Ffair y Glas (Diwrnod 3)

Helo! 

Croeso i’ch Ffair y Glas chi! Hwn yw digwyddiad mwyaf cyffrous a phwysig y flwyddyn i’r holl fyfyrwyr sy’n ymuno â’n cymuned Aber fywiog. Mae Ffair y Glas yn agor drws i chi ddarganfod yr ystod eang o gymdeithasau, clybiau a gwasanaethau ar gael drwy eich Undeb Myfyrwyr. 

Beth i’w ddisgwyl: 

  • Dros 100 o stondinau: Pori stondinau gan amryw o gymdeithasau myfyrwyr, clybiau chwaraeon, prosiectau gwirfoddoli, cymorth prifysgol, businesau lleol ac wrth gwrs, ni - Eich Undeb! Waeth oes gennych chi ddiddordeb mewn chwaraeon, celf, gwleidyddiaeth, diwylliant neu gyfleoedd gwirfoddoli, mae yna rywbeth at ddant pawb. 

  • Pethau Am Ddim: Cewch fanteisio ar wahanol bethau am ddim, yn cynnwys samplau bwyd, nwyddau, a disgowntiau unigryw gan fusnesau lleol a brandiau cenedlaethol. 

  • Rhowch Gynnig Arni: Rhowch gynnig ar weithgaredd newydd AM DDIM! Bydd amryw o grwpiau myfyrwyr allan ar y campws ac yn adeilad yr Undeb lle gallwch gael blas ar rywbeth newydd! 

  • Gwybodaeth a Chymorth: Mae modd i chi gael hyd i wybodaeth werthfawr ar wahanol wasanaethau er enghraifft Gwasanaeth Cynghori eich Undeb, Swyddogion eich Undeb, GyrfaoeddAber, Cymorth Myfyrwyr, a Dysgu Gydol Oes. Dewch i gwrdd â chynrychiolwyr o bob math o adran sy’n awdyddus i helpu eich rhoi chi ar ben ffordd eich siwrne myfyriwr. 

  • Cyfleoedd Rhwydweithio: Dewch i nabod eich cyd-lasfyfyrwyr a gwneud ffrindiau newydd! Dyma gyfle gwych i gysylltu  ag unigolion o’r un anian a darganfod eich lle yn eich cymuned Aber! Tarwch draw i stondin ‘galw heibio’ y Swyddogion a dweud helo wrth eich Swyddogion etholedig 2025/2026. 

  • Bwyd a Diod: Domino’s am Ddim! Oes rhaid i ni ddeud mwy?! 

Sut i gymryd rhan: 

  • Cofrestru: Does dim rhaid cofrestru ymlaen llaw. Dewch i’r ffair a sganiwch y cod  wrth y fynedfa i gofrestru. 

Gwybodaeth Ychwanegol: 

  • Hygyrchedd: Mae’r lleoliad yn hollol hygyrchedd, ac bydd yno wirfoddolwyr y Tîm-A wrth law i gynnig cymorth os bydd angen. 

  • y Cyfryngau Cymdeithasol: Dilynwch ein tudalen ddigwyddiad swyddogol ar Ffair y Glas 2025 dros Facebook ac Instagram i gael y diweddaraf, cip ymlaen llaw, a chynnwys byw. 

Peidiwch â methu’r cyfle gwych hwn i lansio eich profiad prifysgol. Ymunwch â Ffair y Glas 2025 i gael eich ymdrochi yn yr holl gyfleoedd anhygoel sydd gan yr Undeb i’w cynnig. Dyma edrych ymlaen yn arw at eich gweld yno! 

More Events

Park Run - Aberystwyth
16th August
Plascrug Park, Plascrug Avenue, Aberystwyth SY23 1HL
short desc?
Park Run - Aberystwyth
23rd August
Plascrug Park, Plascrug Avenue, Aberystwyth SY23 1HL
short desc?
Aberystwyth's Farmers Market
23rd August
short desc?
Aber Beer Festival
28th-31st August
short desc?
Park Run - Aberystwyth
30th August
Plascrug Park, Plascrug Avenue, Aberystwyth SY23 1HL
short desc?
Nursing Students Meet and Greet
3rd September
Undeb Picturehouse
Rali Ceredigion
5th-7th September
Aberystwyth
short desc?
Park Run - Aberystwyth
6th September
Plascrug Park, Plascrug Avenue, Aberystwyth SY23 1HL
short desc?
Aberystwyth's Farmers Market
6th September
short desc?