POB CLOD I'R BRIFYSGOL!

Pob clod lle mae'n deilwng; rhaid llongyfarch Prifysgol Aberystwyth ar gynllun YmlaenAber, sydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.
UMAber

Pob clod lle mae'n deilwng; rhaid llongyfarch Prifysgol Aberystwyth ar gynllun YmlaenAber, sydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben! Golygodd y cynllun hwn fod 69 o raddedigion di-waith Prifysgol Aberystwyth wedi ymgymryd â chyfle hyfforddiant cyflogedig ar gyfer graddedigion, oedd yn para am fis. Fe'i cynhaliwyd o fewn adrannau a gwasanaethau'r Brifysgol. Mewn ymdrech i ganfod gwaith iddynt, mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi cyfleoedd iddynt i ddysgu sgiliau newydd ac addasu i amgylchedd newydd, ynghyd â chael profiadau a fydd yn eu datblygu ar gyfer byd gwaith.

Gwelwn fod amryw o raddedigion YmlaenAber yn hapus iawn â'r cynllun. Cynigiwyd lle i Rhys Morgan, sydd â gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, fel Cydlynydd Ymgyrch Farchnata yn y Ganolfan Chwaraeon. Meddai: 'Rwyf yn mwynhau pob munud o'r profiad! Gan nad oeddwn i wedi bod mewn swydd 9-5 mewn swyddfa o'r blaen, roeddwn yn teimlo nad oedd gen i'r sgiliau na'r profiad oedd eu hangen ar gyfer llawer o swyddi. Rhoddodd cynllyn YmlaenAber y cyfle i mi wella fy sgiliau drwy fynd ar leoliad gwaith, a hefyd drwy fynychu'r gwahanol weithdai mae'r cynllun yn eu cynnig i'r graddedigion sy'n derbyn hyfforddiant. Mae'r ffaith fod YmlaenAber yn talu cyflog ar lefel graddedigion yn fonws go iawn, ac mae'n rhoi cymhelliant i mi wneud gwahaniaeth a cheisio gwneud argraff dda ar fy nghyd-weithwyr. Buaswn yn argymell y cynllun hwn i unrhyw ddarpar raddedigion y flwyddyn nesaf!'

Yn wir, mae Undeb y Myfyrwyr yn gobeithio y bydd y Brifysgol yn parhau i gynnig hyn yn y dyfodol, fel rhan o'i hymrwymiad i gyflogadwyedd a chael graddedigion i mewn i swyddi. Gobeithiwn hefyd fod y Brifysgol wedi bod ar ei hennill o'r graddedigion hyn sy'n deall gwir ystyr 'profiad myfyrwyr' yma yn Aberystwyth.

Dywedodd un o'r graddedigion eraill a fu ar gynllun hyfforddiant YmlaenAber, Elenya Kim McGovern, sy'n gweithio yn y Ganolfan er Datblygu Staff ac Arferion Academaidd (CDSAA) fod YmlaenAber yn, "gynllun gwych sydd wedi helpu i ddatblygu sgiliau graddedigion drwy brofiad gwaith heriol mewn amgylchedd cyfarwydd.

"Hyd yma, mae wedi bod yn brofiad ardderchog, rydym wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo ac rydym wedi ymgymryd â phrosiectau cyfrifol a phwysig.

"Mae wedi bod yn wych bod yn ôl yn awyrgylch y Brifysgol o'r ochr arall, mae'r staff wedi bod yn groesawgar a chyfeillgar, ac rydym wedi cael prosiectau creadigol a diddorol i weithio arnynt."

Edrychai UMAber ymlaen at glywed mwy o straeon ynghylch llwyddiant graddedigion sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwn, ac sydd wedi mwyhau eu cyfnod byr yn ôl ym Mhrifysgol Aberystwyth a gobeithio y bydd y cynllun uchelgeisiol a blaengar hwn yn arwain y ffordd ar gyfer Prifysgolion ledled y DU, fel y byddant hwythau'n gwneud yr un fath. Anfanteision? Na fu i raddedigion eraill fanteisio ar y cynnig, a'r ffaith ei fod am gyfnod mor fyr!

Llongyfarchiadau i'r Brifysgol ac i'r graddedigion a gyfranogodd yn y cynllun! 

Comments