AberBalch: Llenyddiaeth a pham y dylai fod yn fwy hoyw

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Er ei bod yn bosib fy mod i, fel myfyriwr ysgrifennu creadigol, yn dangos rhywfaint o duedd, credaf yn gryf fod llenyddiaeth yn un o'r pethau mwyaf pwerus erioed. I lawer o bobl llenyddiaeth yw sut rydyn ni'n dod o hyd i eraill sydd fel ni neu sy'n wahanol i ni, a thrwy hynny rydyn ni'n dysgu am hunaniaethau a phrofiadau a phobl. Fodd bynnag, mae'n llawer haws i rai pobl ddod o hyd i lenyddiaeth sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli, neu lenyddiaeth gyda chymeriadau neu bobl y gallant uniaethu â nhw, nag y mae i eraill. Un o'r grwpiau sy’n ei chael yn anodd yn hyn o beth yw'r gymuned LHDT. Yn yr erthygl hon, byddaf yn siarad am berthnasedd llenyddiaeth ‘cwîar’, rhywfaint o hanes ffuglen ‘cwîar’ a'r hyn yr ydym yn ymdrechu tuag ato, neu y dylem fod, yn y dyfodol o ran llenyddiaeth.


Dychmygwch eich bod chi'n berson ifanc sy'n eistedd yn eich ystafell yn teimlo'n ddryslyd, yn unig ac yn rhwystredig oherwydd ei bod yn ymddangos nad yw’r byd y tu allan yn eich deall chi, ac nid oes neb fel chi a all eich helpu chi i ddeall eich hun. Rydych chi'n codi llyfr ac yn y llyfr hwnnw rydych chi'n dod o hyd i gymeriad, dim ond un cymeriad bach, sy’n rhannu’r un rhywioldeb a'r un hunaniaeth ryweddol â chi. Rydych chi'n darllen ymlaen ac yn darganfod efallai nad ydych chi ar eich pen eich hun mewn gwirionedd, ac efallai bod ffordd i ddisgrifio sut rydych chi'n teimlo y tu mewn; os gall y cymeriad hwn ddangos pwy neu beth ydyn nhw a byw eu bywyd yn falch o hynny, yna gallwch chi hefyd! Nawr dychmygwch nad ydych chi'n cael hynny oherwydd nad yw'ch rhywioldeb neu'ch hunaniaeth ryweddol yn ffitio i’r patrwm cymdeithasol diofyn o heterorywiol a cis-ryweddol, sy’n peri i chi deimlo’n ddryslyd, yn unig ac yn rhwystredig. Dyna pam mae cynrychiolaeth mor bwysig. Mae pobl ifanc LHDT yn fwy agored i ystod eang o broblemau iechyd (meddyliol a chorfforol) yn ogystal â rhai cymdeithasol fel anhwylderau bwyta, ymosodiadau rhywiol a chlefydau a drosglwyddir, digartrefedd, cam-driniaeth a hunanladdiad a achosir yn aml oherwydd camwahaniaethu a chael eu gwthio i gyrion gymdeithas a’u hynysu. Mae gallu dod o hyd i nofel, neu hyd yn oed stori fer, sy'n gwneud i chi deimlo'n llai unig, yn llai ymylol ac yn gwneud i chi deimlo y gallwch fod yn falch, waeth beth sy’n digwydd, yn gallu lleihau'r risgiau uwch hynny a ddaw yn sgil bod yn LHDT.


Rydym yn ffodus y dyddiau hyn oherwydd yr holl lenyddiaeth amrywiol sy'n bodoli ac y gallwn gael gafael arni bron yn syth. Nid felly oedd hi yn y gorffennol. Mae llenyddiaeth ‘cwîar’ wedi dod yn llawer mwy hygyrch a chyffredin yn ein cymdeithas gyfoes. Gellir dadlau bod hyn oherwydd y mudiadau sydd wedi dod â hawliau LHDT i’r amlwg, yn ogystal â rhagflaenwyr ffuglen ‘cwîar’ heddiw, y rhai sydd wedi paratoi’r ffordd mewn cyfnod lle gwaharddwyd gwahanol rywioldebau, heb sôn am hunaniaethau rhyweddol amgen. Mae rhai’n dadlau mai Joseph and His Friend: a Story of Pennsylvania gan Bayard Taylor (1870) yw'r nofel Americanaidd hoyw gyntaf, gan ei bod yn ymwneud â dau gymeriad gwrywaidd sydd, er gwaethaf y ffaith bod yr awdur yn gwadu hynny, heb amheuaeth mewn cariad â'i gilydd. Ym 1870 prin fyddai’r term cyfunrywiaeth wedi bod yn hysbys, yn rhannol oherwydd y ffaith mai dim ond ym 1869 y bu i’r meddyg o Hwngari, Karl-Marie Benkert, fathu’r term 'cyfunrywiol' - rhywbeth na chyrhaeddodd y DU nac America tan ymhell ar ôl cyhoeddi'r nofel. Fodd bynnag, mae'r nofel yn disgrifio'r cariad sydd gan Joseff tuag at ei ffrind a chyfeirir at y ffaith eu bod wedi 'cusanu ei gilydd' mewn un olygfa ac awgrymir iddynt gael cyfathrach rywiol mewn un arall. Mae Taylor yn darlunio’r gusan yn benodol ond, oherwydd cyfyngiadau cymdeithasol, ni fyddai wedi gallu gwneud mwy nag awgrymu’r gyfathrach rywiol rhwng y cymeriadau. Fel cyd-destun ychwanegol, roedd 1870 25 mlynedd cyn achos llys Oscar Wilde ar gyhuddiad o anwedduster difrifol (fel y cyfeiriwyd at ymddygiad cyfunrywiol bryd hynny); defnyddiwyd ei waith ysgrifenedig fel tystiolaeth yn ei erbyn yn ystod yr achos. Cafwyd Wilde yn euog a'i ddedfrydu i ddwy flynedd o lafur caled. Nawr dychmygwch beth fyddai wedi digwydd 25 mlynedd ynghynt i Taylor pe bai wedi bod yn eglur ynghylch y berthynas rhwng y ddau gymeriad a heb ychwanegu elfennau i’r diben o wadu hynny, drwy’r ffaith fod ei gymeriad yn canlyn menywod. Hyn yn enwedig o ystyried bod ymddygiad cyfunrywiol yn drosedd fyddai’n cael ei chosbi drwy ysbaddu a dedfryd o garchar. Yn 1870 doedd neb yn ysgrifennu'n gyhoeddus ar gyfer pobl LHDT, a gellir ystyried hyn yn rheswm pam bod llawer o bobl LHDT yn cuddio pwy oeddent mewn gwirionedd, yn yr un modd â sut, yn y nofel, mae Joseph yn cuddio ei gariad at ei ffrind drwy briodi chwaer ei ffrind. Serch hynny, mae Taylor yn chwyldroadol am ei gyfnod, a gellir ei ystyried yn un o'r camau cyntaf ar gyfer y ffordd sydd wedi arwain at ystod amrywiol heddiw o ffuglen LHDT, gydag awduron sy’n agored am eu rhywioldeb fel David Levithan (Two Boys Kissing), Adam Silvera (History is all You left Me) neu Meredith Russo (If I Was Your Girl) yn gallu creu ffuglen sy'n caniatáu i bobl ifanc LHDT deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u clywed o fewn y cyfryngau.


Gall darllen ffuglen ‘cwîar’ fod yn galonogol i bobl ifanc LHDT, ond gall hefyd fod yn addysgiadol i bobl cis syth. Drwy lenyddiaeth gallwn gwrdd â llu o wahanol bobl a dysgu am hunaniaethau nad ydyn nhw’r un fath â'n rhai ni, a thrwy hynny agor ein meddyliau a'n haddysgu. Dyna pam mae llenyddiaeth LHDT mor bwysig. Rwy'n annog pawb i ddod o hyd i lenyddiaeth LHDT a'i chefnogi ac i ddarllen cymaint ohoni â phosib, ac ystod mor amrywiol ag sydd ar gael. Nid yw darllen nofelau am fechgyn hoyw gwyn a ysgrifennwyd gan fenywod gwyn syth, er bod hyn yn cael ei werthfawrogi, yn ddigon. Mae angen i ni ddarllen nofelau am fenywod traws a ysgrifennwyd gan fenywod traws, fel Birthday ac If I Was Your Girl gan Meredith Russo. Mae angen i ni ddarllen straeon am bobl ddeurywiol wedi’u hysgrifennu gan bobl ddeurywiol, fel y gyfres Captive Prince gan CS Pacat. Mae angen i ni ddarllen llyfrau am Latinos hoyw a ysgrifennwyd gan ddynion hoyw Latino, fel Aristotle and Dante Discover the Secrets of the Universe gan Benjamin Alire Sáenz. Mae angen i ni ddarllen straeon am brofiadau croestoriadol, o hil a rhywioldeb, fel Giovanni’s Room gan James Baldwin.


Felly, i gloi, mae llenyddiaeth wedi dod yn bell o fod yn 'gyfyngedig o ran cyfeirio at gyfunrywioldeb' fel y dywed yr awdur Dave Astor. Fodd bynnag, gall fynd cymaint ymhellach o hyd na lle mae wedi cyrraedd nawr os ydym yn caniatáu iddi wneud hynny, os ydym yn darllen llyfrau, straeon byrion, nofelau a.y.b. ar themâu LHDT, os ydym yn cefnogi awduron LHDT a'u gwaith. Dyma pam y bydd pwyllgor AberBalch / AberPride yn rhannu eu hoff gyfryngau ‘cwîar’ ar y dudalen Facebook gyhoeddus.

Comments