Staff Undeb Aber Her Arfordir Ceredigion
Mae Tîm Undeb Aber yn gweithio gyda’i gilydd i gerdded pob cam o lwybr Arfordir Ceredigion ar y cyd mewn un diwrnod. Roeddem eisiau treulio amser gyda’n gilydd, rhoi her i’n gilydd mewn modd cynhwysol, mynd allan i fyd natur, gwneud rhywbeth er ein lles ni a chodi arian at achos da ar yr un pryd.
Rydyn ni’n cerdded 60 milltir at ei gilydd o Ynyslas i Aberteifi 19eg Mehefin a braf fyddai cael gwneud gwahaniaeth wrth ei wneud.
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal brys datblygedig sy’n achub bywydau ar gyfer pawb yng Nghymru, 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn. Mae’n gwbl ddibynnol ar roddion i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb brys ar yr hewl.
Bydd eich rhoddion o fudd mawr wrth gynnal y gwasanaeth hanfodol hwn yng Nghymru.
Dilynwch ein taith a chefnogwch os gallwch: https://www.justgiving.com/page/undebaber-her-arfordir-coast-challenge