‘Troi Ty'n Gartref’

blogswyddogmollyofficerblogwelshwellbeingofficer
No ratings yet. Log in to rate.

Yn gynharach y mis hwn, ar ôl llawer o waith cynllunio, lansiwyd yr arolwg pwysig iawn 'Caru Casáu Barnu' i gael syniad o'ch barn am lety yma yn Aberystwyth. Mae'n arolwg syml iawn sy'n gallu gwneud byd o wahaniaeth i fyfyrwyr eraill yma yn Aber. Bydd yr holl data hyfryd rydyn ni'n ei gasglu'n ein helpu ni i roi sail i newidiadau mewn asiantau gosod, landlordiaid a llety myfyrwyr.

Dylech chi deimlo'n ddiogel mewn llety, dylech chi allu ei alw'n gartref a dychwelyd iddo ar ôl darlith wirioneddol anodd nad oeddech chi am fynd iddi neu ar ôl noson drom allan! Dylech chi allu ymlacio yn eich gwely ynddo a theimlo'n gynnes, yn glyd ac yn hapus ynddo. Dylech chi allu gynnal parti, chwerthin gyda ffrindiau a chreu atgofion melys. Dylai fod yn gartref.

Dwi'n cofio fy fflat gyfan yn eistedd ar fy ngwely sengl bach unwaith yn y flwyddyn gyntaf yn gwylio Tangled ac yn bwyta popgorn. Dyna un o fy atgofion gorau. Dyna'r hyn ddechreuodd fy mhrofiad yn y brifysgol ac, yn y pen draw, penderfynodd faint byddwn i'n caru fy amser yma yn Aber. Mae ffrind ar ôl ffrind yn hel atgofion am eu cydletywyr, y partïon a gafwyd a'r holl ymlacio gyda'r nos gyda'r Domino's a helpon nhw trwy'r misoedd heriol. Ac wrth wneud hynny, maen nhw'n sôn am eu cartrefi.

Yn anffodus, mae myfyrwyr yn wynebu rhwystrau'n llawer rhy aml, sy'n atal eu ty rhag bod yn gartref. Rhwystrau fel problemau gyda'u blaendal, tapiau neu gawodydd yn gollwng dwr, lleithder a llwydni, system wres wedi'i thorri, biliau annerbyniol, rhent diarhebol o uchel a chymaint, cymaint mwy! Yr unig ffordd gallwn ni eich helpu chi i newid unrhyw un o'r problemau hyn yw cael rhywfaint o wybodaeth oddi wrthych. Mae'n hawdd iawn llenwi'r arolwg hwn a gallwch hyd yn oed yn ennill wythnos o rent oddi wrthym ni1 neu dalebau Amazon am roi cyn lleied â 15 munud o'ch amser i ni!

Felly llenwch yr arolwg am gyfle i ennill gwobrau a'n helpu ni i wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr y flwyddyn nesaf, a'r flwyddyn ar ôl hynny a'r flwyddyn ar ôl hynny. Mae'n ddiderfyn!

Llenwch ef nawr yma: www.umaber.co.uk/carucasaubarnu 

 

1Yn seiliedig ar gyfartaledd rhent pum eiddo myfyrwyr a welwyd ar Zoopla – Chwefror 2018.

 

Comments

 
There are no current news articles.