Undeb Cristnogol Cymraeg Aberystwyth

 

 

 

Join

Please log in to join this organisation.
 

 

 

 

 

Rydyn ni am annog pobl i ystyried pwy yw Duw, beth wnaeth Iesu drosom ni a pam bod ots am hynny. Fel criw cyfeillgar, rydyn ni'n barod i sgwrsio ac ateb cwestiynau! (Welsh Language Christian Union)
 

 

 

Rydym yn gymuned o fyfyrwyr Cristnogol Cymraeg yn Aberystwyth sy'n caru lesu ac eisiau rhannu am ei gariad ef yn Gymraeg!

 

Beth yw newyddion da Iesu?!

Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd. Ioan 3:16-17

Mae pawb wedi gwneud pethau drwg - mae’n rhan o fywyd dynol. Ond mae Duw yn farnwr perffaith a byddai'n anheg iddo ganiatáu i'r pethau hyn fynd heb gael eu cosbi. Ella ein bod wedi gwneud pethau da yn ein bywydau hefyd, ond ni all hynny drwsio'r troseddau ‘da ni wedi'u gwneud - ni all barnwr adael i droseddwr fynd, dim ond oherwydd eu bod wedi rhoi i elusen neu wedi helpu'r digartref.

Ond mae newyddion da - fe wnaeth Iesu Grist fyw bywyd perffaith yn ein lle ni. Gan farw ar y groes, cymerodd y gosb rydyn ni yn ei haeddu fel ein bod ni’n gallu cael ein maddau a chael bywyd tragwyddol gyda Duw.

Dydy hyn ddim yn rhywbeth rydyn ni’n gallu ennill neu gael ein hunain, ond mae Duw yn cynnig y bywyd yma yn rhad ac am ddim i bawb.


 

Y ffyrdd gorau o gael gwybod beth sydd gennym ni ar y gweill:

Instagram: www.instagram.com/uccaber

Facebook: www.facebook.com/share/1DNpkss4hv/

Link Tree: linktr.ee/uccaber

 

Yr Undeb Gristnogol Saesneg: 

Instagram: www.instagram.com/aberystwythcu/

Facebook: www.facebook.com/aberystwythcu

Link Tree:   linktr.ee/AberystwythCU
 

 

Digwyddiadau 

Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, sydd ar gyfer pawb sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu dysgu Cymraeg. Os ydych chi yn Gristion neu mond eisiau dysgu mwy am beth mae Cristnogion yn credu, does dim ots - bydd croeso i bawb!

Dyma rai o'r digwyddiadau y byddwn yn eu cynnal eleni…


 

Pob Wythnos:

Cyfarfodydd Darllen y Beibl 

Bob Dydd TBC | I fyny yng nghaffi Canolfan y Celfyddydau | Amser TBC

Rydyn ni am ddod at ein gilydd bob wythnos i agor y Beibl a trafod Gair Duw. Bydd un o’n myfyrwyr yn arwain, neu’n achlysurol, aelodau ac arweinwyr o eglwysi lleol. Fel arfer, rydyn ni’n darllen trwy lyfr penodol yn y Beibl ac yn trafod pob adran ar y tro. 


 

Pob Mis:

Te a Thost

Unwaith y mis, pan fydd SŴN UMCA | Picture House yr Undeb | 9:00yh - 12:00yh

Mae’r nosweithiau Te a Thost yn rai o uchafbwynt aelodau UCCA! Byddwn yn rhoi tost a diodydd am ddim i fyfyrwyr ac rhannu am y gobaith sydd gennym ni yn Iesu. Fel arfer, mae gennym ni gwestiwn ar bwnc llosg ar fwrdd gwyn i ni gael sgyrsiau diddorol. Os oes diwgyddiad SŴN yn cael ei gynnal yn adeilad yr Undeb Myfyrwyr, byddwn ni yno! Dewch draw i dweud helo neu os ydych chi’n chwilio am rywle tawel i sgwrsio. Byddwn ni hefyd yn gwneud Te a Tost yn y Ddawns Ryng-golegol a’r Steddfod Ryng-golegol, felly edrychwch ar ein cyfrifon cymdeithasol i weld lle gallwch chi gael tost am ddim!

 

Cyfarfod gweddi ac addoliad 

Dydd Gwener cyntaf y mis | Alfred Place | 7:30yb

Byddwn ni yn cael amser o addoli gyda’n gilydd, gan ddiolch i Dduw am y mis sydd wedi bod, a gweddio dros y mis o’n blaen. Bydd yn agored i unrhyw un o’r capeli lleol hefyd. 

 

Social UCCA i ddysgwyr

Dydd TBC cyntaf y mis | Cyfarfod ym Mhantycelyn | 7:00yh

Byddwn yn cyfarfod yn Mhantycelyn ond yn mynd i rywle gwahanol bob mis, fel i Dŷ Seidr i chwarae gemau, i’r traeth i gael tân ar goelcerth, mynd am dro a cherdded gyda’n gilydd neu i sesiwn cerddoriaeth gwerin yn nhafarn y Ship and Castle. Edrychwch ar ein socials i cael mwy o wybodaeth yn agosach at y dyddiad!

 

Gofod astudio

Dydd TBC cyntaf y mis | yng nghaffi Canolfan y Celfyddydau | Amser TBC

Bydd gofod astudio yn lle y cyfarfod beibl unwaith yr wythnos, a bydd cyfle inni weithio ar ein gwaith prifysgol, cymdeithasu a helpu ein gilydd. 


 

Digwyddiadau Achlysurol 

 

Gwasanaeth Diolchgarwch 

Dydd Llun, 13eg o Hydref | Eglwys Santes Fair | Amser TBC

Byddwn yn cael gwasanaeth ac amser i addoli a chanu. Byddwn yn casglu ar gyfer bank bwyd hefyd. 

 

Cynger Dolig UMCA

Dydd TBC | Lleoliad TBC | Amsert TBC

Byddwn yn ymuno gyda aelodau UMCA yn eu cyngerdd Nadolig nhw.

 

Y Ddawns Ryng-golegol 

Tachwedd 21ain-23ain | Aberystwyth

Byddwn yn cynnig te a thost i bawb ac yn dechrau sgyrsiau diddorol gyda’r bobl yna. Dewch i ofyn cwestiynau am Gristnogaeth neu i gael eich darn o dost!

 

Eisteddfod rhyngwladol 

Dyddiad TBC | Caerdydd 

Byddwn yn cynnig dŵr am ddim i bobl yn y dydd ac yn rhoi te a thost i’r myfyrwyr yn y nos, ac unrhyw beth arall sydd ei angen i bobl gadw yn gynnes ac yn saff!

No current events
There are no current news articles.