Mae UMCA yn darparu llais a cymuned i fyfrywr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr a'r chwilfrydig!

Haia, Nanw dw i a fi ydi Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ar gyfer 2025/26.
Gyda dros i 150 o aelodau, UMCA yw sail y gymuned Gymraeg ar hyd y brifysgol a’m swydd i ydy bod yn lais i fyfyrwyr Cymraeg – boed hynny’n lais ar gyfer eich profiad academaidd, eich lles neu wrth ymgyrchu.
Mae ein calendr ni yn llawn amrywiaeth o ddigwyddiadau – tripiau gwahanol, cyfleoedd i chwarae yn y timau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd, nosweithiau gwisg ffansi Cymraeg o’r enw Sŵn a digwyddiadau Rhyng-golegol lle bydd myfyrwyr holl brifysgolion Cymru yn dod at ei gilydd.
UMCA a’r Undeb ehangach yma i’ch cefnogi ar hyd eich cyfnod yn y Coleg ger y Lli. Mae gen i swyddfeydd hefyd yn adeilad Undeb Aber ac yn Neuadd Pantycelyn, felly cofiwch alw heibio!
Swyddogion UMCA
Cadeirydd - Tomos Parry
Is-Lywydd - Gwenno Roberts
Ysgrifennydd - Elliw Mair
Trysorydd - Gwenno Jones
Prif Swyddog Ail Iaith - Indeg James
Swyddog Ail Iaith - Mirain Francis
Swyddog Ail Iaith - Megan Thomas
Prif Swyddog RAG - Gwenno Evans
Swyddog RAG - Ioan Richards
Swyddog RAG - Catrin Hughes
Swyddog Cyhoeddiadau - Hannah Boore
Swyddog Gweithgareddau - Betsan Bryon