su

Click here to join the meeting!

Rhowch y tegell ymlaen, bachwch eich hoff fwg, ac ymunwch â ni ac eraill am sgwrs. Rydym yn cydnabod ers i COVID-19 gyrraedd, bod dod at ein gilydd a chymdeithasu wedi bod ychydig yn anoddach nag arfer. Mae’r sesiynau hyn wedi'i hanelu at unrhyw fyfyrwyr sydd am gael cyfle i gwrdd â phobl newydd a sgwrsio am bob math o bethau, o iechyd meddwl i hobïau. 

Mae’n gyfle i rannu gwybodaeth ac awgrymiadau am fywyd yn gyffredinol, a hefyd darganfod beth mae pobl eraill wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod clo. Gallwch chi alw heibio am 5 munud neu aros am yr awr, fe gewch chi benderfynu. Er ein bod yn argymell eich bod â’ch camera ymlaen i elwa o brofiad llawn y sesiwn hon, mae mynychu gyda'ch camera wedi’i ddiffodd yn iawnhefyd. 

Os ydych chi am unrhyw reswm yn cael problemau wrth gyrchu'r sesiwn, e-bostiwch undeb@aber.ac.uk. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch teimladau eich hun wrth fynychu'r sesiwn, oherwydd gall y cynnwys beri gofid neu sbarduno emosiynau. Cofiwch fod yna amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael pe bai eu hangen arnoch. 

Mae Gwasanaeth Cynghori UMAber yn darparu gwasanaeth cyfrinachol a diduedd am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; gallwch gysylltu â nhw trwy e-bostio undeb.cyngor@aber.ac.uk neu trwy ffonio 01970 621700. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ystod o gymorth argyfwng iechyd meddwl trwy fynd i www.umaber.co.uk/idechydallesiant/iechydmeddwl.

Click here to join the meeting!

More Events