Taith i ffarm bwmpenni leol (Pwmpenni Panthwylog Pumpkins) i godi eich pwmpenni eich hun ar gyfer Calan Gaeaf!
Taith prynhawn: (14:00 - 16:00)
- Gadael Aberystwyth am 1:30yp (gan godi pawb o waelod grisiau Canolfan y Celfyddydau am 1:15yp
-------------------
- Pris y Pwmpenni: yn amrywio rhwng £3 i £12
- Mae yna gemau a phaent i’r wyneb yn y sied yn rhad ac am ddim.
- Mae yna hefyd de, coffi a chacenni i’w prynu yn ogystal â’r pwmpenni.
- Yn y cae pwmpenni mae yno bwll tân bach a stondin i chi brynu marshmallows i’w crasu neu wneud s’mores.
- Mae’r cae pwmpenni hefyd yn llawn golygfeydd ‘instagramadwy’ di-rif!