Beth i’w Bacio ar Gyfer y Brifysgol!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

#HeloAber

Pan yn symud i rywle newydd, mae’n gallu bod yn anodd cadw golwg ar bopeth sydd eisiau arnat ti pan yn dechrau ar dy antur nesaf. Rydyn ni wedi rhoi rhestr at ei gilydd o bopeth sy’n hawdd ei anghofio a’i adael tan y funud olaf pan yn symud i’r Brifysgol!

  • Haen i roi ar matras/amddiffyn matras
  • Addurniadau i dy helpu i ymgartrefu fel goleuadau tylwyth teg gyda sy’n defnyddio batris
  • Lluniau o’r pethau/pobl sy’n bwysig i ti
  • Posteri
  • Hors ddillad i sychu dy ddillad arni
  • Bagiau dillad golchi
  • Plwg clust
  • Slipars/sleidars
  • Cadi ystafell ymolchi os wyt ti’n rhannu ystafell ymolchi
  • Seinyddion/clustffonau
  • Bateris
  • Plastrau
  • Gwisg ffansi
  • Pecyn o gardiau
  • Lid estyn
  • Cambrenni cot
  • Addasydd plwg ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
  • Pinnau bawd

Mae yna ddigon o ganllawiau ar “bethau i ddod â thi i’r Brifysgol” i’w cael – gwna yn siwr dy fod yn darllen gwahanol ffynonellau ar-lein. Fodd bynnag, cofia fod yna lawer o siopau yma yn Aberystwyth gan gynnwys llwyth o fusnesau annibynnol a fyddai’n croesawu cwsmeriaid newydd, felly does dim angen pryderu os byddi di’n anghofio rhywbeth.

Gwnewch yn siwr eich bod yn ymuno â'n grwp facebook glasfyfyrwyr yma!

a dilynwch ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol @UndebAber

Edrychwch ar ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yma!

Pob lwc gyda’r pacio bawb ac fe welwn ni chi cyn bo’ hir!

Comments

 

HeloAber 2025

Mon 11 Aug 2025

Get to know Tanaka

Thu 07 Aug 2025

Get to know Nanw

Thu 07 Aug 2025