10 Peth mae UMAber wedi'u Gwneud Drosoch Chi yn 2016

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Helo! A chroeso'n ôl i ddechrau semester 2. Gobeithio bod eich arholiadau'n mynd yn dda, bod eich aseiniadau wedi'u cyflwyno a'ch bod yn edrych ymlaen at dymor newydd cyffrous yn Aber. Gan ei bod yn Flwyddyn Newydd, mae rhai pobl yn hoffi adlewyrchu ar y pethau sydd wedi digwydd dros y flwyddyn a aeth heibio, felly dwi am rannu â chi'r 10 peth mwyaf wnaeth UMAber dros fyfyrwyr yn 2016 (wel... semester 1).

  1. Ymgyrch #SanauStefan
    Lansiwyd ein prif ymgyrch o'r flwyddyn, sydd â'r nod o ddiddymu'r stigma sy'n perthyn i iechyd meddwl, dechrau sgyrsiau ynglyn ag iechyd meddwl a hefyd galw am fwy o gefnogaeth i fyfyrwyr. Hyd yma, mae'r ymgyrch hefyd wedi codi dros £1,000 ar gyfer MIND Aberystwyth, ac mae cefnogaeth yn parhau i dyfu. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen ar y we yn https://www.umaber.co.uk/sanaustefan/
  2. Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    Rydym wedi ymgynghori â myfyrwyr ynglyn â'r hyn maen nhw am ei weld gan wasanaethau iechyd lleol, ac rydym nawr yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd yn lleol i wella gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, iechyd rhywiol a gwasanaethau meddygon teulu. Rydym yn mynd i barhau i weithio'n gynhyrchiol gyda nhw o hyn ymlaen er mwyn sicrhau bod llais myfyrwyr i'w glywed.
  3. Toiledau Rhywedd Niwtral
    Mae'r toiledau ym mar Cwtch bellach yn rhywedd niwtral. Rydym yn credu y dylai pawb deimlo'n gyfforddus y eu crwyn eu hunain, ac mae hwn yn gam rydyn ni wedi'i gymryd i'ch helpu i'r cyfeiriad hwn.
  4. Cyllido Chwaraeon
    Rydym wedi dechrau ystyried sut caiff chwaraeon eu cyllido a'r modelau sydd mewn lle ar hyn o bryd. Dydyn nhw ddim wedi cael eu hadolygu ers cryn amser ac rydym am i hyn weithio cystal â phosib i fyfyrwyr.
  5. Wythnos Lesiant Meddwl ac Ystafell Anwesu Cwn
    Trefnwyd amryw o ddigwyddiadau yn yr undeb yn ystod Wythnos Lesiant Meddwl, er mwyn helpu myfyrwyr â'u llesiant meddwl. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau yoga am ddim a sesiynau yn y ganolfan chwaraeon, yn ogystal â chyfle i gyfnewid llyfrau, gemau bwrdd a llwyth o weithgareddau hwyl eraill. Rydym hefyd yn bwriadu trefnu ystafell anwesu cwn yn ystod cyfnod yr arholiadau er mwyn llacio tyndra ar adeg anodd o'r flwyddyn.
  6. Cyllido ar gyfer Gwirfoddoli, Cynrychiolwyr Academaidd ac Ôl-raddedigion
    Rydym wedi llwyddo cael gafael ar gyllido ychwanegol o tua £5000, sy'n mynd at gynorthwyo prosiectau a datblygiadau gwirfoddoli, cynrychiolwyr academaidd a mentrau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
  7. Mis Codi Arian a Rhoddi (RAG)
    Cynhaliwyd RAG dros gyfnod o fis, lle anogwyd clybiau, cymdeithasau, myfyrwyr a grwpiau myfyrwyr i drefnu digwyddiadau er mwyn codi arian i'w roi i elusennau anhygoel. Mae cyfanswm RAG ar hyn o bryd dros £10,000, ac mae'n parhau i dyfu gydol y flwyddyn.
  8. Mae'r Ferch Hon yn Gallu
    Nod wythnos 'Mae'r Ferch Hon yn Gallu' oedd dwyn sylw at fenywod anhygoel mewn chwaraeon yn Aber; roedd hefyd yn gyfle i annog mwy o fenywod i gyfranogi mewn gweithgareddau chwaraeon, ffitrwydd a llesiant. Llwyddwyd i godi proffil rhai o'n myfyrwyr ein hunain yn ein cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan, yn ogystal â threfnu sesiynau ar gyfer menywod yn unig gydol yr wythnos yn y ganolfan chwaraeon.
  9. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB)
    Rydym yn rhoi pwer i chi ddylanwadu'n uniongyrchol ar y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Cynhaliwyd ein CCB ar 5 Rhagfyr, lle aeth myfyrwyr ati i ysgrifennu, trafod a phasio nifer o gynigion, gan gynnwys Polisi Aflonyddu Rhywiol, cynigion ar gynaladwyedd a galw am ddatblygu cynllun mentora newydd. Mynychwyd ein CCB gan dros 200 o fyfyrwyr - y nifer gorau erioed! Rydyn ni nawr yn gweithio ar eich syniadau.
  10. Wythnos y Glas a Gweithgareddau
    Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr ddod i Aber wythnos yn gynnar a rhoi cynnig ar y chwaraeon a'r cymdeithasau sydd ar gael yn ein Hwythnos Weithgareddau anhygoel; mynychwyd y sesiynau prysur hyn gan dros 50 o fyfyrwyr. Hefyd aethom ati i sicrhau bod Wythnos y Glas yn un arall i'w chofio, pryd cynhaliwyd ein Ffeiriau'r Glas blynyddol, digwyddiadau ar gyfer y Glasfyfyrwyr a digwyddiadau croeso, gan gynnwys ein menter newydd, sef Corneli Sgwrsio.

Wrth reswm, mae UMAber yn gwneud cryn lawer mwy na hyn. Hefyd trefnwyd hyfforddiant ar gyfer eich pwyllgorau chwaraeon a chymdeithasau a'ch cynrychiolwyr academaidd am y flwyddyn, yn ogystal â chynnal etholiadau'r hydref ar gyfer rhai o'n rolau rhan-amser. Mae diwyg newydd i'n hundeb Gymraeg, UMCA, ac mae'n parhau i hyrwyddo hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, a chynnal gwersi Cymraeg am ddim. Rydym hefyd wedi lansio Gair Cymraeg yr Wythnos er mwyn annog mwy o bobl i fynd ati i ddysgu a defnyddio'r iaith. Mae ein Swyddogion wedi gwneud cryn lawer o waith allanol i'ch cynrychioli chi a dyfodol addysg yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gydag UCM, UCM Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff cyllido Addysg Uwch. Ac yn olaf, roedden ni yno yn ystod pob cam o'r broses o ddethol pwy fydd Is-ganghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth, gan wneud yn sicr eu bod yn iawn i'r swydd, ac yn arwain Prifysgol Aber i'r cyfeiriad mae myfyrwyr am ei gweld yn mynd.

Rydyn ni wedi cael amser gwych yn gweithio gyda chi yn ystod y semester cyntaf, ac yn edrych ymlaen at fwy o bethau cyffrous yn UMAber ar gyfer y tymor hwn. Cofiwch fod ein hetholiadau ar y gorwel fis nesaf, yn ogystal â mwy o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd i chi gyfranogi a dylanwadu ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Gwyliwch allan am ein digwyddiadau chwaraeon a chymdeithasau'r tymor hwn, gan gynnwys Superteams, Rhyngolgampau a Rygbi 7-bob-ochr, yn ogystal â digwyddiadau llesiant a fforymau myfyrwyr.

Cofiwch ein bod ni yma i chi; heb fyfyrwyr, fyddai UMAber yn ddim byd. Dyma eich cyfle i gymryd rhan a rhoi gwybod i ni os ydyn ni ar y trywydd cywir, neu os ydych chi'n credu y dylem ni fod yn gweithio ar rywbeth newydd.

I gloi, hoffwn ddymuno pob lwc i chi yn eich arholiadau, ac fe'ch gwelwn yr ochr arall, gan edrych ymlaen at 2017 a blwyddyn arall anhygoel i fyfyrwyr Aber.

Pob cariad,
Lauren

Comments

 
There are no current news articles.