Blog ar Pantycelyn

Rhywbeth anodd iawn yw esbonio’r gymdeithas unigryw sy’n bodoli o ganlyniad i Bantycelyn, ond dwi’n credu bod rhoi tipyn o hanes am yr ymgyrch i’w hachub yn rhoi dealltwriaeth o bwysigrwydd y neuadd nid yn unig i’r brifysgol ond i Gymru gyfan.

officerblogwelshrhunwelshWelshaffairs
No ratings yet. Log in to rate.

Rhywbeth anodd iawn yw esbonio’r gymdeithas unigryw sy’n bodoli o ganlyniad i Bantycelyn, ond dwi’n credu bod rhoi tipyn o hanes am yr ymgyrch i’w hachub yn rhoi dealltwriaeth o bwysigrwydd y neuadd nid yn unig i’r brifysgol ond i Gymru gyfan.

Dechreuwyd yr ymgyrch yn ôl yn 2013 pan benderfynodd y brifysgol heb lawer o ymgynghori y byddai Pantycelyn yn cau a byddai myfyrwyr Cymraeg yn symud i neuadd breswyl nad oedd yn gweddu i anghenion Cymdeithas oedd yn bodoli yn Aberystwyth. Mae’r anghenion yma’n cael eu hesbonio mewn dogfen yn 2008 gan nodi fod neuadd hunan arlwyo gyda choridorau agored, yn hytrach na fflatiau, yn ysgogi cymuned i gymdeithasu’n Gymraeg yn gwbl naturiol. Agwedd arall sy’n bwysig i’r neuadd yw’r mannau cymdeithasu megis y lolfa fawr a'r Stafell gyffredin hyn sy’n rhoi’r lle i aelwyd Pantycelyn i ymarfer a sgyrsiau gwleidyddol i gael ei gynnal.

Trwy gydol 2013-2014 cynhaliwyd nifer protestiadau gyda sawl yn derbyn sylw cenedlaethol. Ar un achos rhwystrwyd prif fynedfa'r brifysgol ar ddiwrnod agored ac yng nghanol Chwefror fe gafwyd Rali Fawr Pantycelyn gan orymdeithio amgylch y dref. Dangosodd y protestiadau yma pwysigrwydd llais y myfyrwyr. Daeth uchafbwynt yr ymgyrch gyda 34 o fyfyrwyr yn bygwth ymprydio. O ganlyniad penderfynodd y brifysgol na fydd drysau Pantycelyn yn cau. Roedd yr ymgyrch yn fuddugoliaeth, buddugoliaeth i’r Gymraeg ac i’r lleiafrif sef rhywbeth sydd ddim yn digwydd rhy aml.

Ond daeth tro pedol gan y brifysgol ym mis Mai 2015 gan argymell y byddai'r neuadd yn cau heb unrhyw sicrwydd o’i ail agor. Cafodd y penderfyniad hwn ei weld fel un sarhaus a thwyllodrus gan y brifysgol wrth fynd tu ôl cefn y myfyrwyr. Ail gynnodd fflam yr ymgyrch gyda sylw ehangach cael ei roi ar y neuadd, cafwyd cynnig cynnar yn senedd San Steffan yn annog y brifysgol i newid ei meddwl.  Daeth cefnogaeth gan sawl unigolyn dylanwadol hefyd. Ar ddiwedd y tymor meddiannodd sawl myfyriwr y neuadd a daeth bygwth o ymprydio eto ond gyda nifer yn fwy yn barod i ymprydio. Ar ôl trafodaethau hir gyda’r brifysgol cytunwyd yng nghyngor y brifysgol fod y Neuadd am gael ei adnewyddu o fewn y pedair blynedd nesaf.

Ar argymhelliad y brifysgol, sefydlwyd bwrdd prosiect Pantycelyn a chreodd adroddiad yn edrych ar adnewyddu’r adeilad. Bellach mae’r adroddiad sy’n esbonio cynlluniau adnewyddu’r adeilad wedi ei basio gan y brifysgol. Mae’r bwrdd prosiect yn dal yn weithredol, ond eu gwaith yw craffu ar bob agwedd o adnewyddu’r neuadd. Eleni, mae’r brifysgol wedi penodi penseiri Cymraeg a phenodi Rheolwr Gwelliannau. Y camau nesaf yn yr adnewyddu yw cymeradwyo cynlluniau manwl y penseiri a sicrhau fod y brifysgol yn cadw at ei gair ac yn cyllido’r adnewyddu.

Dylai myfyrwyr gadw golwg agos at ddatblygiadau ym Mhantycelyn, oherwydd mae’n pwysleisio rhinweddau hunaniaeth myfyrwyr Aberystwyth, yr ymdeimlad o berthyn i gymuned â'r rôl annatod sydd gan y Gymraeg i’r Coleg ger y lli.

Roedd Pantycelyn yn rhoi cyfle prin i bobl ifanc Cymru i fyw ac ymrôi eu hunain i’r Gymraeg. Ond mae’n gyfnod pryderus i’r gymuned Cymraeg heb y neuadd Breswyl ar agor ac mae’n bwysicach nag erioed i gadw’r ymgyrch o ail agor Pantycelyn i fynd. I Gymry Cymraeg ifanc mae yna sawl tebygrwydd rhwng Neuadd Pantycelyn ag Ynys Afallon.

Hyd yn oed os nad ydych chi'n gallu siarad Cymraeg, mae i'r neuadd breswyl hon le pwysig yng nghalonau llawer o fyfyrwyr y gorffennol a'r presennol, ac mae'n rhan enfawr o hanes Prifysgol Aberystwyth.

Rydym am annog cynifer o bobl â phosib sydd ddim yn siarad Cymraeg i ymuno â'r ymgyrch i ail-agor Pantycelyn, a mynd at i gyfranogi yng ngwaith UMCA (ein Hundeb Myfyrwyr ar gyfer Siaradwyr y Gymraeg) er mwyn dysgu mwy am ein diwylliant Cymraeg a'n treftadaeth, a dysgu'r iaith am ddim.

Mae hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn bwysig i ni yn UMAber, a byddwn yn parhau i ymladd dros Bantycelyn a chydraddoldeb i'r naill iaith a'r llall.

Comments

 
There are no current news articles.