Beth mae'r swyddogion wedi bod yn eu wneud yn ystod tymor 1?

officer blogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mis Medi

Ash

  • Trefnais yr Wythnos SHAG.
  • Cychwynnais ar y Prosiect Effaith Werdd.
  • Mynychais y cyfarfod cyngor cyntaf.
  • Siaradais yng nghyfarfod y Senedd.
  • Siaradais yn nhrafodaeth groesawu myfyrwyr rhyngwladol.
  • Siaradais â Newsbeat ynglyn ag Oergell Gymunedol yr UM.
  • Cynhaliais y Cwis Mawr yn ystod y Croeso Mawr.
  • Cynhaliais ddigwyddiadau Cwrdd a Chyfarch: Anabl, Tawrs.
  • Mynychais drafodaethau adrannau.
  • Bues i’n gadeirydd ar gyfarfod yr Ymddiriedolwyr.
  • Mynychais gynhadledd dysgu ac addysgu.

 

Dafi

  • Trefnais Wythnos y Croeso UMCA.
  • Rhoddais groeso i fyfyrwyr Pantycelyn newydd.
  • Euthum i Ginio Sul y Coleg Cymraeg ar gyfer Myfyrwyr Cymraeg.
  • Cynhaliais y Cwis Mawr.
  • Trefnais Swn (Noson Gerddoriaeth Gymraeg)
  • Mynychais ddiwrnod agored Pantycelyn.
  • Cymerais ran yn cynrychioli UMCA yn yr Eisteddfod.

 

Elizabeth

  • Cynhaliais – Digwyddiad Cwrdd a Chyfarch Ôl-raddedigion a Chwrdd a Chyfarch Menywod.
  • Cynhaliais – y Cwis Maw yn nigwyddiadau nos wythnos y Croeso.
  • Rhoddais groeso i fyfyrwyr Ôl-raddedig a Nyrsio newydd.
  • Dechreuais weithio ar #GrymusoAber (a elwid gynt yn ‘Mae’r Ferch Hon yn Medru’)

 

Cameron

  • Ysgrifennais erthyglau yn trafod ac yn cynnig gwybod am OCD, Tourettes, bod yn draws ac anrywioldeb.
  • Arweiniais/cynhaliais y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch i fyfyrwyr traws, LDHTC+ ac Anabl fel rhan o Wythnos y Croeso.
  • Cynhaliais y Cwis Mawr.
  • Mynychais drafodaethau pwysig am lesiant myfyrwyr Traws.
  • Dechreuais drafodaethau ynghylch hygyrchedd gwaith maes.

 

Mis Hydref

Ash

  • Cwblheais ffilmio ar gyfer yr wythnos SHAG (sut mae gwneud profion, sut mae gwneud ffemidom).
  • Cynhaliais ddigwyddiad Cwrdd a Chyfarch Prosiect yr Effaith Werdd – hyrwyddo arolwg (beth yw barn fyfyrwyr ynglyn â chynaliadwyedd).
  • Cwrdd ag aelodau’r cyngor lleol i holi am finiau Aberystwyth. Mae’r fideo bron â bod yn barod.
  • Siaradais ar y radio ar gyfer y Diwrnod Sylfaenwyr a mynychu dathliadau y diwrnod hwnnw.
  • Mynychais drafodaeth ddiwrnod y sylfaenwyr yn y Senedd a Mark Drakeford ymysg y siaradwyr.
  • Cefais gyfarfodydd 1-1 gyda swyddogion gwirfoddol.
  • Siaradais gyda’r Pwyllgor Gweithredol ynglyn â’r argyfwng costau byw.
  • Mynychais ddiwrnod hyfforddiant ymgyrchu gyda’r UCM.
  • Rhoddais gymorth i ymgyrch myfyrwyr.
  • Hyrwyddais arolwg UCM ar yr argyfwng costau byw.
  • Dechreuais weithio gyda’r SOS i gwtogi ar ei ddefnydd o danwyddau ffosil.
  • Paratoadau at fis Hanes Anabledd.
  • Trefnais banel myfyrwyr yn tafod anableddau mewn addysg uwch.

 

Dafi

  • Siaradais ar y radio ar gyfer Diwrnod y Sylfaenwyr a mynychu dathliadau’r diwrnod hwnnw.
  • Mynychais drafodaeth diwrnod y sylfaenwyr yn y Senedd a Mark Drakeford ymysg y siaradwyr.
  • Cwblheais CYF CYFF UMCA.
  • Cwblheais hyfforddiant mewn cyfraith y cyfryngau.
  • Cwblheais hyfforddiant mewn cymorth cyntaf.
  • Cwblheais gyflwyniad ar gyfer Diwrnod Agored.
  • Cymerais ran mewn cyfweliad Rubbish gydag Ash.
  • Gwnes i baratoi at y Ddawns Rhyng-gol.
  • Gwnes drefniadau at nosweithiau Swn.
  • Rhedais Swn (Noson Gerddoriaeth Gymraeg).
  • Cwblheais archebu ar gyfer y Gloddest.
  • Gwnes i baratoi at y Cyf Cyff nesaf.

 

Elizabeth

  • Ar gyfer yr ymgyrch Amrywio – gwnaed ffurflen riportio, yn ogystal â phosteri a’i hyrwyddo drwy IG.
  • Paratoadau at fis Tachwedd, Hyfforddiant Cynrychiolwyr, Cynhadledd Gynrychiolwyr Academaidd, digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch a threfnu #GrymusoAber.

 

Rachel

  • Mynychais drafodaeth ddiwrnod y Sylfaenwyr a mynd i ddathliadau’r diwrnod hwnnw.
  • Dathlais ‘Nôl i Aber.
  • Rhoddais enw newydd ar ein masgot Tîm Aber, Idris.
  • Mynychais gyfarfodydd gyda grwpiau myfyrwyr.
  • Mynychais gyfarfodydd gyda Goruchwylio Prevent y Brifysgol.
  • Mynychais gyfarfodydd gydag Archwilio Risg a Sicrwydd y Brifysgol.
  • Mynychais daith gerdded Cerddwyr Cymru, diwrnod o weithredu gwirfoddol.
  • Mynychais Cynhadledd UCM Cymru, Talwrn Bach, (Ash a Cam hefyd).
  • Cwblheais Rhowch Gynnig Arni (ddechrau’r mis).
  • Trefnais at Gwyl y Celfyddydau, y Sialens Aber, a Grymuso Aber.

 

Cameron

  • Cynnal ymgyrch cynhyrchion cadarnhau rhywedd, prynwyd un o bob eitem i ddangos beth sydd ar gael i bobl draws.
  • Mis Hanes Anabledd, anfonwyd holiadur at staff iddynt gael rhannu eu profiadau.
  • Trefnwyd diwrnodau asynnod Dyfi a Chwn Tywys Ceredigion yn ystod cyfnodau’r arholiadau.
  • Anfonais e-bost a llythyr at Fferyllfa Padarn. Trefnais gyfarfod a mynd i siarad gyda phennaeth Fferyllfa Padarn ynglyn â’u system newid enwau – roedd y cyfarfod yn galonogol ac roedd Padarn yn fodlon gweithio yn agosach gyda’r UM i ddatrys problemau i gleifion a myfyrwyr. Bydd ymwybyddiaeth o Bobl Draws yn rhan o hyfforddiant staff yn y fferyllfa.

 

Mis Tachwedd

 

Ash

  • Cefais gyfarfodydd 1-1 gyda swyddogion gwirfoddol.
  • Siaradais gyda’r Pwyllgor Gweithredol ynglyn â’r argyfwng costau byw.
  • Bues i ar banel y gwasanaethau recriwtio myfyrwyr, cafodd George Jones ei recriwtio ar gyfer y gwasanaethau myfyrwyr a’r rôl ddatblygu.
  • Cwblheais yr wythnos SHAG.
  • Cymerais ran yn y Gynhadledd Gynrychiolwyr.
  • Gwirfoddolais yn ystod y Sialens Aber.
  • Mynychais sgwrs strategol gyda chynhadledd yr UCM yng Nghaerdydd.
  • Bues i’n rhan o’r panel anableddau ar gyfer y Mis Hanes Anabledd.
  • Bues i’n rhan o phob gweithgaredd arall ar gyfer y Mis Hanes Anabledd.
  • Mynychais gyfarfod cyngor gyda’r Brifysgol.
  • Mynychais y pwyllgor adnoddau a pherfformio.
  • Cwblheais hyfforddiant gyda WONKE ar bolisi ymchwil a democratiaeth.
  • Cwblheais hyfforddiant Niwroamrywiaeth.
  • Cwblheais hyfforddiant mewn sgiliau gwydnwch emosiynol.

 

Elizabeth

  • Cwblheais Grymuso Aber.
  • Mynychais Barthau.
  • Mynychais ddigwyddiad Cwrdd a Chyfarch Cynrychiolwyr Academaidd.
  • Mynychais ac arweiniais hyfforddiant cynrychiolwyr.
  • Mynychais ac arweiniais y gynhadledd gynrychiolwyr.
  • Mynychais ddisgyblaethau academaidd.
  • Nod yn y dyfodol – cyfarfod â’r Tîm TG/y Llyfrgell yn rheolaidd (cyfarfod misol)

 

Cameron

  • Fel rhan o’r ymgyrch hygyrchedd mewn teithiau maes gwaith, mynychodd Cameron gyfarfodydd cefndirol, cysylltodd â mwy o aelodau staff i gasglu gwybodaeth. Atododd holiadur i staff at yr e-bost wythnosol.
  • Mis Hanes Anabledd, anfonwyd holiadur at staff iddynt rannu eu profiadau.
  • Diwrnod Cofio Pobl Draws 20ain o fis Tachwedd – cyhoeddwyd datganiad a chynhaliwyd funud o dawelwch.
  • Cyhoeddwyd datganiad y Rhuban Gwyn yn ogystal â datganiad Iechyd Meddwl Dynion.
  • Cynhaliodd ddiwrnod Cwn Tywys Ceredigion i gynnig gofod tawel i fyfyrwyr yn ystod yr arholiadau – cododd £251.
  • Cwblhaodd banel ar gyfer Mis Hanes Anabledd.
  • Cynhaliodd y Sioe Cameron a Skittles.
  • Trafododd gostau graddio gyda gwasanaethau cymorth y Brifysgol.
  • Cynhaliodd ddigwyddiad Cwrdd a Chyfarch i fyfyrwyr traws yn ystod Grymuso Aber.
  • Mynychodd y Parth Llesiant.
  • Mynychodd y Ffair Dai.
  • Mynychodd bwyllgor y profiad myfyrwyr.
  • Mynychodd grwp gweithio datblygu iechyd meddwl.
  • Mynychodd y Senedd.
  • Mynychodd Hyfforddiant Tourettes a Niwroamrywiaeth.

Comments

 

Have a good summer 2025

Tue 01 Jul 2025

Join Team Aber

Tue 01 Jul 2025

ConGRADulations 2025

Tue 01 Jul 2025