyn, ac wrth symud ymlaen, bydd yn codi materion ac yn ceisio adborth drwy'r Parth Lles a Swyddogion Gwirfoddol.

Ac os ydych chi wastad wedi ystyried bod yn fentor, ond heb gymryd y cam o wneud hynny, ystyriwch siarad â'ch Cydlynydd Adrannol - maent bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n barod i helpu!

Mae rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf ar bolisi a basiwyd ar gael ar adran bolisi ein gwefan.

Comments