‘Llesiant meddwl: Mynd i'r afael â phryder - sut i wella hunan-ddelwedd a pharodrwydd i dderbyn eich hun’ gweithdy gan Sam Thorne
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***
Bydd Sam yn eich tywys trwy weithdy o hunan-ddarganfod a dulliau ysgafn y gallwch eu rhoi ar waith yn eich ffordd eich hun, ac yn eich amser eich hun. Nod y gweithdy yw taflu goleuni ar heriau cyfredol hunan-ddelwedd, mynegiant a derbyn pwy ydych chi; hefyd sut gallwn ni drawsnewid cyflwr meddwl negyddol yn un buddiol yn hawdd a gyda boddhad.
Gyda'r math hwn o arweiniad a chefnogaeth, gallwn symud tuag at fwy o garedigrwydd, parodrwydd i dderbyn a gwerthfawrogiad ohonom ein hunain.
Yn yr hinsawdd sydd ohoni, gall pryder, hunan-ddelwedd a mynegiant fod yn her i gynifer ohonom mewn amrywiaeth o ffyrdd unigryw. Bydd y gweithdy hwn yn eich cynorthwyo gan roi mwy o eglurder a chefnogaeth i chi, ble bynnag yr ydych ar hyn o bryd.
Pan ddechreuwn ni adlewyrchu a dadansoddi ein heriau mewnol, gallwn gael gwared ar ein 'pryderon mewnol' er mwyn creu mwy o le mewnol, dealltwriaeth a thosturi ar gyfer ein sefyllfa. Byddwn felly’n caniatáu mwy o le i hunan-dderbyn, gan wneud bywyd yn haws.
Dywedir bod y rhan fwyaf o'n pryderon a’n gofidiau’n deillio o'n tuedd i feddwl yn ormodol am bethau sydd y tu hwnt i’n cyrraedd, h.y. 40% yn poeni am y gorffennol na allwn ni wneud unrhyw beth yn ei gylch, a 40% am y dyfodol nad ydym yn gwybod amdano eto. Felly pan ddechreuwn ni ddod yn fwy presennol mewn bywyd, gallwn gyrchu llawer mwy o egni a sefydlogrwydd. Bydd Sam yn eich tywys trwy'r egwyddorion sylfaenol a sut i arfer meddylgarwch, myfyrdod a'r grefft o ymlacio (ddim bod yn brysur) fel dulliau effeithiol ar gyfer gwella iechyd a chynhyrchedd. Trwy newid ein dull o feddwl fel hyn, gallwn greu agwedd ffres, unigryw, iachach a chreadigol tuag at fywyd.
Ymunwch yma: https://us02web.zoom.us/j/83580690644
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***