ANRHYWIOL. DIM BYD O’I LE.
Dydw’i erioed wedi teimlo’r un atyniad rhywiol at neb, na’r un chwant i gael rhyw arnaf, a’r syniad ohonof i’n cael rhyw gyda rhywun yn ffiaidd ac yn anghyfforddus gen i ers erioed. Roeddwn i’n arfer yn credu bod rhywbeth o’i le gyda fi, ac yna dyma fi’n darganfod y term ‘anrhywiol’.
Beth yw ystyr anrhywiol?
Mae’r term anrhywiol neu ace (yn y Saesneg), yn disgrifio pobl sydd ddim yn profi unrhyw atyniad na chwant rhywiol. Credir rhai bod rhywbeth o’i le gyda chi os ydych yn anrhywiol, bod rhywbeth gwael wedi digwydd i chi beidio â hoffi rhyw, neu y gwnewch chi ddod o hyd i’r person iawn un dydd a chael rhyw. Nid yr achos mo hyn. Mae llawer o bobl anrhywiol yn byw ar hyd ei oes heb gael rhyw.
Math o sbectrwm yw anrhywioldeb. Un hunaniaeth rhywiol ar y sbectrwm anrhywiol ydyw. Mae rhai pobl anrhywiol yn profi rhai atyniad i raddau gwahanol, ac i bob un mae term gwahanol.
Y Sbectrwm Anrhywiol
Mae yna sawl term a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol hunaniaethau anrhywiol, gan gynnwys:
Anrhywiol: i ddisgrifio rhywun sydd ddim yn profi’r un atyniad neu chwant rhywiol o gwbl. Mae rhai pobl anrhywiol yn mastyrbio, yn gwylio ac yn teimlo’n gyfforddus gyda phorn neu gynnwys rhywiol eraill.
Pobl Anrhywiol Sy’n Gwrthod Rhyw:
Mae’r syniad o ryw yn codi cyfog ar rai pobl anrhywiol ac nad oes eisiau clywed, gweld, trafod na meddwl am ryw mewn unrhyw ffordd. Efallai nad ydynt yn mastyrbio nac yn gwylio porn nag unrhyw gynnwys rhywiol eraill.
Llwyd-rhywiol: rhywun sydd prin, neu mewn amgylchiadau penodol, yn profi atyniad rhywiol.
Hanner-Rhywiol: term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywun sydd efallai yn profi atyniad rhywiol tuag at rywun maen nhw wedi magu perthynas emosiynol cryf gyda nhw. Mae rhai yn dadlau bod pawb yn hanner-rhywiol, serch hynny, mae yna wahaniaeth rhwng aros i gael rhyw a hanner-rhywioldeb. Mae llawer yn aros tan adeg benodol yn eu perthynas cyn cael rhyw ond eu bod yn teimlo atyniad rhywiol yn ystod yr amser hynny, ar llaw arall, efallai na fydd person hanner-rhywiol yn teimlo unrhyw atyniad rhywiol o gwbl nes eu bod wedi magu perthynas emosiynol cryf – a all gymryd blynyddoedd.
Fy Mhrofiadau
Trwy gydol fy mlynyddoedd yn yr ysgol, roedd pawb o’m cwmpas yn siarad am ryw, mastyrbio, eu tro cyntaf, a’u hawydd i gael rhyw gyda rhywun maen nhw’n eu caru a chael plant gyda nhw un dydd. Serch hynny, dydw’i erioed wedi profi hyn. Roeddwn i’n tybed pam fy mod i fel hyn am gyfnod hir ac a oes rhywbeth o’i le gyda fi ac a fuaswn i, rhyw ddydd, yn teimlo atyniad rhywiol tuag at rywun. Dydw’i byth wedi mastyrbio na gwylio porn chwaith, sydd wedi cryfhau’r syniad bod rhywbeth yn bod arnaf i. Bydda’ i’n dod o hyd i’r person iawn rhyw ddydd, cael rhyw, a chael plant medden nhw, ond dydw’i byth wedi teimlo fel hyn. Sawl blwyddyn yn ôl, des i ar draws y term ‘anrhywiol’ ac ar ôl tipyn o ymchwil a siarad gyda phobl ar lein, fe helpodd hyn i fi dderbyn nad oes dim byd yn bod ar ddiffyg chwant rhywiol. Os nad ydych chi eisiau cael rhyw, mastyrbio, gwylio porn, mae hynny’n iawn. Does dim byd yn bod arnoch chi.