Mae Francesco Lanzi wedi ennill Gwobr ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ Elusennau Cymru

Mae Francesco Lanzi wedi ennill Gwobr ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ Elusennau Cymru

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

 

Mae’n bleser mawr gennym rannu bod Francesco “Fran” Lanzi, Cadeirydd Undeb Aber, wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer categori Gwirfoddolwr y Flwyddyn (25 ac O Dan) yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2025.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn dathlu unigolion a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth rhagorol er budd cymunedau ledled Cymru. Cynhaliwyd y seremoni eleni ddydd Mercher 16eg mis Hydref yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Mae gwobr Fran yn cydnabod ei ymrwymiad rhagorol i fywyd myfyrwyr, chwaraeon a gwirfoddoli. Ers iddo ymuno ag Undeb Aberystwyth, mae wedi ymroi miloedd o oriau i gefnogi digwyddiadau, mentrau, a phrosiectau cymunedol sy’n gwella’r profiad myfyriwr.

Fel Swyddog Cymorth Cyntaf gydag Ambiwlans St John a Gwirfoddolwr gyda’r A-Tîm, mae Fran wedi chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau fod digwyddiadau chwaraeon y Brifysgol ac yn y gymuned yn llwyddo ac yn ddiogel. Wrth y llyw fel Cadeirydd Undeb Aberystwyth, mae wedi ymgyrchu’n frwd dros ennyn cyfranogiad myfyrwyr, gan annog eraill i gymryd rhan mewn gwirfoddoli trwy fentrau megis Gwobr Aber.

Y tu hwnt i’r campws, mae brwdfrydedd Fran am chwaraeon yn parhau trwy ei waith o’i wirfodd fel newyddiadurwr a gohebydd chwaraeon, gan ddarparu sylwebaeth fyw ar gyfer Chwaraeon Cymru a helpu codi proffil chwaraeon myfyrwyr a menywod ar draws Cymru.

Mae ei enwebiad ar gyfer y rhestr fer ar gyfer Gwobr Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion Prydain am Wirfoddolwr-fyfyriwr Chris Potter y Flwyddyn yn amlygu cyfraniad rhagorol Fran i chwaraeon myfyrwyr, gwirfoddoli, a bywyd cymunedol, ac yn gydnabyddiaeth o’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar Undeb Aberystwyth a’r tu hwnt.

Rydym yn falch ofnadwy o bopeth y mae Fran wedi’i gyflawni ac wrth ein boddau yn gweld fod ei waith caled yn cael ei gydnabod gyda’r wobr cenedlaethol anrhydeddus hon. Llongyfarchiadau, Fran!

Comments