Fis Chwefror, cynhyrchodd y Swyddfa Masnachu Teg adroddiad ar arferion casglu dyled prifysgolion y DU. Canfu y gallai'r arfer o atal graddio, neu atal symud ymlaen o un flwyddyn i'r llall, o achos dyled di-academaidd myfyrwyr (ffioedd neuadd, llyfrau o'r llyfrgell ayyb.) dorri cyfraith diogelu defnyddwyr. Mae hwn yn golygu bod myfyrwyr yn mynd â phrifysgolion i'r llys pe gosodir cosbau ar fyfyrwyr yn graddio neu'n symud ymlaen o achos dyled di-academaidd.
Anfonwyd yr argymhelliadau hyn at bob prifysgol, gan gynnwys Aberystwyth. Bu llawer yn ymateb drwy roi terfyn ar bob cosb o achos dyled di-academaidd. Mae Prifysgol Aberystwyth o hyd yn atal myfyrwyr rhag symud ymlaen a graddio o achos dyled di-academaidd. Mae hynny'n awtomatig os mae'r dyledion yn fwy na £500.
Os ydych wedi cael unrhyw brofiad o gael eich cosbi o ganlyniad i ddyledion di-academaidd, treuliwch gwpl o funudau ar ein harolwg: http://goo.gl/forms/zzauQTTxR4
Bydd hwn yn helpu ein brwydr i roi terfyn ar holl gosbau o achos dyled di-academaidd.
Os yw dyled neu wrthod cael caniatâd i symud ymlaen yn academaidd yn peri gofid i chi, gwnewch apwyntiad â'n gwasanaeth cynghori cyfrinachol drwy e-bostio undeb.cyngor@aber.ac.uk
Will Atkinson
Swyddog Lles