UMAber yn sicrhau Grant gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Sgiliau Gwydnwch ac Atal Hun

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae UMAber wedi derbyn grant o £23,000 i ddarparu hyfforddiant Sgiliau Gwydnwch ac Atal Hunanladdiad ar gyfer myfyrwyr a staff.

Cyflwynwyd y grant newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy'n dosbarthu arian a godir gan y rheiny sy’n chwarae’r loteri i achosion da.

Bydd y grant yn galluogi Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno gweithdai rhyngweithiol i fyfyrwyr a staff y brifysgol ar Sgiliau Gwydnwch ac Atal Hunanladdiad.

Mae'r prosiect yn cychwyn ym mis Ebrill gyda hyfforddwyr allanol yn cyflwyno i staff yr Undeb a dau grwp o fyfyrwyr i ddechrau, cyn dychwelyd dros yr haf i gyflwyno sesiwn hyfforddi’r hyfforddwr, er mwyn caniatáu i staff gyflwyno sesiynau rheolaidd o fis Hydref ymlaen.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd y Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr sydd mewn angen yn parhau i allu cael gafael ar gymorth llesiant priodol lle bo angen, gan hefyd sicrhau bod yr hyfforddiant yn cydfynd â'r ddarpariaeth bresennol.

 

Meddai Molly-Jean Longden, Swyddog Llesiant:

"Rydw i'n teimlo’n hynod o gyffrous ein bod ni’n dechrau cyflwyno hyn i'n myfyrwyr a'n staff, yn enwedig ein Clybiau a Chymdeithasau sydd wedi bod yn gofyn am hyfforddiant ychwanegol yn y meysydd hyn.

Mae hyn yn bwysicach fyth, oherwydd bydd yn caniatáu i ni ddarparu myfyrwyr a staff â ffyrdd o helpu ei gilydd i ymdopi, ynghyd â’r sgiliau i ddelio â'r sefyllfaoedd y gall myfyrwyr eu hwynebu."

 

Meddai Rachel Richards, Swyddog Cyllid gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

"Cyflwynodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gais cryf oedd yn dangos eu bod wedi gwrando ar fyfyrwyr a staff y Brifysgol ac yn cynnig prosiect a oedd yn mynd i'r afael â'r materion hynny oedd yn bwysig i’r grwpiau hyn.

Byddant yn defnyddio'r grant i geisio annog myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn hytrach na gadael y brifysgol neu ddioddef yn dawel.  Rydym yn croesawu'r diddordeb cynyddol mewn iechyd meddwl positif ac edrychwn ymlaen at weld sut mae'r tîm yn Aberystwyth yn datblygu'r prosiect hwn."

 

Mae sesiynau ar gyfer mis Ebrill, nawr wedi'i bwcio allan.

Hyfforddiant Sgiliau Gwydnwch - Wedi bwcio allan!

Hyfforddiant Atal Hunanladdiad - Wedi bwcio allan!

Comments