Blaenoriaethau Swyddogion 2025/2026

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyma chi eich Swyddogion Llawn Amser Undeb Aber, cawson nhw eu hethol gan fyfyrwyr Aber fis Mawrth ac maen nhw’n gweithio am flwyddyn i ddatblygu profiad y myfyrwyr a chynrychioli eich buddiannau yn y Brifysgol a’r tu hwnt! Dyma’u blaenoriaethau ar gyfer eleni: 

Cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau’r Swyddogion a sut maen nhw’n symud yn eu blaenau. 


Millie Hackett - Llywydd yr Undeb 

  • Eleni, bydd Millie yn ffocysu ar wneud dyfodol gwell i’r Undeb a sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed. 

  • Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynrychioli. Siarad yn rheolaidd â myfyrwyr i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i’r Brifysgol ac i arwain gwaith yr Undeb. 

  • Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn tyfu ac yn dangos sgiliau cyflogadwyedd trwy fentrau’r Brifysgol a’r Undeb. 

  • Dylai Prifysgol Aberystwyth gael gwared ar Starbucks a chael cwmni coffi lleol a mwy cynaliadwy yn ei le. 

  • Dylai Undeb Aber a’r Brifysgol drawsnewid y gerddi botaneg yn ‘Gerddi Botaneg Penglais’, man deinamig, cynhyrchiol ar gyfer gwyddoniaeth, dysgu, a lles. 

  • Dylem gynnal wythnos SHAG bob blwyddyn. 

  • Gwaith yw Gwaith Rhyw, a Dyna Fe. 

 


Esperanza Bizama Monnier - Materion Academaidd 

  • Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynrychioli. Siarad yn rheolaidd â myfyrwyr i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i’r Brifysgol ac i arwain gwaith yr Undeb. 

  • Bydd y broses ailasesu yn hygyrch: 

  • Sicrhau y darperir ailsefyll arholiadau heb ffioedd na chyfyngiadau ar farciau. 

  • Sicrhau bod pob myfyriwr yn deall y newidiadau posib i ailsefyll.  

  • Adolygu a gwneud y gorau o gynllunio ac amlder ailsefyll. 

  • Lleihau yr effaith gaiff ailsefyll ar bob myfyriwr Aber. Hy Myfyrwyr Rhyngwladol ac Anabl. 

  • Cael gwared ar Gerflun Edward VIII o flaen yr Hen Goleg. 

  • Dylai Undeb Aberystwyth barhau i gefnogi myfyrwyr traws ac amrywiol o ran rhywedd trwy ddarparu nwyddau cadarnhau rhywedd. 

  • Dylai Aberystwyth wrthsefyll dyfarniad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ar rywedd ac ymgyrchu yn ei erbyn.  

 


Nanw Maelor - Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA 

  • Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynrychioli. Siarad yn rheolaidd â myfyrwyr i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i’r Brifysgol ac i arwain gwaith yr Undeb. 

  • Creu a sefydlu cyfansoddiad swyddogol i UMCA: 

  • Trafod â phwyllgor UMCA a’r aelodaeth pa werthoedd sydd bwysicaf iddynt a pha berthynas, yn eu barn nhw, ddylai fod gan UMCA â’r Undeb a’r Brifysgol. 

  • Sefydlu cyfansoddiad sy’n sicrhau fframwaith diogelwch ar gyfer UMCA fel sefydliad yn y dyfodol. 

  • Creu is-bwyllgor i ganolbwyntio ar y cyfansoddiad. 

  • Gweithio gyda’r Undeb i drafod sut gallwn ni greu cyfansoddiad o les i’r naill un a’r llall. 

  • Dylai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth newid ei enw a chael ei gydnabod fel Undeb Aberystwyth. 

  • Dylai Undeb Aber roi’r gorau i ddefnyddio ei broffil ‘X’ a lobio’r Brifysgol i wneud yr un peth. 

  • Agwedd Goddef Dim Gwahaniaethu, Aflonyddu ac Ymosodiad Rhywiol. 


Ffion Johns - Cyfleoedd i Fyfyrwyr 

  • Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynrychioli. Siarad yn rheolaidd â myfyrwyr i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i’r Brifysgol ac i arwain gwaith yr Undeb. 

  • Sicrhau bod perthyn yn rhan annatod o’r Brifysgol ac Undeb Aber. 

  • Datblygu fflatiau cyfeillgar i fyfyrwyr LDHTC+ yn llety y brifysgol a chydweithio gyda’r tîm llety i wella’r broses ymgeisio. 

  • Denu mwy o gyfranogi gan grwpiau myfyrwyr trwy gefnogi Codi a Rhoddi, Rhowch Gynnig Arni, a hyrwyddo’n weithredol cymdeithasau a chlybiau i aelodau. 

  • Sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo’n gysylltiedig ac y gall ddarganfod ei gymuned Aber. 

  • Ailwampio Cyfleusterau Chwaraeon y Brifysgol. 

  • Dod ag elusennau Codi a Rhoddi yn ôl. 

  • Gŵyl y Celfyddydau. 

  • Dylai’r Brifysgol ac Undeb Aber beidio â bancio gyda banciau sy’n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil a newid i fanc mwy gwyrdd a moesegol. 

  


Tanaka Chikomo - Llesiant 

  • Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynrychioli. Siarad yn rheolaidd â myfyrwyr i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i’r Brifysgol ac i arwain gwaith yr Undeb. 

  • Symleiddio a chanoli y broses amgylchiadau arbennig. 

  • Creu un broses ganolig yn unig y gall myfyrwyr ei deall a’i defnyddio yn hawdd. 

  • Sicrhau bod myfyrwyr sy’n mynd trwy brofedigaeth yn cael cymorth academaidd tosturiol gan y Brifysgol.  

  • Cryfhau cymorth lles a gwelededd: 

  • Gwella cyfeirio at wasanaethau lles sydd eisoes yn bod ar y campws a’r tu hwnt, trwy ddydd Mercher Llesol.  

  • Ymdeimlad cryfach o berthyn yn y gymuned DALlE 

  • Defnyddio trefnu cymunedol i gael gwybod am brofiadau byw y gymuned DALlE. 

  • Adolygu defnydd o’r term DALlE yn yr Undeb. 

  • Cefnogi myfyrwyr â gwallt gweadog i deimlo wedi’u grymuso a helpu gydag anawsterau prynu gofal gwallt oherwydd costau byw 

  • Dylai’r Undeb barhau i redeg y Bwrdd Ymgynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol. 

  • Lleihau prynu gan Amazon yn yr Undeb.  

  • Ymgyrchu dros Wasanaeth Golchi Am Ddim ar gyfer Preswylwyr Llawn Amser. 

  

Cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau’r Swyddogion a lle maen nhw arni. 

Comments