Mae'r ferch hon yn gallu: Ac fe lwyddodd

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Hon yw'r wythnos pryd byddwn ni'n dathlu ymgyrch 'Gall y Ferch Hon'... a beth bynnag fo'ch oedran, gallu, cefndir neu iechyd, gall pawb gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff mewn rhyw ffordd neu'i gilydd (mae hyn yn bosib, hyd yn oed os nad ydych chi'n credu hynny!)

Mae'r blog hwn yn gipolwg ar yr awgrymiadau gorau sydd gen i a fy nghydweithwyr (o UMAber) i'w cynnig i ymladd diffyg cymhelliant a'r syniad brawychus o fynd i'r gampfa neu fynd ati i gymryd rhan mewn camp newydd am y tro cyntaf (yn arbennig fel dynes), ond yn gyntaf, ychydig amdanaf i. Mae fy stori'n dechrau yn Ionawr eleni pan oeddwn i (6 stôn y drymach) fel y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cynefino â dull o fyw eisteddol - mynd i'r Brifysgol/gwaith, bwyta cinio enfawr gan fy mod i wedi methu brecwast a gwneud ychydig iawn ar ôl cyrraedd adref. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol pan oedd y tywydd yn wael. Neu pan oeddwn i ond am eistedd yn yr heulwen. Neu pan oeddwn i'n teimlo mor isel/cymdeithasol anghyfforddus, fel nad oeddwn i am wneud unrhyw beth ond cuddio rhag y byd a phopeth ynddo. Yna, yn Ionawr 2016, trodd swits yn fy mhen. Roeddwn i am fod yn berson â chymhelliant, rhywun oedd yn mynd i'r gampfa'n rheolaidd. Roeddwn i'n awyddus i gymryd rhan yn y campau roeddwn i mor hoff ohonynt pan oeddwn i yn yr ysgol. Ond doeddwn i ddim yn gwybod ble na sut i ddechrau, neu hyd yn oed os gallwn i wneud hyn, ac yn bwysicach na hynny, cynnal unrhyw lefel o ymrwymiad.

Dyma rai o'r pethau oedd o gymorth mawr i mi fynd o wneud bron ddim ymarfer corff o gwbl (ac yn casáu'r syniad) i fynd i'r gampfa 5 gwaith yr wythnos a hyd yn oed ymuno ag ymarferion tîm Pêl-rwyd y Brifysgol. Nawr, dwi wrth fy modd yn gwneud ymarfer corff, a dwi'n methu dychmygu bywyd hebddo. Mae hyn nid yn unig wedi helpu fy ffitrwydd corfforol, ond hefyd dwi'n teimlo fy mod i nawr mewn llawer gwell sefyllfa i ymdopi â'r hyn mae bywyd yn ei daflu ataf. Rwyf yn gobeithio y bydd yr hintiau hyn yn eich helpu i gynnal y cymhelliant hwn hefyd.

1. Ceisiwch ganfod cyfaill i fynd i'r gampfa gyda chi

Mae hyn o bosib y peth pwysicaf wnewch chi, ac mae'n amhosib gor-bwysleisio faint mae hyn yn helpu i leihau'r ofn o fynd i'r gampfa yn y lle cyntaf. Does dim rhaid i'r person yma ymrwymo i ddod gyda chi bob tro, ond mae'n sicr o gymorth os ydyn nhw yno gyda chi i'ch helpu i ddod i arfer â'r amgylchedd newydd. Unwaith y byddwch wedi ymgyfarwyddo â'r gampfa, mae cymaint haws dychmygu mynd yno ar eich pen eich hun. Beth am ofyn y cwestiwn ar Facebook... gall fod un o'ch ffrindiau'n chwilio am yn union yr un peth!

2. Gweithiwch allan pam eich bod chi am gymryd rhan

Dyma fydd eich cymhelliant. Gall fod yn unrhyw beth, o wella ffitrwydd, i ddilyn hobi, i gwrdd â phobl newydd, neu ddim ond teimlo'n well am fywyd... daliwch eich gafael yn y syniad hwnno. Bob tro y byddwch chi'n cael diwrnod gwael, cofiwch pam eich bod chi'n gwneud hyn a pheidiwch â rhoi'r opsiwn o ildio i chi eich hun. Hefyd, cofiwch eich bod yn ddynol. Mae bodau dynol yn sicr o gael dyddiau da a dyddiau gwael, y peth pwysicaf yw sut rydych chi'n ymdrin â nhw. Dewiswch fynd yn ôl ar y ceffyl os ydych chi'n cwympo i ffwrdd, mae'n llawer gwell teimlad nag ildio.

3. Cyfranogwch pan fyddwch chi leiaf awydd gwneud hynny

Mae hyn yn swnio'n rhyfedd, oherwydd mae gwneud y gwrthwyneb i'r hyn rydych chi am ei wneud yn beth ofnadwy, ond credwch fi pan fydda i'n dweud mai dyma yw'r ateb gorau i ddiffyg cymhelliant.   Pan fyddwch chi'n teimlo'n ddigalon ac awydd crio, neu weiddi neu guddio, defnyddiwch yr ynni negyddol hwnnw fel cymhelliant. Naw gwaith allan o 10, byddwch yn teimlo cymaint gwell ar ôl hynny. Bydd eich ymennydd wedyn yn gweld ymarfer corff fel rhywbeth i edrych ymlaen ato, felly byddwch yn dechrau bod eisiau mynd i'r gampfa, hyd yn oed pan fyddwch chi'n teimlo'n wael.  Newidiwch i mewn i'ch dillad chwaraeon heb feddwl am y peth, a bydd y gweddill yn llifo o hynny!

4. Prynwch fra chwaraeon da

Efallai bod hyn yn swnio'n amlwg, ond wnes i erioed feddwl cymaint mwy cyfforddus yw bra chwaraeon o gymharu â bra cyffredin. Mae'r rhan fwyaf o siopau dillad yn eu gwerthu nhw am lai na £15... gwerth pob ceiniog. Hefyd, gwisgwch beth bynnag sy'n gyfforddus i fynd i'r gampfa. Fe ddechreuais mewn ffrog chwaraeon oherwydd fy mod i mor swil... dydy pawb dim yn teimlo'n hyderus mewn dillad chwaraeon ffasiynol a thynn, sef yr union bethau mae pobl yn dweud y dylem fod yn eu gwisgo.

5. Gwisgwch rywbeth sydd o fewn eich cyrraedd yn ariannol

Dydy pawb ddim yn gallu fforddio aelodaeth o gampfa, ond dwi wedi dod o hyd i gymaint o ffyrdd eraill o gadw'n heini drwy wneud ymarfer corff / chwaraeon sy'n costio dim. Mae pethau syml fel gwneud sgwats wrth frwsio eich dannedd neu sychu eich gwallt yn ffordd wych, a chofiwch ein bod ni'n byw mewn rhan hyfryd o'r byd lle gallwch gerdded hyd lwybr yr arfordir. Hefyd, chwiliwch am sesiynau cymunedol neu sesiynau hyfforddi clybiau'r Brifysgol, sy'n agored i bawb - Fe ymunais i ag ymarferion tîm Pêl-rwyd y Brifysgol pan hysbysebwyd sesiwn gymunedol; roedd yn gryn hwyl, ac arweiniodd at ymuno â'r gampfa yn Ionawr.  Doeddwn i ddim yn wych, ond roedd y merched yn anhygoel ac mor groesawgar! O.N. NID YW esgidiau rhedeg drud yn gwneud i chi fynd yn gyflymach... cyn belled â'u bod nhw'n gyfforddus, fe wnaiff rhai £15 y tro!

6. Mae pobl sy'n casáu'n mynd i gasáu ta beth

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i'ch barnu mewn ffordd bositif am wneud yr ymdrech, yn hytrach na mewn ffordd wael. Byddwch yn falch, a cheisiwch ganolbwyntio arnoch chi eich hun a'r hyn rydych chi'n ei wneud y foment honno. Ni all unrhyw un darfu ar beth rydych chi'n ei gyflawni, felly lluniwch restr o gerddoriaeth sy'n mynd i wneud i chi deimlo fel dawnsio, ac ewch amdani!

7. Peidiwch â chymharu eich hun

Mae hyn yn anodd. Rydyn ni i gyd eisiau meincnodi ein hunain yn erbyn ein ffrindiau, sy'n arwain at y llais bach hwnnw yn ein pennau sy'n dweud "dydw i ddim yn ddigon da, felly dydw i ddim hyd yn oed yn mynd i roi cynnig arni". Yr unig berson y dylech chi fod yn meincnodi eich hun yn ei erbyn, yw CHI EICH HUN, felly anghofiwch ynglyn ag unrhyw un arall a gwnewch hynny fedrwch chi.

8. Dathlwch fuddugoliaethau

Hyd yn oed os yw'n rhywbeth bach iawn ar y dechrau, mae dathlu eich llwyddiant eich hun yn bwysig. Bydd newid mawr yn digwydd os ydych chi'n dal ati am gyfnod, felly dylech ganfod rhywbeth sy'n gweithio i chi ac adeiladu ar hynny! #Smallstepsbiggoals

9. Gwnewch rywbeth sy'n hwyl

Os ydych chi'n hoffi gwneud rhywbeth, yna byddwch yn fwy tebygol o ddal ati. Er enghraifft, mae Zumba'n GYMAINT O HWYL. Does neb yn gwybod beth maen nhw'n wneud ar y dechrau, felly mae'r hyfforddwyr yn ddigon bodlon rhoi cyfarwyddiadau i chi. Gall fod ychydig yn frawychus, ond cofiwch fod pawb wedi bod yn ddechreuwyr ar ryw adeg neu'i gilydd; cyn belled â'ch bod chi'n fodlon dysgu a chwerthin am ben eich camgymeriadau, yna mae'n sicr o ddod ar ei gilydd yn y pen draw! Mae'r ganolfan chwaraeon yn cynnig llwyth o ddosbarthiadau i ddewis o'u plith gydol yr wythnos; gallwch fynd ar eich pen eich hun neu gyda grwp o ffrindiau, felly does dim esgus!

10. Does dim teimlad gwell

Mae'r awgrym olaf yn ymwneud ag ymrwymiad. Gwnewch ymrwymiad i wneud mis o ymarfer corff neu gamp newydd. Rhowch gynnig arni am fis. Dyna'r cyfan. Os nad yw hyn yn gweithio i chi, rhowch gynnig ar rywbeth arall. Os yw hyn yn gweithio i chi, yna does yr un teimlad gwell na syrthio mewn cariad â sut mae ymarfer corff yn gwneud i chi deimlo!

Felly, dyna nhw ein 10 o hintiau handi - pob lwc, byddwch yn ddewr a theimlwch yn dda. Fe lwyddodd y ferch hon a dwi'n teimlo'n gwbl ardderchog... ac os ydw i'n gallu llwyddo, yna gallwch chi hefyd!

Comments