Gall yr holl broses o wneud cais fod yn eithaf dryslyd – hyd yn oed os ydych chi wedi mynd trwyddi eisoes!
Gall yr holl broses o wneud cais fod yn eithaf dryslyd – hyd yn oed os ydych chi wedi mynd trwyddi eisoes!
Mae llawer o jargon, ffurflenni cymhleth a dyddiadau cau cudd. Ond does dim rhaid iddi fod fel hyn... Dyma ganllawiau i sicrhau eich bod chi'n derbyn yr arian sydd gennych hawl iddo – ac ar amser.
-
Mynnwch gymorth! Mae llinellau cyngor Cyllid Myfyrwyr yn aml yn brysur gydag ymholiadau myfyrwyr felly syniad da fydd cysylltu â'r gwasanaethau cyngor lleol ar y campws. Bydd gan bob Prifysgol o leiaf un gwasanaeth cyngor am ddim h.y. un yn y Brifysgol.. ond bydd gan y mwyafrif wasanaeth cyngor annibynnol hefyd yn Undeb y Myfyrwyr. Bydd siwr o fod llwyth o wybodaeth ar eu gwefan hefyd. Yn gryno, os nad ydych chi'n siwr – gofynwch am gyngor; a hyd yn oed os ydych chi'n siwr – ceisiwch am gyngor fodd bynnag – bydd yn siwr o osgoi'r anghyfleustra pan fyddwch yn cyrraedd ar ddechrau'r tymor.
-
Casglwch y dystiolaeth angenrheidiol. Er enghraifft, bydd angen dangos prawf adnabod a thystiolaeth o'ch incwm teuluol a allai gynnwys incwm eich parter neu rieni os yw'n briodol. Efallai bydd angen tystiolaeth eich bod chi'n annibynnol o'ch rhieni hefyd. Beth bynnag, meddyliwch am hynny ymhell ymlaen llaw.
-
Cadwch at ddyddiadau cau. Os ydych chi'n gwneud cais ar ôl y dyddiad cau, does dim gwarant y byddwch yn derbyn eich arian cyn dechrau'r tymor. Dyma'r prif ddyddiadau cau ar gyfer ymgeiswyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd:
Dyddiad cau
|
Myfyrwyr newydd
|
Myfyrwyr parhaus
|
Cyllid Myfyrwyr (Lloegr)
|
31ain Mai 2015
|
30ain Mehefin 2015
|
Cyllid Myfyrwyr (Cymru)
|
15fed Mai 2015
|
5ed Mehefin 2015
|
Cyllid Myfyrwyr (Gogledd Iwerddon)
|
17eg Ebrill 2015
|
30ain Mehefin 2015
|
Asiantaeth Dyfarniadau i Fyfyrwyr yr Alban
|
30ain Mehefin 2015
|
30ain Mehefin 2015
|
-
Pe bai pethau'n mynd o chwith? Unwaith eto – ceisiwch am gyngor. Mae gwasanaethau cyngor ar y campws gerllaw i'ch cynorthwyo chi drwy unrhyw broses o gwyno neu wneud iawn â Chyllid Myfyrwyr. Hefyd, gall pob Prifysgol gael gafael ar ryw fath o gymorth caledi argyfwng ar eich cyfer chi, naill ai fel grant neu fenthyciad, os nad yw eich arian yn cyrraedd mewn pryd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun!
Cysylltiadau defnyddiol
-
Tîm Cyngor Prifysgol Aberystwyth
Ffon: 01970 621761
E-bost: student-adviser@aber.ac.uk; student-support@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/
-
Tîm Cyngor Undeb y Myfyrwyr
Ffon: 01970 621702
E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk
Gwefan: www.umaber.co.uk/cymorth/