Gweithio ar y Cyd i Wella Tai er Budd Myfyrwyr

welsh

Mae’n bleser gennym gadarnhau y byddwn mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol i gynnal archwiliad o’i llety myfyrwyr gyda’r nod o sicrhau caniatáu i bob myfyriwr fyw mewn amgylchedd byw saff, iach, a chefnogol. Bydd yr archwiliad hwn yn edrych ar bob agwedd ar lety myfyrwyr fel yr amlinellir yng Nghod Ymarfer Llety Prifysgolion y Deyrnas Unedig (www.accommodationcode.ac.uk), sy’n gosod safonau ar gyfer rheo li tai myfyrwyr ar draws y sector Addysg Uwch.li tai myfyrwyr ar draws y sector Addysg Uwch.

Daw hyn yn sgil ymrwymiadau a addawyd i ni gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol fis Mai eleni, a fydd yn chwilio am ffyrdd o “atal a lleihau effaith damprwydd a llwydni mewn llety myfyrwyr erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2025-2026”. Ar ben trafodaethau mis Mai, buddsoddwyd dros £10,000 mewn trin ffyrdd-aer a ffaniau echdynnu, gyda rhaglen waith wrthi’n cael ei datblygu, yn ogystal â monitro lefelau lleithder. At hynny, cynhelir prosiect ymchwil yn y Brifysgol ar hyn o bryd sy’n ceisio asesu sut effaith y mae lleithder, gan gynnwys ffactorau eraill, yn ei chael ar bresenoldeb tamprwydd a llwydni. Hoffem atgoffa y dylai unrhyw preswylydd sy’n sylwi ar arwyddion tamprwydd a llwydni eu hadrodd i ddesg gymorth Ystadau - campushelp@aber.ac.uk

Mae’r cod, y mae pob llety sy’n eiddo i’r Brifysgol yn rhwym wrtho, yn amddiffyn eich hawliau i: 

  •  Amgylchedd iach, a saff 
  •  Gwaith trwsio a chynnal prydlon 
  •  Manteisio ar wasanaethau iechyd a llesiant 
  •  Amgylchedd byw glân a dymunol 
  •  Perthynas ffurfiol dan gytundeb gyda’ch landlord 
  •  Amgylchedd byw heb ymddygiad anghymdeithasol

Meddai Tom Bates, Pennaeth Llety ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n bleser gennym gydweithio gydag Undeb Aberystwyth ar y cynllun pwysig hwn, sy’n cydnabod yr effaith y mae amgylchiadau byw yn ei chael ar daith ein myfyrwyr yma yn Aber. Llesiant a phrofiad y myfyrwyr sydd wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae’r archwiliad hwn yn caniatáu i ni fynd ati’n weithgar wrth gynnal safonau uchel yn ein llety. Trwy weithio gyda’n gilydd, fe allwn adnabod lle mae galw am wella, cynnig cyngor a chyfarwyddyd i’n preswylwyr, a pharhau i sicrhau fod ein llety y gorau posib. Pwrpas yr ymdrechion hyn yw sicrhau fod ein llety yn parhau i gyrraedd y safonau uchaf ac yn cefnogi myfyrwyr i ffynnu yn ystod eu hamser yn Aber.”

Meddai Tanaka Chikomo, Swyddog Llesiant Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’r bartneriaeth hon yn dyst i’r hyn y gallwn ei gyflawni pan gaiff lleisiau myfyrwyr eu clywed a bod gweithredu. Braf yw cael gweithio’n gynhyrchiol gyda’r Brifysgol i wneud yn siŵr na fydd rhaid i’r un myfyriwr boeni am broblemau yn eu cartref, er enghraifft llwydni niweidiol. Yn ei hanfod, creu mannau diogel a chroesawus i bob myfyriwr Aber sy’n byw mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol yw hyn”. Cynhelir yr archwiliad hwn yn ystod y misoedd nesaf, gyda chanfyddiadau i lunio strategaeth hir dymor y Brifysgol ar gyfer ei llety yma yn Aberystwyth, gan gynnwys unrhyw welliannau a awgrymir i’r ddarpariaeth o lety".