Taith o Aberystwyth / Tour of Aberystwyth

(English Below/ Saesneg Islaw)

Os oes gennych unrhyw cwestiynau, danfonwch neges i Thomas Eva: (https://www.facebook.com/thomas.eva.96).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am offer, cysylltwch â'r swyddog offer: (https://www.facebook.com/profile.php?id=100086517184308).

- Trosolwg -
Croeso i bawb! Dyma ein hike cyntaf Rhowch Gynnig Arni yn wythnos y Glas, a byddwn yn mynd ar daith yn chwilio am golygfeydd o amgylch Aberystwyth.

-Manylion-
Byddwn yn cychwyn ym mhrif fynedfa campws y brifysgol cyn mynd drwy'r campws isaf a heibio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. O'r fan hon, byddwn yn mynd i lawr i'r dref ac yn cerdded trwy'r fynwent, cyn croesi'r rheilffordd. Bydd ein llwybr wedyn yn mynd â ni ar draws Afon Rheidol ac i mewn i Drefechan. O'r fan hon y byddwn yn dringo'r llwybr byr i fyny Pen Dinas lle gobeithiwn weld golygfeydd gwych o dref Aberystwyth yn ogystal â Than y Bwlch i'r de. Byddwn yn cerdded yn ôl o amgylch yr harbwr ac ar draws pont Trefechan cyn cerdded ar hyd y promenâd heibio’r castell i ben arall y prom, lle gall y pwyllgor eich cyflwyno i’r traddodiad o ‘gicio’r bar’! Gallwch ein gadael ni yno os dymunwch aros yn y dref, neu gallwch ddod am dro bach i fyny drwy goedwig Penglais yn ôl i ger PJM a champws y brifysgol. Bydd y daith gerdded tua 11 km o hyd gyda thua 325m o esgyniad.

-Man cyfarfod ac Amserau -
Rydyn ni'n cyfarfod drws nesaf i'r swyddfa ddiogelwch ym mhrif fynedfa campws y brifysgol am 10:30yb. Bydd y daith gerdded yn cymryd tua 4 awr ac felly dylem fod yn ôl yn y man cychwyn am 14:30yp.

-Rhestr Offer-
• Cinio a byrbrydau
• O leiaf 1L o ddwr
• Esgidiau cadarn
• Côt wrth dwr
• Digon o haenau o ddillad ar gyfer rhagolygon y tywydd
• Bag addas ar gyfer cario popeth

-------------------------------

If you have any questions, please message Thomas Eva: (https://www.facebook.com/thomas.eva.96).

If you have any questions about equipment, please contact the equipment officer: (https://www.facebook.com/profile.php?id=100086517184308).

- Overview-
Welcome everyone! This is our first Give It A Go hike of Freshers week, and we will be going on a sightseeing tour around Aberystwyth.

-Details-
We will start at the university's main campus entrance before heading through the lower campus and past the National Library of Wales. From here, we will head down into the town and walk through the cemetery, before crossing the railway line. Our route will then take us across the Afon Rheidol and into Trefechan. It is from here we will do the short ascent up Pen Dinas where we will hopefully see some fantastic views of Aberystwyth town as well as Tan y Bwlch to the south. We will walk back around the harbour and across Trefechan bridge before walking along the promenade past the castle to the other end of the prom, where the committee can introduce you to the tradition of ‘kicking the bar’! You can leave us there if you wish to stay in town, or you can come for a short ramble up through Penglais woods back to near PJM and the university campus. The walk will be around 11 km long with approximately 325 m of ascent.

-Meetings and Timings-
We’re meeting next to the security office at the main university campus entrance at 10:30am. The walk will take approximately 4 hours and therefore we should be back at where we started at 14:30pm.

-Equipment List-
•    Lunch and snacks
•    At least 1L of water
•    Sturdy footwear
•    Waterproof coat
•    Enough layers of clothing for the weather forecasted
•    Backpack suitable for carrying everything

More Events