Beth yw dy rôl di yn UMAber?
Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA. Cynrychioli holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Beth yw dy flaenoriaethau? / Ym mha ffordd wyt ti'n cynrychioli myfyrwyr Aber eleni?
Bydd fy rôl i yn gwneud yn siwr bod llais myfyrwyr Cymraeg yn cael ei glywed o fewn y Brifysgol. Mi fyddaf yn cynnal buddiannau'r myfyrwyr o ran eu haddysg, diwylliant a’r gymdeithas Gymraeg. Un o fy addewidion eleni yw datblygu ac ehangu UMCA a’r gymdeithas Gymraeg drwy gyd-weithio â’r system newydd o aelodaeth UMCA am ddim. Yn ogystal, gwneud yn siwr fod Pantycelyn yn cael ei ail-agor fel llety myfyrwyr erbyn Medi 2019.
Sut mae dy ychydig fisoedd cyntaf wedi mynd?
Cyflym, cyffrous, profiadol! Drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn barod, mae’r misoedd diwethaf wedi hedfan. Wrth gael cynrychiolaeth UMCA yn yr Eisteddfod Genedlaethol i drefnu Defod Raddio UMCA, mae’r haf wedi fy mharatoi at y flwyddyn i ddod. Mae trefnu Wythnos y Glas UMCA wedi bod yn waith caled dros ben a gobeithio y bydd yr holl waith yn cael ei adlewyrchu yn yr wythnos llawn hwyl fydd yn digwydd.
Sut all myfyrwyr gysylltu â ti?
Cysylltwch â fi drwy - umcymraeg@aber.ac.uk, neu umca@aber.ac.uk. Neu gallwch gysylltu â fi drwy yrru neges ar Facebook neu twitter.
Oes gen ti unrhyw hintiau handi ar gyfer gwneud ffrindiau yn ystod cyfnod y glas?
Siaradwch a chyflwynwch eich hun i gymaint â phosib o bobl wahanol. Bydd pawb yn yr un cwch, felly peidiwch â bod ofn. Ond yn bwysicach, byddwch yn chi eich hun!
Beth yw eich atgof gorau o wythnos y glas?
Y noswaith gyntaf, Parti Pwnsh ym Mhantycelyn, noswaith lle bu i mi gyfarfod â nifer o bobl oedd yn siarad Cymraeg, pobl ddaeth yn ffrindiau i am y tair blynedd nesaf.
Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf yn ystod wythnos y glas eleni?
Croesawu’r holl fyfyrwyr newydd i UMCA. Bydd yn bleser cyflwyno UMCA a’r bywyd drwy’r Gymraeg yma i’r myfyrwyr newydd drwy rannu fy mhrofiadau a chynnal digwyddiadau drwy’r wythnos. Mae’r cof o gychwyn fy hun yma'n fy sbarduno i greu wythnos mor gyffrous â phosib!
Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fyfyrwyr newydd?
Peidiwch â methu noswaith yn yr wythnos, wnewch chi ond difaru. Mae’n bwysig fod pawb yn dod i nabod chi drwy’r wythnos. Mae’r gymuned Gymraeg yn un glòs iawn, felly bydd yn rhwydd i chi ymuno â theulu UMCA os byddwch eisiau. Er mwyn cael tair blynedd fythgofiadwy yma yn Aberystwyth ac os rydych yn siarad Cymraeg, bydd UMCA yn cyflawni hyn i chi.