Pam ddylech chi fynychu'r Wythnos Weithgareddau?

Flog am fy mhrofiad o'r Wythnos Weithgareddau yn fy mlwyddyn gyntaf.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyma fy mlog cyntaf erioed, felly gobeithio na fydd yn rhy ddiflas! Mae'n mynd i fod yn flog am fy mhrofiad o'r Wythnos Weithgareddau yn fy mlwyddyn gyntaf, sef fy mhrofiad cyntaf o fywyd yn Aber, sy'n gweddu i fy mlog cyntaf!

Dwi'n wreiddiol o Essex, oedd yn golygu fod gen i dipyn o daith i Aber, felly penderfynais deithio draw ar y diwrnod cynt ac aros dros-nos cyn yr Wythnos Chwaraeon (fel y cyfeiriwyd ati bryd hynny - cyn iddi ddatblygu'n Wythnos Weithgareddau). Pan ddihunais yn y bore, roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn ynglyn â dechrau bywyd newydd a gwneud ffrindiau newydd; bu rhaid i mi ofyn i fy rhieni adael, gan fy mod i'n awyddus i gwrdd â'r bobl yn fy fflat!

Roedd symud i mewn yn brofiad swrrealaidd, ynghyd â gadael fy nghartref a dechrau bywyd newydd ar ochr arall y wlad. Es ati i ddad-bacio'r pethau hanfodol (roedd gen i GRYN LAWER o stwff - felly wnes i ddim dad-bacio popeth). Fe'm croesawyd i a'm cyd-letywyr gan y cynorthwywyr, ac i ffwrdd a ni i'r Undeb am fwyd cyn i'r noson ddechrau. Ar ôl cwis anffurfiol i dorri'r iâ, agorwyd y drysau, gan ryddhau'r clybiau chwaraeon! Roedd yn noson anhygoel, gan fod y clybiau i gyd mor groesawus ac yn awyddus i'n "dangos ni o amgylch y dref". Gwnes gymaint o ffrindiau'r noson honno; yn sicr un o'r atgofion gorau sydd gen i o fod yn y Brifysgol!

Drannoeth, rhaid cyfaddef fod y rhan fwyaf ohonom yn teimlo braidd yn fregus, ond llwyddodd brecwast yn TaMed i wella'r sefyllfa. Ar ôl brecwast, i ffwrdd a ni at risiau'r Undeb, lle'r oedd y Glas-fyfyrwyr i gyd wedi ymgynnull, ac aeth pawb i gyfeiriad y chwaraeon oedd o ddiddordeb iddyn nhw. Ar fy niwrnod cyntaf, rhoddais gynnig ar Bêl-fasged a chlwb rhedeg yr Harriers, a gallaf ddweud yn onest fy mod i wedi blino'n lân - roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i wedi rhedeg holl arfordir Cymru! Roedd yn ffordd wych o gwrdd â phobl a dysgu am y lle roeddwn i'n mynd i alw'n gartref am y 3 blynedd nesaf.  Ar yr ail ddiwrnod, es i sesiynau Nofio a Pholo-dwr - rhaid fy mod i wedi mwynhau fy hun, oherwydd yn fy ail flwyddyn roeddwn i'n Ysgrifennydd Cymdeithasol y clwb, gan symud ymlaen i fod yn Llywydd yn fy nhrydedd flwyddyn. Rhaid eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn iawn i mi ddal ati dros y blynyddoedd!

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd yn amser am Wythnos y Glas, a bu fy nghyd-letywyr a fi'n helpu'r Glas-fyfyrwyr i symud i mewn, fel pe baem ni wedi bod yn Aber ers blynyddoedd ac yn gwybod popeth am y lle. Roedd yn gymorth mawr i wneud ffrindiau a dweud wrthyn nhw am ein profiadau ni o'r wythnos flaenorol.

Mae'r Wythnos Chwaraeon yn fy mlwyddyn gyntaf ymysg yr wythnosau gorau o fy mywyd yn y brifysgol, a buaswn yn ei argymell yn gryf i unrhyw fyfyrwyr sy'n dod i Aber am y tro cyntaf.

Eleni, fi sy'n trefnu'r digwyddiad, felly rydw i'n gobeithio y gallaf ei wneud mor bleserus i'r rheiny sy'n mynychu'r Wythnos Weithgareddau eleni ag yr oedd y profiad i mi yn fy mlwyddyn gyntaf.

Wythnos Weithgareddau 2016 yw eich cyfle i brofi gweithgareddau Aberystwyth cyn i unrhyw un arall gyrraedd y Brifysgol. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Comments